Skip to main content

Cydnabyddiaeth ar gyfer cynlluniau'r Cyngor yn ystod seremoni wobrwyo genedlaethol Sefydliad y Peirianwyr Sifil

Bridge schemes recognised in national engineering awards

Mae gwaith y Cyngor mewn perthynas â gosod pont newydd yn lle pont Sain Alban, Blaenrhondda, wedi ennill gwobr gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil. Roedd cynlluniau atgyweirio ar gyfer pont M&S, Pontypridd, hefyd wedi derbyn clod.

Mae seremoni wobrwyo flynyddol Sefydliad y Peirianwyr Sifil Cymru yn cydnabod rhai o'r prosiectau peirianneg sifil gorau sydd wedi'u cyflawni ledled y wlad. Caiff yr enillwyr eu dewis am eu rhagoriaeth mewn sawl categori gwahanol, megis cysyniad, dyluniad a'r broses adeiladu - yn ogystal ag iechyd a diogelwch, cynaliadwyedd ac ymgysylltu â’r gymuned. Cyhoeddwyd enillwyr gwobrau 2021 gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil ddydd Mercher, 1 Rhagfyr.

Mae cynllun Pont Sain Alban, Blaenrhondda, wedi ennill Gwobr Roy Edwards, sy'n cael ei chyflwyno i brosiect peirianneg sifil sy'n dangos rhagoriaeth o ran cysyniad, y broses gynllunio, dylunio, rheoli contractau ac adeiladu, gyda chost derfynol sy'n llai na £5miliwn. Alun Griffiths Contractors Ltd oedd contractwr y Cyngor ar gyfer y gwaith yma.

Roedd angen disodli'r strwythur a gafodd ei adeiladu dros yr Afon Rhondda a'r rheilffordd yn yr 1930au, oherwydd ei fod mewn cyflwr gwael. Cynhaliwyd arddangosfa gyhoeddus yn ardal Tynewydd ym mis Rhagfyr 2019 cyn y cam adeiladu, a oedd yn cynnwys dymchwel yr hen strwythur. Dechreuodd y gwaith yma ar y safle ym mis Ionawr 2020. Cafodd cynnydd rhagorol ei wneud ar y prosiect er gwaethaf heriau tywydd garw ac yna pandemig Covid-19. Cafodd y bont ei hailagor i'r cyhoedd ym mis Rhagfyr 2020.

Derbyniodd gynllun atgyweirio Pont Droed Parc Ynysangharad (Pont M&S) glod mawr yn rhan o Wobr Alun Griffiths ar gyfer Ymgysylltu â'r Gymuned, sy'n cydnabod cynlluniau peirianneg sifil sydd wedi ymgysylltu â chymunedau lleol gan wella seilwaith. Contractwr y Cyngor ar gyfer cyflawni'r cynllun oedd Centregreat Ltd.

Cafodd y bont droed rhwng Canol Tref Pontypridd a Pharc Coffa Ynysangharad ei difrodi’n sylweddol gan Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, ac roedd angen cyflawni cynllun atgyweirio brys arni. Cafodd y bont ei symud ym mis Tachwedd 2020 er mwyn i waith atgyweirio gael ei gyflawni ar y safle, gan ddefnyddio rhan o'r parc. Roedd y cynllun yn cynnwys chwythellu grut, paentio ac ailosod berynnau wedi'u difrodi – cyn i'r bont gael ei chodi a'i gosod yn ôl yn ei lle ym mis Mawrth 2021.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: "Rwy'n falch iawn bod dau o gynlluniau diweddar y Cyngor sy'n ymwneud â phontydd wedi derbyn clod yn rhan o seremoni wobrwyo genedlaethol Sefydliad y Peirianwyr Sifil. Roedd Pont Sain Alban, Blaenrhondda, wedi ennill gwobr ac roedd Pont M&S, Pontypridd, hefyd wedi derbyn clod mawr.

“Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gynnal, atgyweirio ac yn y pen draw, sicrhau dyfodol sefydlog i 1,500 o strwythurau sy'n cefnogi rhwydwaith y ffyrdd ledled Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn amrywio o bontydd i waliau a cheuffosydd. Rydyn ni'n parhau i ymrwymo i ddarparu buddsoddiad sylweddol bob blwyddyn er mwyn cyflawni cynlluniau wedi'u targedu yn rhan o'n Rhaglen Gyfalaf flynyddol ar gyfer y Priffyrdd.

“Mae ymgysylltu â’r gymuned yn cynrychioli agwedd mor bwysig o unrhyw gynllun seilwaith mawr, fel ailosod pont - ac felly mae’n wych bod Sefydliad y Peirianwyr Sifil wedi cydnabod gwaith y Cyngor o ran ymgysylltu â'r gymuned ar draws prosiectau Pont Sain Alban a Phont M&S, yn ogystal â gwaith cyflawni'r cynllun."

Wedi ei bostio ar 02/12/2021