Skip to main content

Adroddiad Adran 19, Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 - Trehafod

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'i adroddiad diweddaraf yn unol ag Adran 19 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn dilyn Storm Dennis. Dyma’r deuddegfed adroddiad yn dilyn y storm, ac mae’n canolbwyntio ar yr hyn a achosodd y llifogydd yn Nhrehafod.

Yn unol â'r ddeddf, mae'n rhaid i'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (Cyngor Rhondda Cynon Taf yn yr achos yma) ddarparu adroddiad ffeithiol yn esbonio'r hyn ddigwyddodd yn ystod y llifogydd. Yn dilyn ymchwiliad i'r 28 ardal a gafodd eu heffeithio gan dywydd digynsail Storm Dennis (15-16 Chwefror 2020) bydd y Cyngor yn cyhoeddi 19 adroddiad yn canolbwyntio ar gymunedau penodol.

Ers y Flwyddyn Newydd, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi adroddiadau ynglŷn â Ffynnon Taf, Glyn-taf, Trefforest, Pontypridd, Nantgarw, Hirwaun, Treorci ac yn fwyaf diweddar (24 Mawrth 2022) Ynys-hir. Roedd y rhain yn dilyn adroddiadau blaenorol yn ymwneud ag ardaloedd Pentre (Gorffennaf 2021), Cilfynydd (Medi 2021), Treherbert (Tachwedd 2021), ac Adroddiad Trosolwg ar gyfer Rhondda Cynon Taf (Gorffennaf 2021).

Mae adroddiadau Adran 19 yn cydnabod yr Awdurdodau Rheoli Risg, nodi'r swyddogaethau maen nhw wedi'u cyflawni ac yn amlinellu'r camau gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae'r adroddiadau wedi cael eu llywio gan arolygiadau a gwaith casglu data a gafodd eu cynnal gan y Garfan Rheoli Perygl Llifogydd ar ôl y storm yn ogystal â gwybodaeth a gasglwyd gan drigolion, Carfan Iechyd y Cyhoedd y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.

Mae'r adroddiad diweddaraf sy’n cael ei gyhoeddi ar Ddydd Mercher, 6 Ebrill, yn canolbwyntio ar ardal Trehafod yng Nghwm Rhondda (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 18). Mae’r adroddiad yn nodi bod glaw eithafol wedi arwain at lifogydd mewn o leiaf 68 eiddo (65 eiddo preswyl a thri eiddo dibreswyl) a llifogydd sylweddol ar y priffyrdd yn lleol.

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor.

Mae'r adroddiad a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn nodi mai prif ffynhonnell y llifogydd yn Nhrehafod oedd cilfach cwlfer uwchben y rheilffordd ger ffin gogledd-ddwyreiniol yr ardal chwilio a oedd wedi gorlifo. Ystyrir hefyd fod tirlithriad lleol yr adroddwyd amdano wedi cyfrannu at falurion yn mynd i mewn i’r gilfach a rhwydwaith y cwlfer - gan gyfyngu ar gynhwysedd hydrolig y gilfach i reoli llif y dŵr. Roedd y gilfach wedi gorlifo dros y rheilffordd i'r A4058 a thuag at Heol Trehafod.

Ystyrir hefyd fod glaw mawr a dŵr wyneb lleol wedi gwaethygu’r llifogydd yn Nhrehafod – yn enwedig yn yr ardaloedd hynny a nodwyd fel ardaloedd risg uchel o ran llifogydd dŵr wyneb ar fapiau perygl llifogydd CNC.

Y Cyngor yw'r Prif Awdurdod Llifogydd a’r Awdurdod Draenio Tir Lleol, ac felly fe yw'r Awdurdod Rheoli Risg perthnasol sy'n gyfrifol am reoli'r llifogydd cwrs dŵr cyffredin a ddigwyddodd yn ystod Storm Dennis. Mae'r Cyngor wedi cynnal 11 cam gweithredu wrth ymateb i'r llifogydd yn Nhrehafod, ac wedi cynnig cynnal 6 arall.

Mae'r camau gweithredu a gafodd eu cyflawni yn cynnwys gwaith tirfesur a glanhau seilwaith priffyrdd lleol. Mae'r Cyngor hefyd wedi arwain ar waith datblygu Ystafell Rheoli Argyfyngau, gan ddod â'i Ganolfan Alwadau a gweithrediadau TCC at ei gilydd yn ystod stormydd yn y dyfodol.  Mae hefyd wedi dechrau prosiect Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo dros dro, gan gynnig gatiau llifogydd mae modd eu hehangu i'r eiddo hynny sydd mewn perygl mawr o ddioddef llifogydd, gan weithio'n agos â'r Awdurdod Priffyrdd a Dŵr Cymru i werthuso mesurau rheoli dŵr wyneb a lliniaru'r perygl o lifogydd yn y dyfodol.

“Mae’r adroddiad yn nodi bod y tywydd yn ystod Storm Dennis yn eithafol, ac mae’n annhebygol y byddai modd atal pob achos o lifogydd o dan amgylchiadau tebyg. Mae’n nodi hefyd bod yr Awdurdodau Rheoli Risg wedi cyflawni eu swyddogaethau mewn modd boddhaol wrth ymateb i’r llifogydd.

Meddai Roger Waters, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Yn dilyn pob digwyddiad llifogydd sylweddol, mae’n rhaid i’r Cyngor, ac yntau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, gyhoeddi adroddiad Adran 19 – dogfen ffeithiol yn amlinellu’r hyn a ddigwyddodd yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd. Mae pob un yn gwbl hygyrch ac yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor gan nodi'r Awdurdodau Rheoli Risg, eu camau gweithredu ers y digwyddiad, a pha gamau gweithredu y byddan nhw'n eu cymryd yn y dyfodol.

“Mae'r adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn canolbwyntio ar yr hyn a achosodd llifogydd yng nghymuned Trehafod. Dyma'r deuddegfed adroddiad i’w gyhoeddi yn dilyn Storm Dennis. Mae swyddogion yn parhau i weithio tuag at gyhoeddi cyfanswm o 19 adroddiad. Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod yr holl Awdurdodau Rheoli Risg wedi ymgymryd â’u cyfrifoldebau mewn modd boddhaol, ac wedi cyflwyno mesurau pellach i wella parodrwydd ar gyfer y dyfodol.”

Wedi ei bostio ar 06/04/22