Work and skills banner - welsh

Cyflogaeth, Sgiliau a Hyfforddiant

Mae gyda ni nifer o raglenni cymorth cyflogaeth ar gael ledled Rhondda Cynon Taf. Maen nhw'n cynnig cymorth a chyngor i bob trigolyn dros 16 mlwydd oed sy'n chwilio am waith, cyfleoedd i hyfforddi neu gyfleoedd i wirfoddoli. Mae modd i chi hefyd gael cymorth i wella'ch sgiliau pan fyddwch chi mewn swydd.

Equal-Opportunities-Information
Mynediad i gymorth un wrth un er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol; boed hynny ar ffurf bod yn fwy heini, manteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a hyfforddiant, ennill cymwysterau, gwirfoddoli neu ddod o hyd i swydd.
Jobs-and-training

Cyfleoedd wedi'u hachredu a heb eu hachredu i ddysgu sgiliau newydd ac ychwanegu cymwysterau i'ch CV.

Job-Vacancies

Hyfforddiant un wrth un ac arweiniad i’ch helpu i gyflawni eich potensial a bod mewn sefyllfa well i ddatblygu eich gyrfa.

Work-Experience

Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli neu fynd ar leoliad gwaith ynghyd â chysylltiadau uniongyrchol â chyfleoedd cyflogaeth cyfredol ym mhob sector.

Apprenticeship-Opportunities

Gwella'ch sgiliau digidol a'ch sgiliau sylfaenol yn cynnwys Saesneg a Mathemateg. Dechrau gwirfoddoli a gwella'ch hyder, eich lles corfforol a'ch lles meddyliol. 

Cysylltu â ni:

I ofyn cwestiwn cyffredinol, cysylltwch â:

Carfan Cymorth Ganolog:
Ffôn:
01443 425761

E-bost: gwaithasgiliau@rctcbc.gov.uk

 

Rhaglenni wedi'u Hariannu gan Grantiau:

Mae ein gwasanaethau cymorth cyflogaeth yn cael eu cynnal gan ddefnyddio cyllid grant o Gynllun Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru a Rhaglen Pobl a Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. 

Welsh Gov logo

 Welsh - Funded by UK Government - stacked

 

English - Powered by Levelling Up
Communities for work