Skip to main content

Penodiad Prif Weithredwr newydd wedi'i gytuno gan y Cyngor

Paul Mee

Yn dilyn argymhelliad unfrydol gan y Pwyllgor Penodiadau, mae’r Cyngor wedi cytuno i benodi Paul Mee yn Brif Weithredwr parhaol yr Awdurdod Lleol, o 1 Rhagfyr, 2022.

Yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn ddydd Mercher, 6 Mehefin, rhoddodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i Aelodau Etholedig ar y broses o benodi Prif Weithredwr newydd – yn dilyn y cyhoeddiad blaenorol y bydd Christopher Bradshaw yn ymddeol o’r swydd ar 30 Tachwedd, 2022.

Roedd yr wybodaeth ddiweddaraf yn cadarnhau bod y Pwyllgor Penodiadau, yn dilyn proses gyfweld gynhwysfawr, wedi argymell y dylai Mr Mee gael ei benodi i'r swydd. Ar hyn o bryd Mr Mee yw Dirprwy Brif Weithredwr y Cyngor a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant.  Mae hefyd yn cadeirio’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a Phartneriaeth Cymunedau Diogel Cwm Taf.

Yn gyn-fyfyriwr yn Ysgol Gyfun Tonyrefail, dechreuodd Mr Mee weithio ym myd llywodraeth leol am y tro cyntaf yn ystod 1991 yn Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ar gyfer hen Gyngor Bwrdeistref Cwm Rhondda. Trosglwyddodd i Rondda Cynon Taf yn 1996 yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol yng Nghymru, gan wasanaethu'r Awdurdod Lleol yn Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ac yna Rheolwr Prosiect Tai. Yn ddiweddarach cafodd ei benodi'n bennaeth gwasanaeth ar faterion Diogelu a Gorfodi, ac yna Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach.

Cafodd Mr Mee ei benodi'n Gyfarwyddwr Gwasanaeth y Cyngor ar faterion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd (2007 i 2017) ac yn Gyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned (2017 i 2020) cyn ymgymryd â'i swydd bresennol.

Chwaraeodd ran allweddol yn y pandemig, gan helpu i lunio'r Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu. Ac yntau'n aelod annatod o Uwch Arweinwyr y Cyngor, chwaraeodd ran allweddol hefyd wrth lywio gweithgareddau a chamau gweithredu'r Cyngor i gadw pobl yn ddiogel yn ystod y cyfnod digynsail hwnnw, wrth gynghori Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar ei ymyrraeth gofal cymdeithasol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n falch iawn bod yna gefnogaeth unfrydol i benodi Mr Mee yn Brif Weithredwr. Yn y cyfnod rwyf i wedi adnabod Paul, mae e wedi bod yn swyddog rhagorol dros lawer o flynyddoedd i’r Awdurdod Lleol. Cafodd ei addysg yn lleol, ac mae wedi gwasanaethu llywodraeth leol ers dros 30 mlynedd – gan weithio ei ffordd i fyny o fod yn Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yng Nghyngor Bwrdeistref Cwm Rhondda ym 1991, i fod yn aelod annatod o Uwch Arweinwyr y Cyngor yma.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi bod yn aelod hollbwysig o'r Uwch Arweinwyr mewn ymateb i’r pandemig. Mae wedi chwarae rhan hanfodol wrth herio a helpu i lunio'r Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu. Chwaraeodd ran bwysig wrth gynghori Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill am yr hyn y dylen ni fod yn ceisio ei wneud, a’r ffordd orau o ddefnyddio staff llywodraeth leol – a rhoddodd gyngor amhrisiadwy i mi’n bersonol yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd.

“Mae wedi bod yn gyfnod heriol dros ben dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae bron i ddwy flynedd i’r wythnos ers i Paul gael ei benodi’n gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor. Roedd y ddwy flynedd yn hynod o heriol, ac fe fwriodd ati a chamu i'r adwy.  Rwy’n hyderus iawn bod Paul yn swyddog rhagorol, ac fel Arweinydd y Cyngor rwy’n ymddiried yn ei benderfyniadau, ac rwyf o'r farn y dylai fod gan Aelodau hyder llwyr ynddo yntau hefyd.

"Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Chris Bradshaw, sydd wedi bod yn Brif Weithredwr gwych. Allwn i ddim wedi gofyn am well swyddog yn y swydd honno. Llongyfarchiadau ar bopeth rydych chi wedi’i gyflawni yn ystod eich cyfnod yn y swydd.”

Wedi ei bostio ar 14/07/22