Skip to main content

Y diweddaraf am brosiectau adfywio yng nghanol tref Pontypridd

Pontypridd regeneration

Mae Aelodau'r Cabinet wedi derbyn y diweddaraf am brosiectau adfywio pwysig sy'n cael eu datblygu a'u darparu yng nghanol tref Pontypridd.

Amlinellodd adroddiad i'r Cabinet ar 15 Tachwedd y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran y fframwaith adfywio presennol (‘Pivotal Pontypridd – Delivering Growth’). Dechreuodd y fframwaith ym mis Medi 2017, pan nododd y Cyngor Bontypridd yn un o bum Ardal Cyfleoedd Strategol. Mae'r fframwaith presennol yn para tan 2022, a rhoddodd adroddiad dydd Llun y diweddaraf i Aelodau am waith datblygu cynllun creu lleoedd er mwyn adeiladu ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni, gan ddarparu fframwaith newydd ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.

Bwriad ‘Pivotal Pontypridd’ oedd adeiladu ar y buddsoddiadau dros y blynyddoedd blaenorol, gan gynnwys Rhaglen Adfywio Canol Tref Pontypridd (2013) gwerth £12 miliwn, datblygiad Lido Ponty (2015) gwerth £6.3 miliwn, prosiect Gorsaf Drenau Pontypridd (2015) gwerth £14 miliwn a Rhaglen Gwella Treflun (2017).

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae sawl prosiect arall wedi cael ei ddatblygu a'i gyflawni – gan gynrychioli buddsoddiad o £115 miliwn ar gyfer y dref. Dyma'r diweddaraf am bob un o'r prosiectau oedd yn rhan o adroddiad dydd Llun i'r Cabinet:

  • Llys Cadwyn – dyma brosiect a gafodd ei gwblhau ym mis Hydref 2020, diolch i gyllid y Cyngor, Llywodraeth Cymru ac UE. Mae'r datblygiad amlddefnydd bellach yn gartref i Trafnidiaeth Cymru, Bradleys Coffee, Gatto Lounge, llyfrgell newydd, canolfan ffitrwydd a man cyswllt i gwsmeriaid gwasanaethau'r Cyngor.
  • Pont Parc Coffa Ynysangharad – cafodd pont newydd rhwng Llys Cadwyn a'r parc ei gosod ym mis Awst 2020, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru. Mae hon wedi gwella cysylltedd yn sylweddol yng nghanol y dref.
  • Parc Coffa Ynysangharad – Mae cyllid Parc Rhanbarthol y Cymoedd wedi cael ei ddefnyddio yn 2021 i adnewyddu pob prif lwybr troed, gwella goleuadau stryd LED a darparu cyfleuster Changing Places yn Lido Ponty. Bydd cyllid pellach Llywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu'r ardd isel, ardal safle'r seindorf ac adeiladu canolfan hyfforddi, yn 2023.
  • YMCA Pontypridd – bydd cyllid y Cyngor, Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cael ei ddefnyddio i greu cyfleuster amlbwrpas o'r radd flaenaf trwy ailddatblygu adeilad presennol. Bydd gan y cyfleuster, fydd yn agor yn ystod misoedd olaf 2021, swyddfeydd, gweithleoedd a chyfleusterau celfyddydau newydd.
  • Canolfan Gelf y Miwni – cafodd cyllid sylweddol ei sicrhau gan Gronfa Codi'r Gwastad y DU ym mis Hydref 2021, ar gyfer prosiect adnewyddu sylweddol gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Nod y prosiect yw sicrhau treftadaeth yr adeilad Rhestredig Gradd II a dathlu ei bensaernïaeth gothig odidog – gan ailsefydlu'r Miwni yn lleoliad lleol unigryw ar gyfer celfyddydau a cherddoriaeth ranbarthol.
  • Hen Neuadd Bingo ac adeiladau Clwb Nos Angharad – trwy ddefnyddio cyllid y Cyngor a Llywodraeth Cymru, cafodd yr adeiladau gwag yma eu prynu ym mis Mawrth 2020 a'u dymchwel ym mis Awst 2021 ar gyfer ailddatblygiad yn y dyfodol. Mae trafodaethau'n mynd yn eu blaenau gyda'r sector masnachol, a bydd opsiynau ailddatblygu'n cael eu trafod yn ystod misoedd cyntaf 2022.
  • Hen adeiladau M&S/Burtons a Dorothy Perkins – cafodd yr adeiladau gwag eu prynu yn 2021, diolch i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a'r Cyngor. Dyma gyfle datblygu cyffrous yng nghalon y dref. Bydd opsiynau'n cael eu trafod yn ystod misoedd cyntaf 2022.
  • Cwrt Yr Orsaf (Gofal Ychwanegol Pontypridd) – cafodd yr adeilad ei gwblhau a'i roi i'r Cyngor ym mis Hydref 2021, a hynny mewn partneriaeth â Linc Cymru. Mae wedi darparu 60 fflat i bobl hŷn, gyda chymorth 24/7 ar y safle er mwyn diwallu eu hanghenion wedi'u hasesu. Mae'n cynnwys ardaloedd bwyta/lolfeydd, siop trin gwallt, uned gofal oriau dydd a gerddi.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu sawl cynllun arall sydd wedi'i gyflawni. Mae Rhaglen Gwella Eiddo Canol y Dref wedi gwella chwe eiddo ers mis Chwefror 2020. Mae cynllun draenio cynaliadwy wedi cael ei roi ar waith yn Stryd y Felin i fynd i'r afael â dŵr wyneb yn ystod cyfnodau o law trwm. Mae'r Gronfa Buddsoddi mewn Mentrau wedi helpu 10 busnes newydd a BBaCh.

Mae'r cymorth wedi'i dderbyn gan fusnesau ers llifogydd Storm Dennis (Chwefror 2020) a dechrau'r pandemig (Mawrth 2020) hefyd wedi'i nodi. Roedd hyn o ganlyniad i Grant Gwrthsefyll Llifogydd, Ardrethi Annomestig a Grantiau Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau a Chronfa Adfer Covid Llywodraeth Cymru.

Yn ystod y cyfarfod ddydd Llun, cytunodd Aelodau'r Cabinet fod angen adroddiadau pellach yn y flwyddyn newydd, fydd yn cynnwys cynigion manwl ar gyfer safle'r Neuadd Bingo, opsiynau posibl ar gyfer safle M&S/Burtons a Dorothy Perkins, a manylion am ddrafft yr uwchgynllun ar gyfer y dref. Bydd y diweddariadau'n nodi trefniadau manwl ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned ar y cynigion yma.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Roedd rhestr eang o gynlluniau a oedd yn rhan o'r fframwaith adfywio presennol ar gyfer Pontypridd yn yr adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Llun. Mae'n tynnu sylw at y buddsoddiad mawr (£115 miliwn) y mae'r Cyngor wedi'i sicrhau ar gyfer y dref dros y pedair blynedd diwethaf. Mae hwn yn dilyn cynlluniau wedi'u cyflawni megis Lido Ponty, gwaith gwella Gorsaf Drenau Pontypridd a Rhaglen Adfywio Canol Trefi.

“Mae hon yn parhau i fod yn adeg gyffrous i Bontypridd, wrth i gynlluniau allweddol fynd yn eu blaenau. Mae gwaith Llys Cadwyn wedi'i gyflawni, tra bod disgwyl i waith ailddatblygu'r YMCA gael ei gwblhau eleni. Mae Canolfan Gelf y Miwni wedi sicrhau £5.3 miliwn yn ddiweddar, gan alluogi gwaith adnewyddu i fynd yn ei flaen. Mae Cwrt Yr Orsaf yn croesawu preswylwyr newydd ar ôl i'r adeilad gael ei roi i'r Cyngor y mis diwethaf.

“Mae dau o'n prosiectau diweddaraf i adfywio safle'r Neuadd Bingo a hen adeiladau M&S/Burtons a Dorothy Perkins yn mynd rhagddyn nhw. Mae'r Cabinet bellach wedi cytuno i drafod adroddiadau pellach yn y flwyddyn newydd, gan amlinellu opsiynau ailddatblygu ar gyfer pob un. Mae Aelodau hefyd yn edrych ymlaen at gytuno ar fframwaith adfywio newydd sydd wrthi'n cael ei ddatblygu. Dyma weledigaeth hyderus i sicrhau ei safle amlwg yng nghanol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.”

Wedi ei bostio ar 19/11/2021