Rydyn ni wedi diweddaru'r 'Asesiad Risg' ar gyfer seremonïau ym Mhrif Adeiladau'r Cyngor. Bydd y newidiadau isod yn dod i rym o ddydd Sadwrn 4 Medi 2021.

Mae'r asesiad newydd yn caniatáu i uchafswm nifer y gwesteion (gan gynnwys ffotograffydd/fideograffydd a phlant) mewn seremonïau i gynyddu o 4 Medi 2021. Bydd modd i 10 ddod i seremonïau yn y Swyddfa Gofrestru (ystafell fach), 28 yn Ystafell Evan James a 33 yn y Siambr Ddinesig. Nid yw'r briodferch a'r priodfab wedi'u cynnwys yn y nifer o westeion a ganiateir ar gyfer yr ystafelloedd yma.

Bydd raid i bob gwestai, heb gynnwys plant o dan 11 oed neu'r rhai sydd wedi'u heithrio'n feddygol, barhau i wisgo gorchudd wyneb wrth fynd i mewn i'r adeilad a rhaid i'r rhain barhau i gael eu gwisgo nes bod y Cofrestrydd yn cynghori'r holl westeion i dynnu eu gorchuddion wyneb pan fydd y seremoni yn cychwyn. Bydd y Cofrestrydd yn gofyn i'r holl westeion ailwisgo eu gorchuddion wyneb unwaith y bydd y seremoni gyfreithiol yn dod i ben.