Skip to main content

Cegaid o Fwyd Cymru

Big Bite-17

Dychwelodd achlysur arbennig Cegaid o Fwyd Cymru i Barc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd y penwythnos yma gan dorri'r record flaenorol wrth i 30,000 o bobl ymweld â'r parc yn yr haul.

Roedd y parc yn llawn bwyd blasus, hwyl i deuluoedd, arddangosfeydd coginio byw a rhagor ar 6 a 7 Awst wedi i'r garfan Achlysuron sicrhau bod yr ŵyl yn dychwelyd mewn steil.

Daeth dau gogydd i wneud arddangosfeydd byw yn y gegin a chafodd yr hen ffefryn, Geoff Tookey, groeso cynnes unwaith eto. Ymunodd Nerys Howell ag ef i ddangos sut i wneud bwyd arbennig gan ddefnyddio'r cynnyrch Cymreig lleol gorau sydd ar gael. Bwriwch olwg ar ein gwefan i lawrlwytho rhai o'u ryseitiau ac i gael rhagor o wybodaeth.

Roedd y fwydlen yn llawn bwydydd a diodydd hyfryd gan gynnwys brownis a thoesenni, nwdls, pysgod a sglodion arobryn, byrgyrs, pitsa, bwyd Indiaidd, deli a rhagor.

Roedd hefyd arlwy eang o fwyd a diod ar gael i'w blasu ac i fynd â pheth gartref.

Cafodd ymwelwyr gyfle i fwynhau sioeau gan AIM Academy yn arddangos eu sgiliau parkour, neidio a fflipio mentrus ac i weld sioeau adar Black Mountains Falconry a dysgu am sut mae adar ysglyfaethus yn hedfan ac yn hela.

Roedd y gynulleidfa ar bigau'r drain wrth wylio tîm beicio mynydd dull rhydd Savage Skills wrth i'r beicwyr o fri arddangos eu triciau.

Mwynhaodd nifer o bobl yr ystod o gwrw a seidr oedd ar gael yn yr ardd gwrw - pob un ohonyn nhw wedi'u bragu yn lleol.

Roedd ffair, fferm anwesu, stondinau gwybodaeth a gweithgareddau i ymuno â nhw ar gael trwy'r penwythnos - roedd rhywbeth at ddant pawb.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Am benwythnos i achlysur Cegaid o Fwyd Cymru! Wedi dwy flynedd o seibiant yn sgil pandemig y coronafeirws, dychwelodd yr achlysur yn 2022 a daeth 30,000 o ymwelwyr  - mwy nag erioed o'r blaen.

"Diolch yn fawr i garfan Achlysuron RhCT am eu gwaith i sicrhau llwyddiant yr achlysur,  staff yr holl sioeau ac arddangosfeydd ac i bawb a ddaeth i'r parc i ymuno â'r hwyl.

"Unwaith y flwyddyn mae achlysur Cegaid o Fwyd Cymru'n cael ei gynnal ond mae arlwy anhygoel o fwyd a diod ar gael yn Rhondda Cynon Taf trwy gydol y flwyddyn. Bwriwch olwg ar gyfryngau cymdeithasol RhCT am ragor o ysbrydoliaeth flasus.

"A wnaethoch chi fwynhau Cegaid o Fwyd Cymru ac ydych chi’n awyddus i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn Rhondda Cynon Taf? Dilynwch Achlysuron RhCT ar y cyfryngau cymdeithasol neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/Achlysuron i weld y newyddion diweddaraf am achlysuron yn yr ardal. Mae Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio, Gŵyl Goffa, Rhialtwch Calan Gaeaf ac Ogof Siôn Corn i gyd ar y gweill."

 

Roedd Cegaid o Fwyd Cymru 2022 wedi'i noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae ei staff cyfeillgar ac ymroddgar yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn darparu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 25 mlynedd.

 

 

Wedi ei bostio ar 10/08/22