Tocyn anrheg ar gyfer taith i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda - yr anrheg berffaith i rywun sydd â phopeth yn barod!
Prynwch ddiwrnod diddorol i rywun arbennig – mae gyda ni amrywiaeth o dalebau y mae modd eu defnyddio i gael mynediad a Thaith dan ddaear yr Aur Du.
Mae talebau'n ddilys am 12 mis o ddyddiad eu prynu. Mae modd argraffu'r daleb neu'i hanfon mewn e-bost at yr unigolyn o'ch dewis. Bydd modd i'r unigolyn yma nodi rhif unigryw y daleb i'w defnyddio ar-lein.
Gwerthir holl dalebau yn unol â'u hwynebwerth a fyddan nhw ddim yn cynnwys unrhyw ostyngiadau.
Prynwch eich taleb yma