Skip to main content

Cerddoriaeth yn y Pwll Glo

Heidiodd pobl o bobl oed sy'n dwlu ar gerddoriaeth i Barc Treftadaeth Cwm Rhondda, Taith Pyllau Glo Cymru dros benwythnos Gŵyl y Banc ar gyfer achlysur Teyrnged yn y Parc. 

Atyniad i deuluoedd y Cyngor oedd lleoliad y gyngerdd ddydd Llun Gŵyl y Banc. Perfformiodd rhai o gantorion teyrnged mwyaf enwog y DU ar lwyfan wedi'i hadeiladu i'r pwrpas yng nghwrt y pwll glo. 

Roedd y gynulleidfa wrth ei bodd yn canu a dawnsio i ganeuon Take That, Beyoncé, Little Mix a Lady GaGa ar safle hen lofa Lewis Merthyr. 

Dyma'r perfformwyr: In The Mix, Donna Marie fel Lady GaGa, Leanne Green fel Beyoncé a Take @ That

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Fel arfer, mae Taith Pyllau Glo Cymru yn llawn chwerthin a chyffro wrth i ymwelwyr o bob cwr o'r byd fwynhau dysgu am yr oes a fu. Dros Ŵyl y Banc, fodd bynnag, roedd y lle yn llawn cerddoriaeth a chanu. 

"Cafodd y gynulleidfa ddiwrnod i'r brenin yn achlysur Teyrnged yn y Parc. Hoffwn i ddiolch i bawb a ddaeth, am yr amgylchedd anhygoel." 

Yn rhan o raglen buddsoddi gwerth £500,000 ar gyfer yr atyniad i dwristiaid yma, mae safle Parc Treftadaeth Cwm Rhondda wedi cael ei ailstrwythuro a'i wella. Mae'r Cyngor hefyd wedi cyflwyno dehongliad newydd sbon o hanes Glo a Chwm Rhondda. 

Mae gan Barc Treftadaeth Cwm Rhondda, Taith Pyllau Glo Cymru, achlysuron â themâu arbennig wedi'u cynllunio ar gyfer cyfnod Calan Gaeaf, sef X-Scream Calan Gaeaf a Rhialtwch Calan Gaeaf. Bydd Ogof Teganau Siôn Corn adeg y Nadolig. 

Bob wythnos, rydyn ni'n cynnig Taith yr Aur Du, sef taith yng nghwmni glowyr wedi'u hymddeol o amgylch safle'r hen bwll glo. 

Mae Taith yr Aur Du yn cynnwys ymweld â'r Ystafell Lampau lle mae ymwelwyr yn casglu helmedau a lampau glowyr, ymweld â'r Iard Lo Wreiddiol, a chael cyfle i weld Corn Simnai hanesyddol trawiadol Cwm Rhondda mae modd ei weld o bell, yn ogystal â gweld y Ffrâm Uwchben y Pwll a'r Olwyn Godi. 

Am ragor o wybodaeth am yr atyniadau a'r cyfleusterau sydd ar gael ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, Taith Pyllau Glo Cymru, ewch i www.rhonddaheritagepark.com a hoffi/dilyn Rhondda Heritage Park ar Drydar a Facebook. Er mwyn cadw lle, ffoniwch 01443 682036.

Wedi ei bostio ar 29/08/17