Skip to main content

Ymaelodi â'r llyfrgell

Er mwyn manteisio ar eich llyfrgell leol a’i gwasanaethau, bydd rhaid i chi ymaelodi. 

Dod yn aelod o'r llyfrgell

Gallwch ddod yn aelod o'r Llyfrgell drwy gofrestru ar-lein

Unwaith eich bod chi wedi ymuno, bydd modd i chi fynd i unrhyw lyfrgell yn Rhondda Cynon Taf.

Dogfennau adnabod derbyniol:

  • trwydded yrru
  • bil cyfleustodau diweddar
  • bil treth y cyngor

Aelodaeth i blant

Aelodaeth - 0-13 oed

Bydd rhaid i chi gyflwyno un ddogfen adnabod sy’n nodi cyfeiriad y teulu ynghyd â ffurflen aelodaeth gyflawn wedi’i llofnodi gan riant neu warcheidwad.

Os nad yw’r plentyn yng nghwmni rhiant/gwarcheidwad, bydd rhaid iddo ymuno o dan y cynllun ‘Prawf Iau’. Bydd hawl iddo fenthyg hyd at 2 lyfr am y tri ymweliad cyntaf. Ar ôl y trydydd ymweliad, os cafodd pob eitem ei dychwelyd, bydd hawl iddo fenthyg y nifer uchafswm o 10 eitem.

Aelodaeth 14-16 oed

Bydd rhaid i chi gyflwyno un darn o dystiolaeth adnabod sy’n nodi enw a chyfeiriad eich teulu ynghyd â ffurflen aelodaeth wedi’i llofnodi gan riant neu warcheidwad. Unwaith eich bod chi’n aelod, bydd hawl i chi fenthyg y nifer uchafswm o 10 eitem.

Cytundeb i ddefnyddio’r rhyngrwyd

I gael defnyddio’r we yn unrhyw un o’n llyfrgelloedd, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gytundeb. Mae’r ffurflen hon ar gael ym mhob un llyfrgell.

0 - 16 oed

Rhaid i blant 16 oed ac yn iau gyflwyno un darn o dystiolaeth adnabod sy’n dangos cyfeiriad y teulu ynghyd â ffurflen aelodaeth gyflawn a ffurflen cytundeb i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Rhaid i’r ffurflenni gael eu llofnodi gan riant/gwarcheidwad.