Skip to main content

Gwylnos Rhuban Gwyn RhCT

I nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2021 (dydd Iau, 25 Tachwedd), mae gwylnos yng ngolau cannwyll yn cael ei chynnal yng nghanol tref Pontypridd i gofio pob menyw a merch sydd wedi colli ei bywyd o ganlyniad i drais dan law dyn.

Mae'r wylnos, a fydd yn cael ei chynnal y tu allan i adeiladau Llys Cadwyn y Cyngor yn Stryd y Taf, yn cael ei threfnu ar y cyd â'r awdurdod lleol, y gwasanaethau brys, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, sefydliadau cymorth cam-drin domestig y trydydd sector ac undebau llafur.

Nod Gwylnos Rhuban Gwyn Rhondda Cynon Taf yw hyrwyddo'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dod â Thrais i Ben yn erbyn Menywod. Mae'r Cyngor yn cefnogi'r Diwrnod yma bob blwyddyn. Mae wylnos hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a chofio'r rheiny sydd wedi wedi dioddef trais dan law dyn.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol

“Ymunwch â ni ddydd Iau, 25 Tachwedd, Diwrnod y Rhuban Gwyn, wrth i ni ddangos ein cefnogaeth unwaith eto i’r ymgyrch fyd-eang i ddod â gweithredoedd treisgar gan ddynion yn erbyn menywod i ben. Does dim lle i'r fath gamdriniaeth yn ein cymdeithas. Gyda'n gilydd gallwn ni ddweud 'Na' wrth drais yn erbyn menywod”.

“Dydy bod yn dawel ddim yn opsiwn. Rhaid i bob un ohonon ni barhau i sefyll a herio  trais domestig, sy'n weithrediad gwbl annerbyniol. 

“Bydd ein Gwylnos i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn yn Rhondda Cynon Taf yn amser i fyfyrio a chofio’r sawl sydd wedi colli eu bywydau. Bydd hefyd yn amser i annog pob dyn i gymryd cyfrifoldeb a sefyll ysgwydd wrth ysgwydd i weithio tuag at ddyfodol a byd heb drais yn erbyn menywod.“

Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn achlysur byd-eang a'r fenter fwyaf o'i math i ddod â thrais yn erbyn menywod dan law dynion i ben. Mae achlysur yn galw ar ddynion i weithredu i wneud gwahaniaeth. 

Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl ar draws y byd yn sefyll gyda'i gilydd, i leisio'u barn ac i ddweud NA i drais yn erbyn menywod. Mae modd i bob dyn wneud gwahaniaeth trwy feddwl am ei ymddygiad a bod yn barod i beidio ag anwybyddu ymddygiad sy'n rhywiaethol ac sy'n aflonyddu.  

Gwnewch Addewid y Rhuban Gwyn 

Eleni, mae hi'n saith mlynedd ers i Rondda Cynon Taf gael ei gydnabod gan ymgyrch y Rhuban Gwyn am ei waith i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben. Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i gael cydnabyddiaeth o'r fath.

Bydd gwylnos olau cannwyll Pontypridd i gydnabod Diwrnod y Rhuban Gwyn yn cychwyn am 5:30pm ddydd Iau, 25 Tachwedd, gydag anerchiad agoriadol gan y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol

Ymhlith y siaradwyr eraill bydd y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, ac Alex Davies-Jones, AS Pontypridd. Mae gwahaoddiad i bawb i ddod i'r achlysur awyr agored cyhoeddus. Rydyn ni'n atgoffa pawb i wisgo gorchudd wyneb, glanweithio dwylo'n rheolaidd a pharchu eraill bob amser.

Rydyn ni'n gwahodd trigolion i wisgo Rhuban Gwyn a gwneud Addewid Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel yn wyneb trais yn erbyn menywod dan law dynion. 

Ymunwch â ni wrth i ni gefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn eleni ar ddydd Mercher, 25 Tachwedd.  

Wedi ei bostio ar 24/11/21