Skip to main content

Trefniadau traffig dros dro yn Llantrisant er mwyn gwneud atgyweiriadau hanfodol i wal

One-way traffic arrangements will be introduced at High Street/Church Street in Llantrisant

**DIWEDDARIAD, 05/05/22 – gwasanaeth bws ychwanegol.

Bydd system draffig unffordd dros dro yn cael ei gweithredu ar y Stryd Fawr a Stryd yr Eglwys yn Llantrisant. Mae hyn i sicrhau amgylchedd diogel i ddefnyddwyr y ffyrdd, cerddwyr a’r gweithlu, wrth i waith atgyweirio i wal gynnal barhau.

Cafodd y strwythur ei nodi yn un sydd angen ei atgyweirio ar frys ac yn dilyn gwaith monitro agos, ymgymerodd y Cyngor â gwaith brys dros nos ar 23 Mawrth i dynnu rhan o'r wal a oedd wedi'i difrodi. Caewyd lôn/troedffordd dros 35 metr o’r Stryd Fawr, o’i chyffordd â Stryd yr Eglwys.

Penodwyd Spectrum Construction Services Ltd i wneud y prif waith atgyweirio, a ddechreuodd dair wythnos yn ôl ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau dros yr haf.

O ddydd Mercher, 20 Ebrill (tua 8pm ar ôl gwasanaethau bws lleol), bydd system unffordd ar gyfer traffig yn cael ei chyflwyno ar y Stryd Fawr a Stryd yr Eglwys, er mwyn sicrhau bod modd i'r gwaith fynd rhagddo'n ddiogel. Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys ac i gerddwyr.

Bydd y system unffordd ar y Stryd Fawr yn gweithredu i gyfeiriad y de yn unig (h.y. i lawr yr allt yn unig), rhwng ei chyffyrdd â Stryd y Fasnach a'r Stryd Fawr. Bydd llwybr amgen ar gyfer modurwyr yn cael ei arwyddo’n glir drwy Heol Talbot, yr A4119, Ffordd Fynediad Parc Busnes Llantrisant, Heol-y-Sarn (Heol y Comin) a’r Stryd Fawr. Bydd arwyddion dargyfeirio ychwanegol hefyd yn cael eu gosod ar ochr ddeheuol y system unffordd.

Bydd y system unffordd ar Stryd yr Eglwys yn gweithredu i gyfeiriad y gorllewin yn unig, o’i chyffordd â'r Stryd Fawr i’w chyffordd â Stryd y Castell. Bydd llwybr amgen ar gyfer modurwyr yn cael ei arwyddo’n glir ar hyd Stryd yr Ysgol, Stryd yr Alarch, Cylch y Teirw a’r Stryd Fawr.

Mae modd dod o hyd i fapiau sy’n dangos y ffyrdd sydd wedi'u cau a'r systemau unffordd ar y Stryd Fawr a Stryd yr Eglwys ar wefan y Cyngor. LINK

Sylwch, fydd y trefniadau traffig yma ddim yn effeithio ar wasanaethau bysiau lleol sy'n teithio tuag at Donysguboriau ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Er hynny, fydd dim modd i Wasanaeth 100 cwmni Edwards (Ysbyty Brenhinol Morgannwg i Bontypridd) na gwasanaeth 400 y NAT Group (Porthcawl i Bontypridd) wasanaethu Hen Dref Llantrisant. Byddan nhw'n dargyfeirio ar hyd Cross Inn, Porth y De, yr A473 a Gwaunmeisgyn/Beddau, cyn ailafael yn eu llwybrau arferol i Bontypridd.

Dylai teithwyr sy'n teithio i Lantrisant o Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Tonysguboriau a thu hwnt deithio tua'r gogledd i Sgwâr Beddau, ac yna gysylltu â gwasanaethau eraill sy’n teithio’n ôl i Hen Dref Llantrisant.

Sylwer, fydd dim rhaid i deithwyr dalu am ddau docyn wrth deithio i'r gogledd i'r Beddau ac yna i'r de yn ôl i Lantrisant tra bod y system un ffordd dros dro yn ei lle. Bydd NAT Group ac Edwards Coaches yn derbyn y tocyn gwreiddiol a gafodd ei roi gan y naill weithredwr neu'r llall ar gyfer y daith yma.

**Yn dilyn yr adborth a ddaeth i law, mae modd i'r Cyngor gadarnhau ei fod wedi adolygu'r ddarpariaeth bysiau bresennol ac wedi nodi gwelliannau pellach. O ddydd Mercher 4 Mai, bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim ar gael o Hen Dref Llantrisant (dydd Llun i ddydd Gwener yn unig). Edwards Coaches fydd yn gweithredu'r gwasanaeth yma. Bydd teithiau o Orsaf Fysiau Tonysguboriau ar gael bob dwy awr rhwng 10am a 4pm. Bydd yn teithio dros Gomin Llantrisant, gan stopio ger Llety Gwarchod Gwaun Rupera, Heol Gwynno a Stryd yr Alarch ar y ffordd i Gylch y Teirw. Wedyn, bydd yn teithio ar hyd Heol y Bont-Newydd, Dan Caerlan, Brynteg a Sgwâr Beddau er mwyn cysylltu â Gwasanaethau 90 a 100 Edwards i Bontypridd, a Gwasanaeth 404 NAT Group i Bontypridd trwy Benycoedcae.

Mae hefyd angen diwygio llwybrau cludiant ysgol lleol (o 25 Ebrill) oherwydd y trefniadau traffig newydd. Mae’r disgyblion sy'n cael eu heffeithio wedi cael llythyrau yn nodi manylion o'r newidiadau. Mae'r amserlenni newydd wedi’u crynhoi yma.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i'r gymuned am eu cydweithrediad wrth i'r gwaith atgyweirio brys ar y wal gynnal gael ei gwblhau er budd y gymuned.

Wedi ei bostio ar 20/04/2022