Skip to main content

Teithiau Aur Du

 

Archebwch eich Taith yr Aur Du Dan Ddaear a gwyliwch hanes yn dod yn fyw!

Archebwch Nawr

Rhyfeddwch at ein taith danddaearol, rhowch gynnig ar ein profiad rithwir 'Dram', a llawer yn rhagor!
Miner-in-the-Mine-with-Kids
Dram-to-use

Caiff Taith yr Aur Du, sy'n para awr a mwy, ei chynnal dan ddaear a'i harwain gan ein tywyswyr. Gweithiodd pob un o'n tywyswyr ym mhyllau glo Cwm Rhondda pan oedden nhw'n fechgyn ifainc.

Mae llu o hanesion ganddyn nhw i'w hadrodd am fywyd yn y pyllau glo, gan gynnwys hanes yr Aur Du a gafodd ei gludo o Gwm Rhondda ar draws y byd mewn llongau mawr. Dewch i gwrdd â'n glowyr.

Daw'r daith i ben gyda thaith rithwir ar DRAM!, ein dram lo rithiol sy'n addo ambell i sypréis!

Mae pobl wrth eu boddau â'n taith ryngweithiol, a heb os nac oni bai eu hoff ran yw cwrdd â'r cyn-lowyr sy'n rhannu eu straeon, atgofion a'u profiadau personol nhw. Mae'r rhain yn aml yn emosiynol, yn ddoniol a bob tro'n wreiddiol.

Does dim rhaid i chi dalu i fwynhau'n harddangosfa ryngweithiol sy'n rhoi cipolwg i chi o fywyd yng Nghwm Rhondda flynyddoedd yn ôl. Mae modd cyffwrdd â'r sgriniau ac mae elfennau rhyngweithiol yr arddangosfa'n dod â'r hanes yn fyw i chi. Beth am eistedd mewn parlwr hen dŷ tra bod y plant yn gwisgo hen wisgoedd? 

Rhagor o wybodaeth

Lan llofft, caiff hanes mawreddog cloddio am lo yng Nghwm Rhondda ei adrodd yn Oriel yr Aur Du. Dewch i ddysgu am y perchnogion cyfoethog ac am y gwaith tra pheryglus roedd y glowyr yn ei wneud. Dysgwch pam ein bod ni'n galw glo yn Aur Du a sut y'i defnyddiwyd i bweru'r byd. Yn ogystal â hynny, mae gyda ni arddangosfeydd tymhorol amrywiol i'w mwynhau.

Rhagor o wybodaeth.

Ar yr iard y tu allan, mae eitemau o'r cyfnod cloddio glo gan gynnwys y cysgod Anderson. Byddai'r glowyr wedi brysio i ymgasglu o dan y cysgod yma pe bai larymau rhybudd bom wedi seinio. Ar yr iard hefyd, mae'r Hen Efail lle byddai gof y pwll glo wedi gweithio â'r ceffylau hynny a oedd yn gweithio dan ddaear.

Rhagor o wybodaeth

Cymerwch hoe yn ein Caffè Bracchi a mwynhewch amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, byrbrydau, prydiau mawr a danteithion melys – gan gynnwys cacennau blasus!

Galwch heibio i'r siop siocled arbennig ac ewch â siocled wedi'i wneud â llaw adref gyda chi! Ar agor nawr!

Os ydych chi'n caru crefftio, dewch i'r llawr cyntaf! Dewch i Craft of Hearts i bori trwy'r deunyddiau crefftio (dim ond hyn a hyn o bobl gaiff ddod i mewn ar y tro) neu byddwch yn greadigol a chadw'ch lle mewn dosbarth crefft o'ch dewis.

Prisiau'r Tocynnau

  • Oedolion £10.95
  • Plentyn £7.50
  • Teulu o 4 £30