Skip to main content

Byddwych yn gynghorydd, byddwch y newid yr ydych chi am ei weld

Mae cynghorau yn annog mwy o fenywod a phobl o grwpiau tan-gynrychioledig i ystyried sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiadau lleol nesaf.

I wthio am gynnydd ac i sicrhau bod siambrau cyngor yn fwy cynrychiadol o’u cymunedau, mae cynghorau yn datblygu cynlluniau gweithredu lleol ac yn arwyddo datganiad o fod yn Gyngor Amrywiol. Cafodd arweinwyr cyngor eu diweddaru ar weithgaredd a chynnydd yng nghyfarfod Cyngor CLlLC ddydd Gwener, a oedd yn dilyn gweithdy ar-lein gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn gynharach yn yr wythnos i drafod ymgysylltu, datblygu talent, mentora a chefnogaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Gydraddoldeb:

“Rydyn ni wedi gweld peth cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf i weld ein cynghorau yn dod yn lefydd mwy amrywiol. Ond mae’n rhaid i ni gyflymu’r newidiadau hynny. Rwy’n falch bod cynghorau yn gweithredu ar yr ymrwymiadau uchelgeisiol a wnaethwyd yn gynharach eleni, gyda disgwyl i pob cyngor wneud datganiadau ‘Cynghorau Amrywiol’ erbyn diwedd y flwyddyn.”

“Yn gynharach yr wythnos yma, gwych oedd cael cynnal gweithdy ar y cyd gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru i rannu profiadau a syniadau, ac i edrych ar sut gallwn ni gydweithio i annog mwy o fenywod i ddd yn gynghorwyr. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda’r holl randdeiliaid yn hollbwysig i barhau i wthio am newid.”

“Fel ydym ni i gyd yn gwybod, mae angen modelau rôl i adlewyrchu safbwyntiau ehangach ac i ysbrydoli cenhedlaeth newydd, mwy amrywiol o arweinwyr sifig i ystyried sefyll mewn etholiaday. A rydym yn gwybod bod angen i ni gymryd camau breision yn yr etholiadau ym mis Mai os ydyn ni am weld ein cynghorau’n adlewyrchu eu cymunedau.”

“Dyw bod yn gynghorydd ddim yn rôl rhwydd. Ond mae’n bendant yn rhoi llawer o foddhad; gallwch chi wneud pethau. Gallwch chi roi llais i’r rhai sydd angen cael eu clywed. Gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

“Byddwn yn annog unrhyw yn sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am y rôl i ymweld â www.byddwchyngynghorydd.cymru neu i gysylltu gyda’ch cyngor lleol, am ystod o adnoddau defnyddiol.”

Er i beth cynnydd gael ei gyflawni mewn blynyddoedd diweddar, menywod sy’n cyfrif am ddim ond chwech o 22 o arweinwyr cyngor Cymru a 28% o gynghorwyr. Mae 11% o gynghorwyr yn anabl, tra bod dim ond 1.8% yn dod o gefndir Du neu Leiafrif Ethnig.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth CLlLC ystod o ymrwymiadau uchelgeisiol i helpu i hybu amrywiaeth mewn democratiaeth, gan gynnwys:

  • I annog yr holl bleidiau gwleidyddol, trwy Grwpiau Gwleidyddol CLlLC, i ymrwymo i weithgareddau rhagweithiol wedi’i cydlynu i wella amrywiaeth o fewn democratiaeth llywodraeth leol;
  • safbwynt ffurfiol yn galw am gyflwynu grantiau ailsefydlu i’r holl gynghorwyr a deiliaid cyflog uwch;
  • i annog cynghorwyr i hawlio unrhyw lwfansau neu gostau angenrheidiol;
  • i annog datganiad gan gynghorau yng Nghymru erbyn Gorffennaf 2021, ar ddod yn ‘Gynghorau Amrywiol’; i:
    • Ddarparu ymrwymiad cyhoeddus, clir i wella amrywiaeth;
    • Arddangos diwylliant agored a chroesawus i bawb;
    • Ystyried aildrefnu amseroedd cyfarfodydd cyngor a chytuno ar gyfnodau toriad i gefnogi cynghorwyr gydag ymrwymiadau eraill; ac
    • I amlinellu cynllun gweithredu erbyn etholiadau lleol 2022.
  • Y dylai cynghorau osod targedau i fod yn gynrychiadol o’r cymunedau y mae nhw’n eu gwasanaethu erbyn yr etholiadau nesaf;
  • I gefnogi’r defnydd o gwotâu gwirfoddol ar gyfer yr etholiadau lleol nesaf, ac
  • I’r GLlLC adolygu’r defnydd o gwotâu gwirfoddol yn dilyn yr etholiadau lleol nesaf.
Wedi ei bostio ar 29/11/21