Skip to main content

Partneriaeth Sifil

Daeth Deddf Partneriaeth Sifil 2004 i rym ar 5ed Rhagfyr 2005. Ar y tudalennau yma, cewch chi fanylion gofynion cyfreithiol cofrestru Partneriaeth Sifil ynghyd â gwybodaeth am seremonïau.
Os hoffech chi weld bwrdd Hysbysiad o Briodas/Partneriaeth Sifil tra bod yr adeilad ar gau, mae modd i chi gysylltu â’n swyddfa ym Mhontypridd ar 01443 494024 i drefnu apwyntiad i ddod i’r swyddfa i weld y bwrdd presennol

Beth yw Partneriaeth Sifil?

Daeth Deddf Partneriaeth Sifil i rym ar 5 Rhagfyr 2005 gan alluogi parau o’r un rhyw i gael cydnabyddiaeth gyfreithiol o’u perthynas yn ‘Bartneriaid Sifil’.

Unwaith bod pâr wedi cofrestru’r bartneriaeth sifil mae’r bartneriaeth yr un mor gyfreithiol-rwymol â phriodas. Bydd parau’n cael eu trin yn yr un modd yn llygad y gyfraith ar gyfer amrywiaeth helaeth o faterion cyfreithiol ag y mae parau priod. Mae hyn yn cynnwys hawliau pensiwn, hawliau taliadau cynnal, taliadau cynnal plant ynghyd â chydnabyddiaeth o dan reolau diewyllysedd.

Pwy sy'n gallu cofrestru partneriaeth sifil?

Rhaid i bâr sydd eisiau cofrestru Partneriaeth Sifil fod o’r un rhyw.  Does dim modd i gyplau heterorywiol gofrestru Partneriaeth Sifil.

Rhaid i bâr fodloni’r meini prawf canlynol cyn cofrestru Partneriaeth Sifil yn y Deyrnas Unedig:

  • rhaid iddyn nhw fod o’r un rhyw
  • rhaid iddyn nhw beidio â bod mewn Partneriaeth Sifil neu'n briod
  • rhaid iddyn nhw fod yn 16 oed neu’n hŷn
  • rhaid iddyn nhw beidio â bod mewn perthynas sydd wedi’i gwahardd

Yng Nghymru a Lloegr, bydd raid i bobl 16 oed ac 17 oed gael caniatâd ysgrifenedig eu rhieni neu’u gwarcheidwaid cyfreithiol cyn cofrestru Partneriaeth Sifil.

Rhagarweiniadau Cyfreithiol i Bartneriaeth Sifil yng Nghymru a Lloegr

Cyn bod hawl gyda chi i ffurfio Partneriaeth Sifil yng Nghymru a Lloegr, rhaid rhoi hysbysiad o’r bwriad i Gofrestrydd Arolygol yr ardal rydych chi’n byw ynddi yn y lle cyntaf. Mae Hysbysiad o Bartneriaeth Sifil yn ddogfen gyfreithiol sy’n ddilys am flwyddyn.

Mae gofyn bod y ddau ohonoch chi wedi byw mewn Ardal Gofrestru yng Nghymru neu Loegr am o leiaf saith diwrnod cyn rhoi hysbysiad cyfreithiol.  Os ydy’r ddau ohonoch chi’n byw yn yr un cylch, mae gofyn bod y naill a’r llall yn galw heibio i’ch swyddfa gofrestru leol mewn person, i roi hysbysiad cyfreithiol i’r Cofrestrydd Arolygol.

Rhaid rhoi'ch hysbysiad cyfreithiol drwy law ac yn annibynnol.

Os ydych chi’n byw mewn ardaloedd gwahanol, mae gofyn bod y ddau ohonoch chi’n rhoi Hysbysiad Cyfreithiol i’r Ardaloedd Cofrestru perthnasol.

Ar ôl i chi gyflwyno Hysbysiad Cyfreithiol, rhaid aros 15 niwrnod clir, cyn ffurfio Partneriaeth Sifil. Mae’r cyfnod aros yn elfen hanfodol o’r Gyfraith ac mae disgwyl i bawb gydymffurfio â hi.

Mae ffi statudol ar gyfer rhoi Hysbysiad Cyfreithiol a rhaid talu’r gost adeg rhoi Hysbysiad. Rydyn ni’n derbyn arian parod, siec, cardiau credyd neu ddebyd. Mae gofyn i chi dalu ffi’r Seremoni ymlaen llaw bryd hynny hefyd.

Os penderfynwch chi dalu â siec, mae gofyn i chi gyflwyno cerdyn gwarantu sieciau.

Os ydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae modd ichi roi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i sefydlu Partneriaeth Sifil i’r Swyddfa Gofrestru, Adeiladau’r Cyngor, Heol Gelliwastad, Pontypridd CF37 2DP. Byddwch gystal â ffonio i drefnu amser cyfleus cyn galw heibio ar (01443) 494024 neu drwy e-bost: cofrestrydd@rctcbc.gov.uk

Ble mae modd i mi gofrestru fy Mhartneriaeth Sifil?

Pan fyddwch chi’n cyflwyno’ch Hysbysiad Cyfreithiol, byddwn ni’n gofyn i chi nodi ble rydych chi eisiau cofrestru’ch Partneriaeth Sifil. Bydd Partneriaeth Sifil yn cael ei sefydlu pan fydd y ddau ohonoch chi’n llofnodi’r ddogfen berthnasol ym mhresenoldeb Cofrestrydd Partneriaethau Sifil a dau dyst.

Bydd y Bartneriaeth Sifil yn cael ei sefydlu unwaith bod yr ail bartner a’r dau dyst wedi llofnodi’r ddogfen berthnasol. Mae’r weithred yma’n cadarnhau uniad cyfreithiol y pâr.

Mae modd i chi drefnu Seremoni Partneriaeth Sifil adeg cofrestru’r bartneriaeth, ond dydy Deddf Partneriaeth Sifil ddim yn mynnu bod rhaid cael seremoni’n rhan o’r broses gofrestru.

Seremonïau Partneriaeth Sifil

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o seremonïau Partneriaeth Sifil, o’r rhai syml gydag ychydig o dystion hyd at seremonïau mwy ffurfiol gyda chynulleidfa a gwesteion.

Pa fath bynnag o seremoni y byddwch chi’n hoffi ei chael, bydd ein harbenigwyr yn eich helpu i’w threfnu, ac yn ei wneud yn ddiwrnod hapus i’w gofio. 

Beth ydy cost Seremoni Partneriaeth Sifil yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd?

Mae pedair rhain i'w thalu:

  • Ffi Trefnu/Cadw Dyddiad – Tâl bach ar wahân yw’r ffi yma, i sicrhau y cewch chi’r dyddiad a’r amser o’ch dewis ymlaen llaw cyn eich seremoni. Does dim modd ei ad-dalu.
  • Hysbysiad o Bartneriaeth Sifil – Ffi i’w thalu i’r Cofrestrydd Arolygol pan ddewch chi i roi eich hysbysiad cyfreithiol yn yr ardal rydych chi’n byw ynddi. Does dim modd ei had-dalu os caiff y seremoni ei chanslo ar ôl rhoi’r hysbysiad cyfreithiol.
  • Ffi Seremoni – Dyma ffi am bresenoldeb y Cofrestrydd Partneriaeth Sifil yn eich seremoni. Rhaid talu hon ymlaen llaw, adeg rhoi hysbysiad. Caiff y ffi ei had-dalu os byddwn ni’n derbyn hysbys o’r canslad yn ysgrifenedig o leiaf fis cyn y seremoni.
  • Ffi am Dystysgrif – Efallai bydd eisiau tystysgrif gyfreithiol o’ch Partneriaeth Sifil arnoch chi i ddibenion cyfreithiol neu’n dystiolaeth o bwy ydych chi. Mae modd i chi brynu cynifer ag y mynnoch. Dydy tystysgrifau cyfreithiol o ran sefydlu Partneriaeth Sifil ddim ar gael ar ddiwrnod y seremoni, maen nhw’n cael eu hanfon atoch chi gyda throad y post ar y diwrnod gwaith nesaf. Yn y cyfamser, caiff tystysgrif goffa i gofnodi’r achlysur ei chyflwyno am dâl ychwanegol. 

Mae Statud yn pennu ffioedd rhoi Hysbysiad o Bartneriaeth Sifil a ffioedd Tystysgrifau. Yr Awdurdod Lleol sy’n pennu ffioedd eraill. Caiff y ffioedd eu hadolygu bob blwyddyn, ac maen nhw’n agored i gael eu newid.

Tabl o'r Ffïoedd Presennol ar gyfer Seremonïau mewn Swyddfa Gofrestru

Ffïoedd mewn Canolfannau swydd wedi'u Cymeradwyo

  • Ffi Trefnu/Cadw Dyddiad – Tâl bach ar wahân yw’r ffi yma, i sicrhau y cewch chi’r dyddiad ac amser o’ch dewis ymlaen llaw cyn eich seremoni. Does dim modd ei ad-dalu.
  • Hysbysiad o Bartneriaeth Sifil – Ffi i’w thalu i’r Cofrestrydd Arolygol pan ddewch chi i roi eich hysbysiad cyfreithiol yn yr ardal rydych chi’n byw ynddi. Does dim modd ei had-dalu os caiff y seremoni ei chanslo ar ôl rhoi’r hysbysiad cyfreithiol.
  • Ffi Seremoni – Dyma ffi am bresenoldeb y Cofrestrydd Partneriaeth Sifil yn eich seremoni. Rhaid talu’r ffi yma ymlaen llaw, tua 6 wythnos cyn dyddiad cynnal y seremoni. Caiff y ffi ei had-dalu os byddwn ni’n derbyn hysbys o’r canslad yn ysgrifenedig o leiaf fis cyn y seremoni.
  • Ffi am Dystysgrif  Efallai bydd eisiau tystysgrif gyfreithiol o’ch Partneriaeth Sifil arnoch chi i ddibenion cyfreithiol neu’n dystiolaeth o bwy ydych chi. Mae modd i chi brynu cynifer ag y mynnoch. Dydy tystysgrifau cyfreithiol o ran sefydlu partneriaeth sifil ddim ar gael ar ddiwrnod y seremoni ond mae modd eu harchebu a’u hanfon nhw atoch chi gyda throad y post ar y diwrnod gwaith nesaf. Yn y cyfamser, caiff tystysgrif goffa i gofnodi’r achlysur ei chyflwyno am dâl ychwanegol. 

Mae Statud yn pennu ffioedd rhoi Hysbysiad o Bartneriaeth Sifil a ffioedd Tystysgrifau. Yr Awdurdod Lleol sy’n pennu ffioedd eraill. Caiff y ffioedd eu hadolygu bob blwyddyn, ac maen nhw’n agored i gael eu newid.

Noder: Mae’n debygol y bydd perchnogion y ganolfan yn codi tâl am ei defnyddio.

Tabl o'r Ffïoedd Presennol ar gyfer Seremonïau mewn Canolfannau sydd wedi'u cymeradwyoies

Trefnu/cadw dyddiad dros dro

Mae Hysbysiad o Bartneriaeth Sifil yn ddilys am flwyddyn. Mae hi’n syniad da i drefnu seremoni cyn gynted ag y bo modd. Mae hyn yn berthnasol p’un ai ydych chi am gynnal eich seremoni yn y Swyddfa Gofrestru, neu mewn canolfan sydd wedi’i chymeradwyo.

Mae’r rhan fwyaf o safleoedd sydd wedi’u cymeradwyo yn yr ardal yn gweithredu system cadw lle dros dro. Bydd hyn yn fodd ichi wneud eich trefniadau ar gyfer eich seremoni lawer ynghynt. O wneud hyn, mae modd ichi wneud eich holl drefniadau angenrheidiol mewn da bryd.

I gadw lle ymlaen llaw, mae gofyn eich bod chi’n ysgrifennu at Gofrestrydd Arolygu’r ardal rydych chi’n bwriadu cynnal y seremoni ynddi hi. Mae gofyn eich bod chi’n rhoi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bartneriaeth Sifil i Gofrestrydd Arolygu’r ardal rydych chi’n byw ynddi hi, cyn pen blwyddyn o ddyddiad y seremoni, pa le bynnag yng Nghymru neu Loegr bydd y Bartneriaeth Sifil yn digwydd.

Noder: Mae Rhondda Cynon Taf yn codi ffi i gadw dyddiad ac amser eich seremoni dros dro. Does dim modd ei had-dalu.

Rhagor o wybdaeth

Mae rhagor o wybodaeth/cyngor ar gael y gwefannau canlynol:

Y Cofrestrydd Arolygu

Y Swyddfa Gofrestru Adeiladau’r Cyngor
Gelliwastad Road
Pontypridd
CF37 2DP

Ffôn: 01443 494024