Skip to main content

Prosiect ailddatblygu ar gyfer adeilad gwag yng nghanol tref y Porth

Porth redevelopment project at 38 Hannah Street

Mae'r Cyngor yn symud ymlaen â chynlluniau ar gyfer ailddatblygu adeilad gwag yng nghanol tref y Porth, er mwyn cael gwared ar adeilad amlwg sy'n peri dolur i'r llygad, a darparu cyfleoedd pwysig i fusnesau lleol.

Mae'r adeilad, 38 Stryd Hannah, y Porth, wedi bod yn wag ers blynyddoedd.  Mae cyflwr adfeiliedig yr adeilad nad oes mod byw ynddo yn golygu ei fod yn peri dolur i'r llygad o hyd ar y stryd a bod angen ei adnewyddu'n llwyr er mwyn bod modd ei defnyddio. 

Bydd y prosiect gwerth oddeutu £200,000, wedi'i ariannu'r rhannol gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys adnewyddu llwyr er mwyn defnyddio'r adeilad yn hwb gwaith wedi'i rannu. 

Canolbwynt y prosiect bydd darparu gofod modern a hyblyg gyda gweithleoedd amrywiol a fydd yn apelio i ystod eang o bobl.  Y bwriad yw creu lleoliad bydd unigolion eisiau mynd yno i weithio. Bydd ganddo dechnolegol gwych, gan gynnwys cysylltiad gwe cyflym, sgriniau cyflwyno mawr ac ystafelloedd cyfarfod.

Cynulleidfa darged y prosiect bydd unigolion, busnesau sydd newydd ddechrau, busnesau bychain a gweithwyr sefydliadau mawr.  Y bwriad yw cefnogi amcanion y Strategaeth Gweithio o Bell Cymru a chydfynd â'r Strategaeth Canol Tref y Porth ehangach. 

Bydd y buddion yn cynnwys darparu cyfleusterau gweithio yn nes at gartref y gweithwyr, darparu man gwaith amgen i'r rheiny sy'n methu â gweithio gartref, a denu pobl i ganol y dref.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu ac Adnewyddu: "Unwaith yn rhagor, mae'r Cyngor yn dangos ei agwedd weithgar wrth fuddsoddi mewn gwella canol ein trefi gydag ailddatblygiad 38 Stryd Hannah, y Porth gan ddefnyddio grant gan Lywodraeth Cymru.

"Bydd gan y prosiect ailddatblygu yma ddau beth buddiol, sef gwaredu ar hyllbeth o adeilad yng nghanol y dref, a darparu man gwerthfawr i fusnesau yng nghanol y dref.

"Mae'r pandemig wedi cynyddu'r galw am ffyrdd newydd o weithio, gyda nifer o drigolion bellach yn gweithio o'u cartref.  Rydyn ni'n sylweddoli nad oes gan bob gweithiwr y cyfle na'r midd i wneud hyn, felly mae'n hollbwysig bod opsiynau deniadol ac addas yn ein cymunedau er mwyn sicrhau bod modd i bawb weithio mor agos at gartref ag sy'n bosib.

"Rydyn ni eisoes wedi gweld nifer o brosiectau llwyddiannus yn symud yn eu blaenau gan y Cyngor, gan gynnwys ailddatblygu Neuadd y Dref Aberpennar- prosiect arall a ddefnyddiodd fuddsoddiad allanol gan Lywodraeth Cymru.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynnydd yn y prosiect pwysig yma dros y misoedd nesaf, ac at weld un o'r buddion eraill i ardal y Porth yn rhan o Strategaeth Canol Tref y Porth ehangach."

Wedi ei bostio ar 24/11/2021