Skip to main content

Y Cabinet i drafod Strategaeth Gyllideb Ddrafft y Cyngor ar gyfer 2022/23

Yn dilyn Setliad Llywodraeth Leol ffafriol gan Lywodraeth Cymru, bydd y Cabinet yn mynd ati i drafod Strategaeth Gyllideb Ddrafft y Cyngor ar gyfer 2022/23. Bydd yn cynnwys £11.2miliwn ychwanegol ar gyfer y gyllideb ysgolion, y cynnydd isaf erioed yn Nhreth y Cyngor ar gyfer y Fwrdeistref Sirol a chyflog sy'n uwch na'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer ein staff a darparwyr gofal cymdeithasol sy'n cael eu comisiynu gan y Cyngor.

Bydd y Cabinet yn mynd ati i drafod adroddiad sy'n amlinellu cynigion mewn perthynas â chyllideb y flwyddyn nesaf yn ystod ei gyfarfod ddydd Iau, 27 Ionawr. Mae'r strategaeth gyllideb ddrafft yn seiliedig ar y setliad dros dro, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr ac sy'n nodi y bydd Rhondda Cynon Taf yn derbyn cynnydd mewn cyllid gwerth 8.4% ar gyfer 2022/23.

Mae’r setliad dros dro yn darparu lefel o gyllid sy'n uwch na’r hyn a gafodd ei modelu a'i chyflwyno i'r Cyngor yn gynnar yn yr hydref, gan adlewyrchu’r pwysau o ran cyllid sydd ym mhob rhan o fyd Llywodraeth Leol a chydnabod y rôl hollbwysig y mae Cynghorau lleol yn parhau i’w chwarae wrth ymateb i’r pandemig a diogelu cymunedau.

Bydd yr adroddiad sy'n cael ei gyflwyno ddydd Iau hefyd yn rhoi adborth o'r ymgynghoriad â'r cyhoedd a gynhaliwyd yn ddiweddar. Roedd dros 1,000 o drigolion wedi ymgysylltu â'r ymgynghoriad yma.

Uchelgais y Cyngor yw sicrhau bod y gyllideb mor deg â phosibl, gan dargedu adnoddau i feysydd allweddol a cheisio peidio ag effeithio'n ormodol ar wasanaethau.  Mae'r setliad yma wedi caniatáu i'r Strategaeth Gyllideb Ddrafft gynnwys y canlynol:

  • Diogelu gwasanaethau'r Cyngor - heb unrhyw doriadau i wasanaethau unwaith eto, fel sydd wedi digwydd ers 2017.
  • Cynnydd o 1% yn Nhreth y Cyngor - y sefyllfa orau ers blynyddoedd lawer, mae hyn yn is na’r cynnydd o 2.65% yr ymgynghorwyd arno. Unwaith eto, dyma gynnydd fydd ymhlith yr isaf ledled Cymru.
  • Isafswm cyflog sy’n uwch na’r Cyflog Byw Gwirioneddol – cynyddu'r lefel hon i £10 yr awr o 1 Ebrill, 2022, mae hyn yn berthnasol i staff y Cyngor a staff ym meysydd gofal cymdeithasol a gomisiynir.
  • £11.2 miliwn ychwanegol ar gyfer y gyllideb ysgolion – mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 6.8% gan sicrhau bod ein hysgolion yn cael eu hariannu’n llawn ar gyfer y flwyddyn nesaf.
  • Cyfanswm o £15miliwn ychwanegol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol (gan gynnwys Gwasanaethau Cymuned) – mae hyn yn cynnwys adnoddau ychwanegol i fynd i’r afael â’r galw cynyddol, drwy ddatblygu’r gweithle ymhellach, cefnogi’r broses ailfodelu barhaus ac integreiddio gwasanaethau, a helpu plant rhag symud i’r system derbyn gofal.
  • Arbedion effeithlonrwydd pellach gwerth £4.9 miliwn – gan barhau i wneud arbedion cyllidebol heb gael effaith niweidiol ar ddarpariaeth gwasanaethau rheng flaen.
  • £100,000 ychwanegol ar gyfer y Cynllun Rhyddhad Lleol ar gyfer Ardrethi Annomestig – cynyddu’r gyllideb ar gyfer y cynllun i £300,000 gan ddarparu cymorth y mae wir ei angen ar fusnesau lleol.
  • £500,000 ychwanegol i fynd i'r afael â materion Newid yn yr Hinsawdd – bydd hyn yn helpu gyda gwaith pellach mewn meysydd allweddol megis gwefru cerbydau trydan, prosiectau cynhyrchu ynni, a chynlluniau bioamrywiaeth a Theithio Llesol, ochr yn ochr ag adnoddau cyfredol.
  • £200,000 ychwanegol ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd – mae’r gwasanaethau hyn yn chwarae rôl allweddol wrth ddiogelu lles trigolion, cymunedau a busnesau.
  • Rhewi Ffioedd – ar gyfer y Gwasanaeth Hamdden am Oes, Pryd ar Glud/prydau'r Canolfannau Oriau Ddydd, prydau ysgol, costau meysydd parcio, ffioedd meysydd chwarae, costau llogi meysydd chwarae 3G, Trwyddedau Tacsi a Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda/Lido Ponty.
  • Sicrhau bod y cynnydd o ran costau a ffioedd yn is na'r gyfradd chwyddiant– 2.5% fydd y cynnydd cyffredinol o ran costau a ffioedd, mae hyn yn is na’r gyfradd chwyddiant gyfredol sef 5.4%, bydd y costau ychwanegol yn cael eu talu gan y Cyngor.
  • Cyllid gwerth £1 miliwn ar gyfer materion buddsoddi – mae hyn er mwyn bwrw ymlaen â rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol y Cyngor a chyflawni ei flaenoriaethau allweddol.
  • £75,000 ychwanegol ar gyfer Cymorth Ieuenctid Datgysylltiedig.

Bydd y Cabinet yn trafod y Strategaeth Gyllideb Ddrafft ddydd Iau ochr yn ochr ag amserlen a argymhellir i bennu'r gyllideb refeniw ar gyfer 2022/23. Mae hyn yn cynnwys ail gam yr ymgynghoriad ar y gyllideb sy'n seiliedig ar y cynigion.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae’r Setliad Llywodraeth Leol dros dro yn cyflwyno sefyllfa ffafriol ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn 2022/23, gyda chynnydd gwerth 8.4% yn y gyllideb sy’n adlewyrchu’r pwysau ariannol parhaus a’n hymateb i’r pandemig. Dyma’r sefyllfa orau ers i mi ddod yn Arweinydd y Cyngor yn 2014, ac mae’n caniatáu i Aelodau’r Cabinet edrych ar fuddsoddi'n sylweddol yn y gwasanaethau hollbwysig sy'n cefnogi'n cymunedau.

“Mae’r gyllideb ddrafft a fydd yn cael ei thrafod ddydd Iau yn cynnwys cynyddu'r isafswm cyflog yn uwch na'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Rydyn ni wedi bod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol ers blynyddoedd lawer, a chafodd y cynllun yma'i ddiwygio ym mis Rhagfyr i gynnwys holl staff gofal cymdeithasol y sector annibynnol sy'n cael eu cyflogi gan ddarparwyr gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu comisiynu. Rydw i'n falch iawn bod yna gynnig i gynyddu cyflog staff yn uwch na'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

“Mae’r cynigion hefyd yn nodi arbedion effeithlonrwydd pellach gwerth £4.9 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hyn ar ben y £4.6 miliwn a nodwyd yn y gyllideb gyfredol. Mae cyfanswm yr arbedion effeithlonrwydd yn cyfateb i oddeutu £100 miliwn yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

“Mae’r cynnydd arfaethedig o 1% yn Nhreth y Cyngor yn cynrychioli’r cynnydd arfaethedig isaf ers sefydlu Cyngor Rhondda Cynon Taf. Cafodd ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig diweddaraf ei fodelu ar gynnydd o 2.65%, ond gan ystyried y setliad mwy ffafriol ac yn sgil ei gydbwyso yn erbyn pwysau parhaus ym mhob un o'n gwasanaethau gan roi sylw dyledus i'r pwysau sydd ar incwm aelwydydd, mae bellach wedi'i fodelu ar gynnydd o 1%. Mae'n debygol y bydd y cynnydd yma ymhlith yr isaf yng Nghymru unwaith eto.

“Mae’r strategaeth hefyd yn cynnwys cyllid ychwanegol a fyddai’n cael ei ddyrannu i'n gwasanaethau allweddol – gan gynnwys £11.2miliwn ar gyfer ein hysgolion, £15miliwn ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol (gan gynnwys Gwasanaethau Cymuned), £500,000 i fynd i’r afael â materion Newid yn yr Hinsawdd, £100,000 ar gyfer y Cynllun Rhyddhad Lleol ar gyfer Ardrethi Annomestig, £200,000 ar gyfer Iechyd y Cyhoedd, cyllid gwerth £1miliwn ar gyfer buddsoddi a £75,000 ar gyfer Cymorth Ieuenctid. Bydd y Cyngor hefyd yn talu peth o'r costau sy'n gysylltiedig â'r cynnydd cyffredinol mewn Ffioedd a Chostau, gan sicrhau bod trigolion yn talu costau sydd llawer yn is na'r gyfradd chwyddiant.

“Er bod y sefyllfa ar gyfer y flwyddyn nesaf yn un gadarnhaol, dylid nodi bod y setliad yn cynnig lefel cyllideb dangosol ar gyfer y tair blynedd nesaf - gan amlinellu cynnydd gwerth 3.5% ar gyfer 2023/24 a 2.4% ar gyfer 2024/25. Mae hyn yn seiliedig ar bwysau parhaus ac effaith barhaus y pandemig gan awgrymu sefyllfa llai cadarnhaol. Mae'n bosibl y byddwn ni'n wynebu pwysau tebyg i'r pwysau a welwyd yn y blynyddoedd diwethaf unwaith eto. Byddwn ni'n parhau â’n trefniadau rheolaeth ariannol a Chynllunio Ariannol Tymor Canolig ofalus a chadarn i liniaru’r pwysau hyn wrth symud ymlaen.”

Cafodd Cam Un o ymgynghoriad y Cyngor mewn perthynas â'r Gyllideb ei gynnal rhwng 26 Hydref a 7 Rhagfyr, 2021. Ymgysylltwyd â dros 1,000 o drigolion, gan ddefnyddio arolwg ac arolwg barn byr.

Roedd 72% o'r bobl a ymatebodd i'r arolwg yn cytuno y dylai'r Cyngor dalu'n llawn am y costau cyflog uwch a'r costau nad ydyn nhw'n ymwneud â chyflogau yn ein hysgolion, cytunodd 87% y dylai'r Cyngor barhau i flaenoriaethu'r Gwasanaethau Cymdeithasol fel maes buddsoddi allweddol, cytunodd 51% y dylai'r cynnydd o ran Ffioedd a Chostau gyfateb i'r gyfradd chwyddiant, a chytunodd 86% â dull y Cyngor o ran arbedion effeithlonrwydd. Mae adroddiad llawn mewn perthynas â'r ymgynghoriad wedi'i gynnwys yn yr Atodiad i'r adroddiad i'r Cabinet.

Wedi ei bostio ar 20/01/2022