Skip to main content

Margaret yn dal i ddysgu yn 100 mlwydd oed

Margaret E Griffiths

Mae Pennaeth o Rondda Cynon Taf sydd wedi ymddeol yn astudio Technoleg Cyfrifiaduron a hithau'n 100 mlwydd oed!

Ymunodd Margaret Eurfron Griffiths o Ynys-hir, Cwm Rhondda â dosbarthiadau wythnosol Cyngor Rhondda Cynon Taf ym Mhlaza'r Porth er mwyn cadw ei hymennydd y weithgar ac i wireddu ei dymuniad i ddysgu rhywbeth newydd bob diwrnod o'i bywyd.

Mae dosbarthiadau gwasanaeth Addysg i Oedolion Rhondda Cynon Taf yn darparu cyfleoedd dysgu o safon uchaf i drigolion lleol o bob oed mewn nifer o feysydd

Cafodd Margaret ei geni yn Aberaeron, Ceredigion ar 25 Hydref 1921 ond dychwelodd i gartref ei theulu yng Nghwm Rhondda yn blentyn. Mae hi wedi byw yno fyth ers.

Y flwyddyn cafodd Margaret ei geni digwyddodd Streic y Glöwyr, George V oedd y Brenin, Herbert Henry Asquith oedd y Prif Weinidog a David Lloyd George oedd y Canghellor. Dyma hefyd oedd blwyddyn geni y digrifwyr o Gymru, Tommy Cooper a Syr Harry Secombe.

Mynychodd Margaret ysgol ramadeg yng Nghwm Rhondda ac roedd hi'n bwriadu symud i Lundain er mwyn astudio i ddod yn athrawes, ond newidiodd ei chynlluniau yn sgil yr Ail Ryfel Byd.

Serch hynny, llwyddodd Margaret i wireddu ei breuddwyd o fod yn athrawes a rhagorodd yn ei gyrfa. Buodd hi hefyd yn ddigon ffodus i deithio'r byd.

Meddai Margaret Griffiths: "Aeth popeth ar chwâl yn ystod yr Ail Ryfel Byd – cafodd y coleg roeddwn i ar fin dechrau ynddo ei fomio, felly roedd yn rhaid imi geisio addysg bellach mewn llefydd eraill.

"Roedd blynyddoedd y rhyfel yn anodd ac yn drist iawn. Bu farw 6 o fy ffrindiau agos ac rydw i wedi teimlo eu colled nhw bob diwrnod ers hynny. Roeddwn i a chriw o ffrindiau yn arfer cwrdd yng Nghaffi Gambirini's yn y Porth bob nos Wener ond yn araf bach roedd llai ohonom ni ar ôl i fynd yno.

"Roedd cyfnod y rhyfel yn anodd iawn i bawb ac rwy'n aml yn meddwl amdano ac yn rhyfeddu ein bod ni wedi goroesi. Roedd yn gyfnod ble roedd yn rhaid i bawb aeddfedu'n gyflym iawn ac mae'r cyfnod wedi cael, ac yn parhau i gael, effaith fawr arna i.

"Wedi'r Ail Ryfel Byd roedd bywyd yng Nghymoedd De Cymru yn well. Agorodd ystadau masnachu a daeth swyddi newydd i'r ardal a wnaeth wahaniaeth mawr i fywydau trigolion lleol. Bellach doedden ni ddim yn dlawd a ddim yn poeni am oroesi rhyfel. Newidiodd bywydau pobl y cymoedd.

"Roeddwn i wastad wedi bod yn awyddus i ddysgu plant ifainc, ac roedd pawb yn synnu wrth glywed hynny a finnau'n unig blentyn, heb frodyr na chwiorydd bach. Ond mwynheais i fy ngyrfa yn athrawes – roedd yn swydd foddhaol iawn. Rydw i wedi treulio fy mywyd ym myd addysg, ac rwy'n dal i ddysgu hyd heddiw. Dw i erioed wedi rhoi'r gorau i ddysgu pethau newydd.

Roedd Margaret Griffiths yn athrawes yn Ysgol Gynradd Cwmlai, Tonyrefail, am 20 mlynedd cyn dod yn Bennaeth ar Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Gweithiodd Margaret yn yr ysgol honno am 40 o flynyddoedd.

Wedi iddi ymddeol penderfynodd Margaret dreulio pum mlynedd yn teithio'r byd gyda'i chyfnither. Dechreuodd y ddwy yn yr Unol Daleithiau cyn mentro i Seland Newydd, Awstralia, Singapore, Gogledd Affrica, Canada a Hawaii cyn dychwelyd gartref i Gymru.

Meddai Margaret: "Mae gen i atgofion melys o deithio'r byd am bum mlynedd cyn dychwelyd gartref i Gymru. Roeddwn i wedi gobeithio byw bywyd arferol a thawel ond roedd heriau newydd yn fy wynebu.

"Doedd cyfrifiaduron heb gyrraedd byd addysg pan wes i ymddeol, ac roeddwn i'n teimlo fy mod i wedi colli allan. Pan welais bod dosbarthiadau TG yn dechrau ym Mhlaza'r Porth, roeddwn i'n benderfynol o fanteisio ar y cyfle. A finnau'n 100 mlwydd oed mae'r disgyblion eraill i gyd yn iau na fi, ond rwy'n mwynhau'r dosbarth a'u cwmni nhw yn fawr.

"Rydyn ni i gyd yn ddisgyblion aeddfed sydd wedi penderfynu meithrin sgiliau TG yn hwyr yn ein bywydau ond rydyn ni i gyd ar yr un lefel o ran ein gallu. Mae'n rhaid inni fanteisio ar y dosbarthiadau yma er mwyn sicrhau ein bod ni'n deall y byd sydd ohoni.

"Rydw i'n bwriadu parhau i gymryd rhan mor hir ag sy'n bosib. Rydw i'n dal i ddysgu ac yn hapus iawn bod modd imi wneud hynny."

Mae Plaza'r Porth, sy'n gartref i lyfrgell a nifer o ddosbarthiadau addysg i oedolion ar agor 6 diwrnod yr wythnos. Mae mynediad i gadeiriau olwyn a lifft i'r ail lawr. Mae croeso i bawb.

Wedi ei bostio ar 05/04/22