Skip to main content

Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain

80th

Mae'r Cyngor yn croesawu Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain yn rhan o daith goffa genedlaethol i ddathlu 81 mlynedd ers y bennod bwysig yma yn hanes yr Ail Ryfel Byd.

Er y bydd y daith yn coffáu pawb a oedd yn rhan o'r Frwydr, bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar yr awyrlu o Gymru, gan adrodd straeon am eu harwriaeth i gynulleidfa Cymru heddiw.

Bydd yr arddangosfa, sydd am ddim, ar agor bob dydd i'r cyhoedd yn Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH rhwng 15 Tachwedd a 20 Tachwedd.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber:

“Rwy’n falch iawn bod modd i ni gynnal yr arddangosfa yma yn ein Bwrdeistref Sirol. Bydd modd i drigolion o bob oed ddysgu rhagor am yr hyn a ddigwyddodd uwch ein pennau dros 80 o flynyddoedd yn ôl, i dalu teyrnged i'r rheiny a fu farw a dangos eu parch i'r rheiny a ddaeth adref i'w teuluoedd yn y pen draw.

“Roedd Brwydr Prydain, y frwydr awyr fwyaf erioed, yn foment holl bwysig yn ein hanes. Roedd yn drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd pan safodd Prydain ar ei phen ei hun yn erbyn pŵer milwrol di-droi'n ôl Hitler.

“Bydd yr arddangosfa yma'n gyfle perffaith i lawer o bobl Rhondda Cynon Taf gofio arwriaeth yr ychydig a frwydrodd ar ran pawb.”

Meddai Comodor yr Awyrlu Adrian Williams, Uchel Swyddog y Llu Awyr Brenhinol yng Nghymru:

“Rwy’n falch iawn bod yr arddangosfa yma'n dod i Bontypridd.

“Mae’n adrodd y stori o safbwynt Cymreig, gan gynnwys gwybodaeth am y Corfflu Arsylwi Brenhinol, stori Edward Bowen o Abertawe, a chwaraeodd ran bwysig wrth ddyfeisio radar, a hefyd sut yr oedd gorsafoedd y Llu Awyr Brenhinol yng Nghymru, ynghyd â chymunedau lleol ledled Cymru, wedi cyfrannu at sicrhau buddugoliaeth yn 1940.”

Yn ystod haf 1940, roedd pobl Prydain yn paratoi eu hunain am ymosodiad milwrol gan yr Almaen, ond yn gyntaf, roedd rhaid i Hitler feddiannu'r awyr.

Lansiodd y Luftwaffe, a oedd yn cynnwys 2,600 o awyrennau, ymosodiad ar raddfa fawr. Eu bwriad oedd cael gwared ar amddiffynfeydd awyr Prydain, sef 640 o awyrennau Rheolaeth Awyrennau Ymladd y Llu Awyr Brenhinol.

Amddiffynnodd peilotiaid y Llu Awyr Brenhinol, a ddaeth yn adnabyddus fel 'Yr Ychydig', y wlad yn erbyn ton ar ôl ton o awyrennau ymladd a bomio'r Almaen, gan anfon neges glir at y gelyn na fyddai Prydain byth yn ildio. Roedd 3,000 o beilotiaid yn rhan o Reolaeth Awyrennau Ymladd y Llu Awyr Brenhinol. Ar gyfartaledd, roedden nhw'n 20 oed.

Er yr oedd gyda'r Almaen fwy o awyrennau na Rheolaeth Awyrennau Ymladd y Llu Awyr Brenhinol ym mis Gorffennaf 1940, aeth Prydain ati i gynyddu cynhyrchiant yn y ffatrïoedd. Erbyn mis Hydref 1940, roedd maint y Rheolaeth Awyrennau Ymladd yn fwy na'r Luftwaffe.

Roedd y Llu Awyr Brenhinol yn fuddugol yn yr awyr ym mis Hydref 1940. Daeth hyn â chynlluniau Hitler i ben. Dywedodd Winston Churchill, y Prif Weinidog yn ystod yr Ail Ryfel Byd:

Never in the field of human conflict was so much owed by so many to so few.”

Bydd modd gweld yr arddangosfa yn Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, rhwng 2pm ddydd Llun, 15 Tachwedd a 1pm ddydd Sadwrn, 20 Tachwedd. Bydd yr arddangosfa, sydd am ddim.

Wedi ei bostio ar 15/11/21