Mae Rhondda Cynon Taf yn un o ranbarthau cofrestru mwyaf Cymru. Mae ein staff profiadol, sydd wedi cael hyfforddiant o’r safon gorau, yn cynnig gwasanaeth proffesiynol o’r radd flaenaf ar gyfer cynnal seremonïau priodas, gwasanaethau sifil a seremonïau enwi.
Mae modd cynnal y seremonïau yma yn y Swyddfa Gofrestru, sydd â’i chanolfan yng nghanol tref hanesyddol Pontypridd, neu yn un o westai gwledig ledled y fwrdeistref sirol.
Swyddfa Gofrestru Pontypridd – ystafelloedd ar gael i’w llogi
Mae modd dewis o blith 3 o ystafelloedd sy wedi’u haddurno’n chwaethus yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd.
Swyddfa Gofrestru Rhondda Cynon Taf
Mae modd llogi’r ystafell yma ddydd Llun i ddydd Saswrn. Cost llogi’r ystafell yma sydd â lle i 10 o westeion ydy £40 (aros am lun)
Ystafell Evan James
Mae Ystafell Evan James ar gael i’w llogi ddydd Llun i ddydd Sadwrn.Cost llogi’r ystafell yma (llun i’w weld ar yr ochr dde) sydd â lle i 45 o westeion ydy £80.
Y Siambr Ddinesig
Mae modd llogi’r Siambr Ddinesig ddydd Llun i ddydd Gwener. Cost llogi’r ystafell yma (llun i’w weld ar yr ochr dde) sydd â lle i 45 o westeion ydy £80.
Noder: I gadw lle, mae blaendal o £10 yn daladwy. Does dim modd ad-dalu’r arian yma.
I gadw lle, cysylltwch â ni ar y manylion cyswllt sy wedi’u nodi isod:
Canolfannau sy wedi’u Cymeradwyo
Mae nifer o Ganolfannau sy wedi’u Cymeradwyo ar gyfer cynnal Priodasau, Seremonïau Sifil a Seremonïau Enwi i’w cael yn Rhondda Cynon Taf. Yn ôl y gyfraith, mae modd i’n Swyddogion Cofrestru i gynnal seremonïau yn y canolfannau yma.
Os byddwch chi’n penderfynu priodi mewn un o’n Mangreoedd sy wedi’u Cymeradwyo, mae gofyn eich bod chi’n cysylltu â’r ganolfan o’ch dewis i wneud trefniadau dros dro gyda’r swyddog sydd â chyfrifoldeb.
Mae’n rhaid i chi gadarnhau’r trefniadau yma gyda’r Cofrestrydd Arolygu yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd, i ofalu bod swyddogion cofrestru ar gael ar y diwrnod, i gynnal y seremoni a chofrestru’r briodas.
I gael rhagor o fanylion ynglŷn â’r uchod, cysylltwch â ni:
Cofrestrydd Arolygol
Y Gofrestrfa Ranbarthol
Adeiladau’r Cyngor
Gelliwastad Road
Pontypridd
CF37 2DP
Ffôn: 01443 494024