Skip to main content

Gwaith adeiladu i ddechrau ar Hwb Trafnidiaeth y Porth

The construction phase of the Porth Transport Hub will shortly begin

Cyn bo hir, bydd gwaith yn dechrau ar adeiladu Hwb Trafnidiaeth y Porth ac ar gyfnewidfa fysiau a rheilffordd integredig ar gyfer y dref. Bydd gwaith sefydlu cychwynnol y safle yn dechrau'r wythnos nesaf a gweddill y gwaith yn digwydd y flwyddyn nesaf.

Wedi'i leoli yn yr orsaf reilffordd bresennol, bydd y datblygiad yn hwb trafnidiaeth fodern a deniadol yng nghanol y dref, a fydd yn darparu trafnidiaeth ddi-dor o ran bysiau a threnau. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys mannau gwefru ceir electronig, safle tacsis, mannau cadw beiciau a gwelliannau ar draws y rhwydwaith Teithio Llesol lleol.

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi sicrhau £3.5 miliwn o'r Gronfa Codi'r Gwastad gan Lywodraeth y DU tuag at gyflawni'r hwb.

Y contractwr sydd wedi'i benodi i gyflawni'r cynllun yw Encon Construction Ltd, a bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ddydd Llun, 17 Ionawr – gan ddechrau gyda sefydlu'r safle. Mae'r contractwr wedi cynghori y bydd yr holl waith yn digwydd rhwng 8am a 6pm yn ystod yr wythnos, a rhwng 8am ac 1pm ar ddydd Sadwrn. Mae disgwyl cwblhau'r gwaith adeiladu yn ystod gwanwyn 2023.

Bydd cerbydau ar gyfer y safle yn mynd ar hyd Stryd Porth a Stryd yr Orsaf. Bydd nifer sylweddol o weithwyr adeiladu a pheiriannau yno, ac felly bydd deunyddiau'n cael eu cludo i'r safle yn rheolaidd. Bydd hyn yn cynyddu nifer y cerbydau sy'n teithio trwy ganol tref y Porth.

Bydd gwasanaethau'r platfform rheilffordd presennol yn parhau yn ôl yr arfer, ond bydd y bont droed i blatfform y de ar gau trwy gydol y datblygiad. Dylai defnyddwyr yr orsaf ddilyn cyfarwyddiadau fydd wedi'u nodi arwyddion. Bydd y contractwr yn ysgrifennu at drigolion a busnesau lleol yn fuan i gyflwyno eu hunan, egluro'r prosiect a darparu manylion cyswllt ar gyfer y safle.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Dyma gyfnod cyffrous iawn wrth inni adeiladu Hwb Trafnidiaeth modern y Porth. Mae dyddiad dechrau'r gwaith adeiladu bellach wedi'i gadarnhau wedi i'r Cyngor sicrhau cyllid gwerth £3.5 miliwn ar gyfer y prosiect a phenodi contractwr.

“Yr hwb trafnidiaeth yw’r prosiect canolog ar gyfer Strategaeth Adfywio'r Porth ehangach. Bydd yr hwb yn defnyddio safle'r dref yn borth i Gwm Rhondda Fach a Chwm Rhondda Fawr, ac yn manteisio ar amlder cynyddol gwasanaethau trên a fydd yn cael eu darparu gan gynllun Metro De Cymru o 2024 ymlaen. Trwy ddod â gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau ynghyd, bydd gwell ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus fel bod gan breswylwyr gyfle i fanteisio ar wasanaethau lleol, swyddi a thai.

“Mae'r Strategaeth Adfywio ehangach wedi dwyn ynghyd nifer o brosiectau lleol pwysig – o drosi Plaza'r Porth yn Hwb Cymunedol, ehangu'r ddarpariaeth Parcio a Theithio, uwchraddio'r tir cyhoeddus, helpu landlordiaid a busnesau i wneud gwelliannau blaen siop gan ddefnyddio'r Grant Cynnal a Chadw Canol Trefi, a darparu Wi-Fi am ddim i'r cyhoedd.

“Rwy’n falch y bydd y gwaith adeiladu Hwb Trafnidiaeth y Porth yn dechrau'r wythnos nesaf, gyda gwaith sefydlu’r safle yn dechrau ddydd Llun. Bydd mwy o draffig adeiladu trwy ganol y dref wrth inni gyflawni gwelliannau trafnidiaeth gyhoeddus sylweddol er budd y dref i'r dyfodol, ond bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r contractwr er mwyn lleihau'r tarfu cymaint ag sy'n bosib."

Cymeradwyodd Aelodau’r Cabinet y cynigion ar gyfer Hwb Trafnidiaeth y Porth yn 2019 yn dilyn proses ymgynghori helaeth, a chafwyd caniatâd cynllunio llawn ym mis Mawrth 2021. Mae tri adeilad (Canolfan Oriau Dydd Alec Jones, Banc 'Barclays' a meddygfa Porth Farm) wedi’u dymchwel ar gyfer paratoi’r safle.

Wedi ei bostio ar 12/01/2022