Skip to main content

Cyfrifiaduron i'r cyhoedd

Os ydych chi’n aelod o’r llyfrgell, gallwch ddefnyddio ein cyfrifiaduron yn rhad ac am ddim ar unrhyw safle llyfrgell yn Rhondda Cynon Taf.
Rydyn ni hefyd yn cynnig defnydd o WiFi yn rhad ac am ddim yn y Llyfrgelloedd canlynol: Llyfrgell Abercynon, Llyfrgell Pont-y-clun, Llyfrgell Aberdâr, Llyfrgell Pontypridd, Llyfrgell Pentre’r Eglwys, Llyfrgell Y Porth, Llyfrgell Glynrhedynog, Llyfrgell Rhydfelen, Llyfrgell Hirwaun, Llyfrgell Tonypandy, Llyfrgell Llantrisant, Llyfrgell Treorci, Llyfrgell Aberpennar 
Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cadw eich lle ymlaen llaw ar gyfer sesiwn ar y cyfrifiadur. Gwnewch hyn drwy gysylltu â’ch llyfrgell leol.

Rhaglenni sydd ar gael ar gyfrifiaduron y llyfrgell.

Rydyn ni’n cynnig y cyfleusterau canlynol ar bob un o gyfrifiaduron y llyfrgell:

  • defnydd o’r rhyngrwyd
  • llwybr byr i adnoddau ar-lein gan gynnwys Catalog y Llyfrgell Ar-lein
  • Microsoft Word ar gyfer prosesu geiriau
  • Microsoft Excel ar gyfer taenlenni  
  • Microsoft Powerpoint ar gyfer cyflwyniadau
  • Microsoft Access ar gyfer cronfeydd data
  • Acrobat Reader – agor PDF
  • argraffydd du a gwyn / lliw  ( gweler ffioedd yma)
  • sganiwr

Bydd hefyd cyfle i chi ddefnyddio’r rhaglenni a’r cyfleusterau canlynol ar o leiaf un cyfrifiadur ym mhob un llyfrgell:

  • Cicero ar gyfer darllen a chwyddo dogfennau sydd wedi cael eu sganio  
  • Cysgair – Geiriadur Cymraeg ar-lein
  • Cysill – Gwirio iaith/sillafu’r Gymraeg
  • Frontpage ar gyfer dyluniadau gwe  
  • Publisher – Meddalwedd cyhoeddi bwrdd gwaith 
  • Supernova ar gyfer darllen a chwyddo’r sgrin

Amodau Defnydd

  • Caiff eich defnydd o’r rhyngrwyd ei fonitro
  • mae defnydd o’r we yn rhad ac am ddim i bob aelod y llyfrgell.  Rhaid i chi gyflwyno cerdyn aelodaeth cyn dechrau sesiwn ar y cyfrifiadur.
  • bydd rhaid i bob defnyddiwr lofnodi cytundeb sy’n nodi eu bod nhw wedi darllen a deall polisi defnyddio gwasanaethau’r llyfrgell.
  • mae hawl i blant a phobl ifainc o dan 16 oed ddefnyddio’r rhyngrwyd cyn belled ag y bod rhiant neu warcheidwad yn llofnodi ffurflen ganiatâd ar eu rhan. Rhaid i ffurflenni gael eu llofnodi yn y llyfrgell dan oruchwyliaeth aelod o staff y llyfrgell.
  • y rhiant neu warcheidwad sy’n gyfrifol am y deunydd y mae eu plant yn edrych arno. Nid oes cyfrifoldeb â gwasanaeth y llyfrgelloedd dros oruchwylio defnydd y plant o’r rhyngrwyd.
  • mae defnydd yn rhad ac am ddim i bobl sy’n ymweld â Rhondda Cynon Taf. Bydd rhaid i chi ddangos tystiolaeth o’ch cyfeiriad chi a chyfeiriad y safle lle rydych chi’n aros cyn dechrau sesiwn ar y cyfrifiadur.
  • bydd sesiwn sydd wedi cael ei threfnu ymlaen llaw yn cael ei chadw am 10 munud yn unig. Os nad ydy rhywun yn cyrraedd yn ystod y cyfnod yma, bydd y sesiwn yn cael ei rhyddhau i ddefnyddwyr eraill.