Galwch heibio i’r Siop Anrhegion Cymreig traddodiadol i gael rhywbeth i gofio eich ymweliad.
Mae amrywiaeth o roddion gan gynnwys llyfrau o ddiddordeb lleol a chardiau, yn ogystal â chofroddion sy'n gysylltiedig â Chwm Rhondda, megis cerfluniau glo ac atgynhyrchiadau o Lampau Glowyr.
Mae'r Siop Anrhegion Cymreig yn llawn teganau, gemwaith a chrochenwaith traddodiadol, yn ogystal â gwisgoedd Cymreig traddodiadol a chrysau rygbi. Bydd y siop hefyd yn gwerthu anrhegion tymhorol yn ystod cyfnod y Nadolig.
Eich ‘Siop Bob Dim’ am eich anrhegion Cymreig!