Skip to main content

Yr Orielau

 

Yr Orielau

Dewch i ymweld â'r orielau am ddim sydd gyda ni i ddysgu rhagor am hanes pentrefi Cwm Rhondda.

Y Casgliad

Ar un adeg roedd Cymoedd y Rhondda, DeCymru, yn fyd enwog gan eu bod nhw’n pweru’r byd gyda’i lo. Mae ein casgliad yn cynnwys eitemau o’r cyfnod pan oedd glo’n frenin – gan gynnwys lampau Davy enwog a ddefnyddiwyd gan lowyr i oleuo’r ffordd drwy’r pyllau glo tywyll.  Cafodd yr eitemau yma'u sganio mewn 3D yn ein stiwdio symudol yn rhan o brofiad mwyngloddio rhithwir "Pwll Bach Cwm Rhondda".   Dyma brosiect sydd wedi’i greu gan Vision Fountain gan ddefnyddio cyllid "Gaeaf Llawn Lles" Llywodraeth Cymru. Cafodd tair o'r eitemau yma'u sganio'n rhan o brosiect rhithwir "Y Genhedlaeth Olaf o Lowyr", sef prosiect ar y cyd rhyngom ni, Cronfa Treftadaeth y Loteri ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Gweld y casgliad

Y Gymdeithas Lofaol

Mae oriel y Gymdeithas Lofaol ar y llawr gwaelod. Mae'n adrodd hanes pobl Cwm Rhondda o 1800 hyd heddiw. Mae'r oriel yma'n canolbwyntio ar leisiau Menywod, Ymgyrchwyr a Chapeli, a'r portreadau tu hwnt i ddynion yn gweithio yn y pyllau glo. Roedd bywyd yn wahanol i bawb a oedd yn byw yng Nghwm Rhondda ac mae'r arddangosfa yma'n tynnu ein sylw at y profiadau hynny. Defnyddiwch ein sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol i ddarganfod pam fod pobl wedi symud i'r ardal neu i wrando ar yr ymgyrchydd Elizabeth Andrews. Rhowch gynnig ar ein llinell amser rhyngweithiol i ddysgu rhagor am ddigwyddiadau allweddol y gorffennol. Mae modd i chi hefyd eistedd yn ein parlwr arbennig. Roedd y parlwr yn ystafell bwysig yn y rhan fwyaf o gartrefi yng Nghwm Rhondda.

Coal-2
Coal-Society1

Ein Rhes o Siopau

Ar y llawr gwaelod, bydd ymwelwyr yn gweld rhes o siopau o bentref Gilfach-goch a gafodd eu hailadeiladu yma yn Nhaith Pyllau Glo Cymru Mae un siop wedi cael bywyd newydd fel 'The Chocolate House', lle mae modd i chi brynu siocledi a danteithion blasus sydd wedi’u gwneud â llaw. Mae'r siop cigydd yn ymddangos fel yr oedd flynyddoedd yn ôl ac mae'n cynnwys bloc cigydd a chloriannau pwyso traddodiadol. Mae yna hefyd wisgoedd y mae modd i’r plant eu gwisgo yn ystod eu hymweliad gan roi cyfle iddyn nhw weld beth oedd y Fictoriaid, y glowyr a hyd yn oed menywod Byddin y Tir, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn ei wisgo.

 

Shop1
shop2

BOriel yr Aur Du

Mae Oriel yr Aur Du wedi'i lleoli i fyny'r grisiau ac yn adrodd stori ddirdynnol y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda. Mae modd i chi ddarganfod rhagor am ddiwydiant glo llwyddiannus yr ardal, o berchnogion y pyllau glo i'r dynion o dan y ddaear. Dysgwch ragor am sut mae pobl yn defnyddio glo a deall pam ei fod yn cael ei ystyried yn 'Aur Du'. Dysgwch ragor am ein glo yn cael ei gludo i bedwar ban byd a sut datblygodd diwylliant 'y Gymru Americanaidd'. Yn bwysicaf oll, dewch i ddeall effaith y diwydiant glo ar bobl Cwm Rhondda.

BlackGold2
Gold1

Oriel Dros Dro

Mae ein horiel dros dro i fyny’r grisiau. Bydd y thema’n newid bob 3-4 mis er mwyn canolbwyntio ar agwedd arall ar hanes Cwm Rhondda.

Ar hyn o bryd rydyn ni'n arddangos 'Proud Valley: Bywyd ac Etifeddiaeth Paul Robeson'. Darllenwch am sut y gwnaeth Robeson, mab caethwas a ddihangodd, ddiffinio brwydr gydraddoldeb yr Americanwyr Affricanaidd yn ystod yr 20fed Ganrif. Byddwch chi hefyd yn dysgu am ei berthynas agos, arbennig â glowyr De Cymru; perthynas a barhaodd gydol ei oes.

Iard y Tu Allan

Mae gyda ni arddangosfeydd yn yr iard y tu allan hefyd. Dewch i weld yr efail a dysgu rhagor am waith gof y pwll glo a gwrando ar ei straeon. Mae Lloches Anderson gwreiddiol yn yr iard, ynghyd â gardd 'Dig for Victory'. Mae modd i chi hefyd weld y peiriannau oedd yn cael eu defnyddio dan y ddaear, a gweld ein dramiau glo!

Outside-Yard1
Outside-yard2