Skip to main content

CROESO RhCT mawr i bobl o Wcráin

Mae croeso mawr yn cael ei roi ar draws Rhondda Cynon Taf i holl ddinasyddion Wcráin sydd wedi'u lleoli yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd.

Mewn ymgais i wneud popeth mor hawdd â phosibl i'r Wcrainiaid a'u gwesteiwyr, mae porth gwybodaeth newydd wedi'i greu, sydd â'r nod o ddwyn ynghyd yr holl wybodaeth y sydd ei hangen arnyn nhw a'u cyfeirio at y gwasanaethau perthnasol yn y Fwrdeistref Sirol gywir. Ewch i https://bipctm.gig.cymru/cyngor-i-gleifion/cefnogaeth-wcrain/.

Mae dros 170 o ddinasyddion Wcráin bellach wedi cyrraedd Rhondda Cynon Taf ac yn cael eu cefnogi gan wasanaethau lleol i'w helpu i ymgartrefu.

Mae nifer o'r rhain eisoes wedi dod o hyd i swydd yn llwyddiannus ac mae rhai bellach yn talu am eu llety eu hunain.

Mae hyn oll wedi'i wneud yn bosibl diolch i haelioni pobl Rhondda Cynon Taf, sydd wedi agor eu cartrefi i helpu'r rhai sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin.

Mae’r cymorth y mae’r teuluoedd yn ein bwrdeistref sirol yn ei roi eisoes yn achub bywydau fel y gall un fam a’i merch dystio.

Ar ôl iddyn nhw gyrraedd eu gwesteiwyr, o dan gynllun Cartrefi i Wcráin, dechreuodd y ferch deimlo'n sâl gyda phoen stumog dirdynnol - a drodd allan i fod yn llid y pendics. Roedd y cyflwr mor ddifrifol fel roedd angen gofal meddygol brys arni trwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn ffodus, mae hi wedi gwella'n llwyr. Arweiniodd y cyswllt a sefydlwyd gyda’r Cyngor iddi geisio cymorth parhaus gan wasanaethau’r Cyngor, sydd ar gael i holl drigolion Rhondda Cynon Taf. Diolch i’r gefnogaeth yma, mae'r fam a'r ferch yn awr yn gweithio, yn astudio ac yn archwilio popeth sydd gyda ni i’w gynnig yn y Fwrdeistref Sirol a thu hwnt. Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'r teulu yma, ond maen nhw'n dal i golli'r cartref a'r anwyliaid maen nhw wedi gadael ar ôl.

Yn eu cyngerdd blynyddol diweddar, bu Côr Meibion Cwm-bach ynghyd ag ysgolion lleol yn helpu i groesawu ymwelwyr o Wcráin o bob rhan o’r Fwrdeistref Sirol, trwy ganu caneuon o obaith a hyd yn oed ddysgu rhai anthemau traddodiadol o Wcrain. Rhoddwyd croeso cynnes iawn iddyn nhw, i wlad y gân, yn y ffordd fwyaf traddodiadol Cymreig.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

“Mae fy nghalon yn torri pan rydw i'n meddwl am y sefyllfa ofnadwy sy'n parhau yn Wcráin. Rydw i'n annog pawb sy'n gallu helpu i wneud hynny.

“Fel Cyngor rydyn ni'n sefyll gyda phobl Wcráin, a byddwn ni'n parhau i helpu’r rhai sy’n cyrraedd Rhondda Cynon Taf. Mae'r ysbryd cymunedol yn y Fwrdeistref Sirol yma wedi'i brofi dro ar ôl tro dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a gwn y bydd pawb yn cyd-dynnu unwaith eto i roi croeso cynnes i bobl Wcráin.

“Rydyn ni wedi ymestyn y cynnig cymorth Cartrefi i Wcráin o £200 ar gyfer pob un o ddinasyddion Wcráin sy’n cyrraedd RhCT. Yn ogystal, rydyn ni'n cynnig aelodaeth Hamdden am Oes am ddim am 6 mis i bawb sy'n cyrraedd o Wcráin trwy'r llwybrau Cartrefi i Wcráin, cynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru neu'r llwybr Fisa Teuluol. Rydyn ni’n credu y dylen nhw gael yr un cymorth beth bynnag.”

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus ar gael i ddinasyddion Wcráin a'u gwesteiwyr i'w helpu i ymgartrefu cyn gynted â phosibl. Dydy’r gwasanaethau ddim yn wahanol i’r rhai mae modd i bob un o drigolion ein Bwrdeistref Sirol eu cyrchu – o le mewn ysgol i gymorth i helpu i sicrhau cyflogaeth, ac o gael manteisio ar grŵp cymunedol i wirfoddoli i helpu yn ein cymunedau.  

Mae swyddogion asesu llesiant yno i'w helpu i ymgartrefu yng nghymunedau Rhondda Cynon Taf. Mae’r asesiadau’n cofnodi cryfderau ac anghenion yr unigolyn a’r teulu, gan gynnwys hobïau, dyheadau, a chynlluniau ar gyfer y dyfodol, a hefyd yn nodi camau gweithredu sydd eu hangen i gefnogi’r teulu/unigolyn ymhellach. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau cyfagos i sicrhau bod holl ddinasyddion Wcráin yn manteisio’n llawn ar y gwasanaethau gofal iechyd sydd eu hangen arnyn nhw mewn da bryd.

Mae modd i unrhyw un sy'n aros yn Rhondda Cynon Taf a'u gwesteiwyr gael gwybodaeth yma: www.rctcbc.gov.uk/CymorthiWcrain neu drwy ffonio'r llinell gymorth bwrpasol 01443 425020 neu e-bostio CymorthiWcrain@rctcbc. gov.uk.

Wedi ei bostio ar 10/08/2022