Skip to main content

PERCHENNOG CŴN WEDI GADAEL I DDAU GI GRWYDRO

Mae perchennog cŵn anghyfrifol o bentref Bryn y Rhedyn, Aberpennar, wedi cael dirwyon ac yn gorfod talu costau o dros £370 gan y llys.

Fe wnaeth y troseddwr adael ei DAU GI grwydro o amgylch yr ystâd ar eu pennau eu hunain, ble roedd y ddau ohonyn nhw'n rhydd i faeddu yn y stryd ac ardaloedd cymunedol cyfagos cymaint ag y dymunon nhw.

Cafodd y fenyw ddirwy o £220, ei gorchymyn i dalu costau o £120 a gordal i ddioddefwr o £35 – gan ddod â'r cyfanswm i £374.

Roedd y Swyddogion Gorfodi'n dyst i'r ddau gi yn baeddu, ac felly fe wnaethon nhw eu dilyn nhw yn ôl i'w 'cartref', ble cwrddon nhw â'r perchennog a oedd yn gwbl anymwybodol bod ei chŵn wedi baeddu yn yr ystâd.

Mae ein neges i berchnogion anghyfrifol yn syml – 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR Y CAEAU'. Mae'r negeseuon yma wedi cael eu paentio mewn melyn llachar ar y strydoedd, heolydd, caeau ac mewn mannau poblogaidd i gerdded cŵn fel bod yn neges yn GLIR i bawb.

Mae neges y Cyngor yn glir – os bydd Swyddog Gorfodi yn dal perchennog ci anghyfrifol yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, bydd y Cyngor yn gweithredu ac yn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £100.

Mae'r perchnogion cŵn anghyfrifol wedi sylweddoli os nad yw'r hysbysiad yn cael ei dalu, bydd modd i hyn arwain at achos llys a chael dirwy llawer yn fwy. Mae'n bosibl y caiff manylion eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Cyflwynwyd pryderon allweddol y Gorchymyn Mannau Cyhoeddus ac Amddiffyn (PSPO) yn Rhondda Cynon Taf bum mlynedd yn ôl (Hydref 2017) ac un o'r prif bryderon yw baw cŵn ar gaeau chwaraeon. Hyd yn oed ar ôl codi baw cŵn oddi ar arwyneb y cae, mae darnau ohono yn glynu at y gwair a'r pridd. Mae hyn yn ffiaidd ac yn beryglus - gallai arwain at oblygiadau iechyd difrifol all newid byd i unrhyw un sy’n dod mewn cysylltiad â’r baw.

Fydd Cyngor Rhondda Cynon Taf DDIM yn goddef perchnogion anghyfrifol sy'n gadael i'w cŵn faeddu ar ein caeau chwaraeon! Ein Cyngor ni oedd y cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran cadw cŵn dan reolaeth ac fel y gwelwch chi yn yr achos yma, mae'r gwaith caled yn parhau wrth i'r garfan orfodi ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol a'u dwyn i gyfrif BOB TRO.

Mae'r Cyngor hefyd yn gofyn i glybiau roi gwybod am unrhyw broblemau ac achosion o faw cŵn ar y caeau trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn fel bod modd i ni eu cefnogi a chydweithio er diogelwch y chwaraewyr.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

“Mae’r mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol ond yn anffodus, dyw rhai perchnogion cŵn ddim i’w gweld yn sylweddoli bod methu â chlirio baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus yn anghyfreithlon. Mae’n ddolur llygad ar ein Bwrdeistref Sirol yn ogystal â'r goblygiadau iechyd difrifol i’r gymuned sy'n deillio o'r broblem ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu’r broblem yma.

"Ar ôl derbyn cwynion gan drigolion lleol a gweld y broblem â fy llygaid fy hun, bydd y Wardeiniaid Cymunedol a'r garfan orfodi yn uno i gynyddu'r presenoldeb ar ein strydoedd i fynd i'r afael â phroblem sy'n cael effaith fawr ar ein caeau chwaraeon. Cafodd nifer o glybiau eu heffeithio'n wael gan COVID-19 a dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw gael eu gorfodi i ganslo sesiynau oherwydd bod perchnogion anghyfrifol a diog yn methu â dilyn rheolau.

“Byddai’n well gyda'r Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a cherddwyr cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon sy'n hawdd eu hosgoi. Os bydd pawb yn talu sylw i'r negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac yn gweithredu’n gyfrifol, bydd modd i bawb fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baw cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/bawcwn.

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf – yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EnvironmentalHealthandPollution/Dogs/WherecanIwalkmydog.aspx

Wedi ei bostio ar 07/12/22