Skip to main content

Merch cyn-filwr Rhyfel y Falklands yn cofio ei thad

Katie Falklands

Mae merch milwr Rhyfel y Falklands a gafodd ei ladd pan fomiwyd llong y Sir Galahad 40 mlynedd yn ôl wedi ymroi'n llwyr i gadw'r cof amdano'n fyw.

Mae’r Cyngor yn nodi 40 mlynedd ers Rhyfel y Falklands (2 Ebrill - 14 Mehefin, 1982) gan gofio pawb a gollodd eu bywydau yn ystod y frwydr.

Roedd Katie Gibby, sy'n byw yng Nghwm Rhondda, yn 5 mis oed pan aeth ei thad, Mark Gibby o Fataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig, i ryfel yn 1982. Ddaeth e byth adref. Mark Gibby oedd un o'r 48 o ddynion, y rhan fwyaf ohonyn nhw o'r Gwarchodlu Cymreig, a gafodd eu lladd pan ymosododd jetiau'r Ariannin ar y llong ar 8 Mehefin, 1982.

Er nad oes ganddi unrhyw atgofion personol o’i thad, mae Katie, sy'n fam i ddau o blant, wedi dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) ac mae'n ddiolchgar am y cymorth mae'n ei gael gan Wasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor a'r grŵp 'Valley Veterans'.

Meddai Katie Gibby: “Rydw i bob amser wedi bod yn frwdfrydig am unrhyw beth sy'n ymwneud â'r Lluoedd Arfog ac rydw i mor falch o'm tad a roddodd ei fywyd i'w wlad ac i bobl Ynysoedd Falkland ar y diwrnod trychinebus hwnnw.  Roedd yn 22 oed.

“Rydw i wedi profi llwyth o emosiynau a galar trwy gydol fy mywyd, er nad oeddwn i'n adnabod fy nhad yn dda – dyma fath arall o alaru. Mae Valley Veterans a Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor wedi bod o gymorth mawr i fi.

“Roedd Paul Bromwell, o Valley Veterans, yn ffrind i'm tad, ac mae clywed ei storïau a'i atgofion ohono yn gysur mawr i fi. Nid grŵp cymorth yn unig yw Valley Veterans, rydyn ni'n deulu. Unwaith eich bod chi'n rhan o deulu cyn-filwr, rydych chi'n rhan o deulu am byth.

“Er fy mod i'n aelod o deulu cyn-filwr, nid yn gyn-filwr fy hun, mae'r Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog wrth law i gynnig cymorth i fi bob amser.  Mae'r gwasanaeth ar gael i lawer o bobl, a byddai nifer ohonyn nhw ar goll heb ei arweiniad.

“Yn ystod fy magwraeth, roeddwn i'n teimlo'n grac iawn am y ffaith y bu farw fy nhad, a hynny miloedd o filltiroedd oddi cartref. Rydw i'n oedolyn ac yn rhiant fy hun erbyn hyn, felly rydw i'n gallu gweld ei fod wedi rhoi ei fywyd er mwyn ceisio rhyddid cynifer o bobl. Rydw i mor falch o Warchodfilwr Mark Gibby a'r aberth mawr a wnaeth.”

Hwyliodd Gwarchodfilwr, Mark Gibby, o Southampton ar 12 Mai 1982, ychydig wythnosau ar ôl ei ben-blwydd yn 22 oed, gan gyrraedd Ynysoedd Falkland ar 25 Mai.  Bu farw cyfanswm o 48 o ddynion ar long y Sir Galahad yn Bluff Cove ddydd Mawrth 8 Mehefin 1982. Roedd 32 ohonyn nhw o'r Gwarchodlu Cymreig.  Cafodd llawer rhagor eu hanafu. Dinistriodd jetiau Skyhawk long y Sir Galahad chwe diwrnod cyn diwedd Rhyfel y Falklands.

Combat Stress – 0800 138 1619 

Help For Heroes – 0300 303 9888 

SSAFA – 0800 260 6767

Roedd Rhyfel y Falklands 1982, a ddechreuodd 40 mlynedd yn ôl, wedi para 10 wythnos, gan arwain at farwolaethau dros 900 o bobl. Yn dilyn ymosodiad yr Ariannin ar Ynysoedd Falkland, a oedd yn diriogaeth Prydain, collodd 255 o bersonél milwrol Prydain, tri pherson o'r ynys a 649 o filwyr yr Ariannin eu bywydau yn ystod y Rhyfel a wnaeth bara am 74 diwrnod.

Mae Valley Veterans yn sefydliad sy'n cael ei arwain gan gyn-filwyr yn Rhondda Cynon Taf ac sy'n cael ei gefnogi gan y Cyngor. Cafodd ei sefydlu dros 10 mlynedd yn ôl yn grŵp cymorth anffurfiol ar gyfer y sawl a oedd yn dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Mae bellach yn grŵp cymunedol bywiog gyda dros 140 o gyfranogwyr gweithgar. Mae'r grŵp yn cynnal Clwb Brecwast y Lluoedd Arfog bob dydd Iau, gan ddenu hyd at 60 o gyn-filwyr bob wythnos.

Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, a chadarnhawyd yr ymrwymiad yma yn 2018.

Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd a phenodol am ddim i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ystod o wasanaethau, gan gynnwys Budd-daliadau, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyllid, Cyflogaeth a Thai.

Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor 

Derbyniodd yr Awdurdod Lleol Wobr Aur fawreddog y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2017 i gydnabod y cymorth y mae'n ei roi i gymuned y Lluoedd Arfog yn lleol.

Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr Rhondda Cynon Taf ar gael i holl bersonél y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, a'u teuluoedd. E-bost: GwasanaethiGynfilwyr@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu ffoniwch 07747 485 619 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am-5pm). 

Wedi ei bostio ar 25/04/2022