Skip to main content

Caffi Bracchi

Mae Caffe Bracchi ar lawr gwaelod Taith Pyllau Glo Cymru ac mae'n cynnig ystod flasus o brydau a byrbrydau poeth ac oer.
Cafe March 2019 - 2
Cafe March 2019 - 4
Cafe March 2019 - 1
Cafe March 2019 - 3

Mae Caffi Bracchi yn deyrnged i'r dylanwad Eidalaidd cryf sy'n parhau yng Nghwm Rhondda, fwy na chanrif ar ôl i'r ymfudwyr cyntaf ymgartrefu yn y cymoedd o ranbarth Bardi.

Agorodd yr Eidalwyr yma gaffis a siopau hufen iâ - gelwir y rhain yn Bracchi - ac mae llawer ohonyn nhw'n dal i fod ar agor heddiw.

Agorwyd y Bracchis gan ddynion a menywod a oedd wedi'u denu i Gymoedd y De o ganlyniad i'r twf diwydiannol. Manteision nhw ar y diwydiannau glo a haearn, a'r cymunedau clos ddatblygodd o amgylch y pyllau glo a'r gweithiau haearn.

Os ydych chi am gadw bwrdd ar gyfer te prynhawn, cinio neu unrhyw achlysur arall ffoniwch Chocolate House ar 07834 900978 neu anfonwch neges atyn nhw ar eu tudalen Facebook.