Skip to main content

Ymchwiliadau tir ar y B4273 Heol Ynysybwl, Glyn-coch

Ground investigations at Ynysybwl Road in Glyncoch will take place over the next three weeks

Bydd ymchwiliadau tir yn dechrau o ddydd Llun ar Heol Ynysybwl, Glyn-coch. Bydd angen newid trefniadau traffig lleol dros y tair wythnos nesaf i lywio gwaith sefydlogi argloddiau yn y lleoliad yma yn y dyfodol.

Ym mis Mai, penododd y Cyngor ymgynghorwyr i gynnal archwiliadau pellach i'r broblem barhaus sy'n effeithio'r briffordd. Mae'r broblem ar y rhan yma o'r B4273 wedi'i hachosi gan gloddio tir yr arglawdd cyfagos yn anghyfreithlon, heb awdurdod. Mae hyn yn golygu nad yw'r ffordd uwch ei ben wedi'i chynnal.

Er mwyn sicrhau diogelwch, mae goleuadau traffig wedi parhau i fod ar waith i gau'r lôn tua'r de ar Heol Ynysybwl, yn ogystal â'r llwybr troed ger yr arglawdd. Mae gwaith sefydlogi cychwynnol wedi'i gynnal ar dir cyfagos, sydd o dan berchnogaeth Trafnidiaeth Cymru, a bydd angen cynnal cynllun yn y lleoliad yma yn y dyfodol.

O ganlyniad i gynnydd diweddar, mae'r Cyngor a Trafnidiaeth Cymru wedi dod i gytundeb mewn perthynas â mynediad i dir, tra bod arolygon topograffig, olrhain gwasanaethau, ecoleg ac arolygon draenio wedi'u cwblhau. Mae contractwr hefyd wedi'i benodi i gynnal ymchwiliadau tir dros y tair wythnos nesaf.

Mae'r gwaith yma'n dechrau ddydd Llun 25 Hydref. Cafodd y gwaith ei amserlenni ar gyfer gwyliau hanner tymor i leihau aflonyddwch, gan fod Ysgol Gynradd Craig yr Hesg yn agos. Bydd angen mesurau rheoli traffig ychwanegol i gynnal peth o'r gwaith yma, ac mae disgwyl i'r rhan fwyaf o aflonyddwch fod yn ystod yr wythnos gyntaf. Bydd newid i fesurau rheoli traffig o 1 Tachwedd i leihau aflonyddwch pan fydd yr ysgol yn ailagor ar ôl gwyliau hanner tymor.

O ddydd Llun, bydd y ffordd fer ddienw rhwng 14 a 15 Teras Glyn-coch yn troi'n system unffordd. Bydd modd i gerbydau gael mynediad i Lôn y Cefn o Heol Ynysybwl – ond fydd dim modd teithio tua'r cyfeiriad arall. Bydd yna fodd newid y goleuadau traffig presennol o system dair ffordd i system ddwyffordd, gan wella llif y traffig ar y briffordd.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i'r gymuned leol ymlaen llaw am ei chydweithrediad wrth i'r ymchwiliadau tir hanfodol gael eu cynnal. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal gan gydweithio'n agos gyda'r contractwr i leihau aflonyddwch.

Wedi ei bostio ar 20/10/2021