Skip to main content

Priodasau ail-ddatgan addunedau

Rydyn ni’n falch o allu cynnig seremonïau Ail-ddatgan Addunedau Priodas. Mae’r seremonïau hyn ar gael i bob pâr priod sy’n dymuno dathlu eu hymrwymiad parhaus i’w gilydd a’u cariad.

Er bod y seremonïau hyn yn briodol ar gyfer parau ar unrhyw adeg yn eu hoes briodasol, yn aml, maen nhw’n gysylltiedig â phenblwyddi priodas arbennig fel deg mlynedd, pum mlynedd ar hugain, deugain mlynedd ac ati.

Mae’r seremonïau hyn hefyd yn berthnasol i barau sydd wedi priodi mewn gwlad dramor, ac sydd am ail-ddatgan eu haddunedau priodas o flaen teulu a ffrindiau. Gall seremoni hefyd fod yn arbennig o berthnasol i bâr sydd wedi cael amser caled gyda’i gilydd ac sydd am ddathlu ac ail-ddatgan eu hymrwymiadau i’w gilydd.

Sylwer: mae seremoni ail-ddatgan addunedau yn seremoni seciwlar a ni fydd yn cynnwys unrhyw gyfeiriadau crefyddol. Os hoffech chi gynnal seremoni grefyddol, cysylltwch â’ch eglwys neu gymuned grefyddol leol.

Pam ail-ddatgan addunedau priodas?

Mae ail-ddatgan addunedau priodas yn gyfle i barau ddathlu eu hymrwymiad, eu cariad a’u cefnogaeth barhaol i’w gilydd. Mae’n gyfle i’r pâr ail-greu hud eu diwrnod priodas mewn seremoni unigryw wedi’i theilwra’n benodol ar eu cyfer. P’un ai ydych chi’ch dau am ddathlu gyda’ch gilydd, neu yng nghwmni teulu a ffrindiau, gallwn ni eich helpu chi i drefnu dathliad delfrydol.

Er nad oes gan y Seremoni Ail-ddatgan Addunedau Priodas unrhyw statws cyfreithiol, mae’n ddatganiad cyhoeddus o’ch ymrwymiad, eich cariad a’ch cefnogaeth barhaol i’ch gilydd. Mae achlysur o’r fath yn gyfle urddasol a ffurfiol i:

  •  Ail-ddatgan eich addunedau priodas
  •  Ail-gyflwyno’ch hen fodrwyau priodas neu gyflwyno rhai newydd i’ch gilydd
  •  Ail-ddatgan eich ymrwymiad i’ch gilydd a’ch partneriaeth gydol oes

Gall unrhyw bâr priod drefnu seremoni Ail-ddatgan Addunedau Priodas. Does dim ots os ydych chi wedi bod yn briod o’r blaen, dim ond eich bod chi’n gyfreithiol briod â’ch gilydd adeg y seremoni.

Un o’n “Dathlwyr” profiadol ni fydd yn cynnal y seremoni a fyddan nhw ddim yn gweithredu mewn unrhyw gapasiti cyfreithiol. Fodd bynnag, bydd y dathlwr sy’n cynnal y seremoni yn cynnig ei gymorth a’i arbenigedd i chi er mwyn gwneud yn siŵr y bydd eich seremoni yn achlysur urddasol a chofiadwy.

Does gan y Seremoni Ail-ddatgan Addunedau na’r Dystysgrif Ddathliadol ddim statws cyfreithiol.

Oes modd i ni gynnal Seremoni Enwi ar yr un pryd â seremoni ail-ddatgan addunedau priodas?

Mae’n bosibl i bâr drefnu Seremoni Enwi i ddilyn ymlaen yn syth o’u Seremoni Ail-ddatgan Addunedau Priodas. Weithiau, bydd pâr yn dymuno gwneud hyn os ydyn nhw wedi mabwysiadu plentyn, pan fydd llysblant neu os yw’r pâr am ddatgan eu cariad a’u cefnogaeth i’r plentyn/plant. Bydd y Dathlwr fydd yn cynnal eich Seremoni Ail-ddatgan Addunedau Priodas yn gallu trafod hyn ymhellach gyda chi.

Ble mae modd cynnal y Seremoni?

Gall Seremoni Ail-ddatgan Addunedau Priodas gael ei chynnal yn y Gofrestrfa Ranbarthol ym Mhontypridd yn ogystal ag yn un o’n “Lleoliadau Cymeradwy” ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

I drefnu eich seremoni yn Rhondda Cynon Taf, naill ai yn y Gofrestrfa Ranbarthol ym Mhontypridd neu yn un o’n Lleoliadau Cymeradwy, cysylltwch â’r Cofrestrydd Arolygol yn Y Gofrestrfa Ranbarthol, Adeiladau’r Cyngor, Gelliwastad Road, Pontypridd, CF37 2DP ar : (01443) 494024. Neu cysylltwch drwy e-bost : cofrestrydd@rctcbc.gov.uk

Rydym yn cynnig amrywiaeth o seremonïau, o’r rai syml gydag ychydig o westeion hyd at seremonïau ffurfiol yn debyg i’ch diwrnod priodas gwreiddiol gyda morwynion priodas, gweision bychain a nifer o westeion.

Pa bynnag fath o seremoni hoffwch gael, bydd ein harbenigwyr yn eich helpu i’w trefnu, ac yn ei wneud yn ddiwrnod hapus i’w gofio. 

Seremoni Swyddfa Cofrestru

Mae’r Swyddfa Cofrestru yng nghanol tref Pontypridd yn Adeiladau’r Cyngor, Gelliwastad Road. Mae 2 ystafell ar gael ar gyfer y seremonïau. Mae’r Swyddfa Gofrestru yn eistedd hyd at 10 person, ac mae Ystafell Evan James yn eistedd hyd at 45 person.

 

Wrth gwrs, mae croeso i chi weld yr ystafelloedd unrhyw bryd cyn trefnu’r seremoni. Mae tâl bach sydd methu cael ei dalu yn ôl ar gyfer cadw dyddiad ac amser y seremoni dros dro.

Rydym yn gwybod dylai eich seremoni fod yn achlysur cofiadwy. I sicrhau bod popeth yn iawn, cyn dyddiad y seremoni, hoffwn gwrdd â thrafod eich gofynion.

Mae’r seremonïau yn cael eu cynnal rhwng 9:30am a 3pm ar ddyddiadau’r wythnos a hyd at 1yh ar benwythnosau. Rydym yn argymell eich bod yn trefnu dyddiad ac amser y seremoni yn bell o flaen llaw.

Mae seremonïau yn Adeiladau’r Cyngor yn cymryd 20 munud, fel arfer. Fe ddylai gwesteion gyrraedd 30 munud cyn i’r seremoni ddechrau. Gofynnwn i chi fod yn brydlon oherwydd mae seremonïau eraill wedi’u trefnu yn ystod y dydd.

Parcio

Yn anffodus, does dim cyfleusterau parcio ar gael yn y Swyddfa Gofrestru. Er hynny, mae maes parcio mawr cyfagos yn “Goods Yard” (tu ôl i’r orsaf fysiau). Bydd y car swyddogol yn derbyn trwydded parcio er mwyn parcio yn ardal ddynodedig wrth ochr Adeiladau’r Cyngor drwy gydol y seremoni. Sylwer: Nid oes modd gwarantu lle parcio.

Mae diwrnod eich priodas yn ddiwrnod unigryw ac arbennig iawn ac efallai bydd dewis canolfan i gynnal y seremoni yn gymorth i wneud y diwrnod yma’n achlysur bythgofiadwy ar eich cyfer chi a’ch gwesteion. Dychmygwch wneud eich addunedau mewn canolfannau hanesyddol deniadol. Beth am dynnu lluniau mewn gerddi godidog llawn coed a blodau lliwgar. Mae ein canolfannau yn rhoi cyfle i barau i fwynhau diwrnod rhamantaidd, yn cynnig atgofion sy’n para am byth.

Os byddwch chi’n penderfynu priodi mewn un o’n Lleoliadau sydd wedi’u Cymeradwyo, mae gofyn eich bod chi’n cysylltu â’r ganolfan o’ch dewis i wneud trefniadau dros dro gyda’r swyddog sydd â chyfrifoldeb. Mae’n RHAID  i chi gadarnhau’r trefniadau yma gyda’r Cofrestrydd Arolygu yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd, i ofalu bod swyddogion cofrestru ar gael ar y diwrnod, i gynnal y seremoni a chofrestru’r briodas.

Noder: mae hi’n hollbwysig eich bod chi’n cytuno ar ddyddiad ac amser eich priodas gyda’r Cofrestrydd Arolygu a Swyddog sydd â chyfrifoldeb yn y ganolfan o’ch dewis ILL DAU, CYN gwneud unrhyw drefniadau eraill ar gyfer eich priodas. 

Pan fyddwch chi wedi cadarnhau dyddiad ac amser eich seremoni, bydd angen ichi fynd ati i wneud apwyntiad i drafod eich gofynion gyda’r Gweinydd a fydd yn cynnal eich seremoni. Bydd tâl ymgynghori am hyn.

Byddwch chi’n derbyn cadarnhad ysgrifenedig o’ch ‘archeb’, gan eich sicrhau y byddwn ni’n bresennol yn eich seremoni. Ar yr un pryd, byddwn ni’n gofyn ichi drefnu apwyntiad rhyw 6 wythnos cyn y seremoni i drafod trefn a chynnwys eich seremoni ynghyd â thalu’n ffioedd presenoldeb.

Ar y diwrnod, fe ddylai gwesteion gyrraedd tua 30 munud cyn dechrau’r seremoni. Gofynnwn i chithau fod yn brydlon, gan fod gofyn yn aml iawn i’r gweinyddion gynnal seremonïau eraill ar amserlen eithaf tynn.

Gellir cynnal seremonïau ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos heblaw am ddydd Gwener y Groglith, Dydd Sul y Pasg, Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan.

Seremoni Lleoliad Cymeradwy

Os byddwch chi’n penderfynu priodi mewn un o’n Lleoliadau sydd wedi’u Cymeradwyo, mae gofyn eich bod chi’n cysylltu â’r ganolfan o’ch dewis i wneud trefniadau dros dro gyda’r swyddog sydd â chyfrifoldeb. Mae’n RHAID  i chi gadarnhau’r trefniadau yma gyda’r Cofrestrydd Arolygu yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd, i ofalu bod swyddogion cofrestru ar gael ar y diwrnod, i gynnal y seremoni a chofrestru’r briodas.

Noder: mae hi’n hollbwysig eich bod chi’n cytuno ar ddyddiad ac amser eich priodas gyda’r Cofrestrydd Arolygu a Swyddog sydd â chyfrifoldeb yn y ganolfan o’ch dewis ILL DAU, CYN gwneud unrhyw drefniadau eraill ar gyfer eich priodas. 

Pan fyddwch chi wedi cadarnhau dyddiad ac amser eich seremoni, bydd angen ichi fynd ati i wneud apwyntiad i drafod eich gofynion gyda’r Gweinydd a fydd yn cynnal eich seremoni. Bydd tâl ymgynghori am hyn.

Byddwch chi’n derbyn cadarnhad ysgrifenedig o’ch ‘archeb’, gan eich sicrhau y byddwn ni’n bresennol yn eich seremoni. Ar yr un pryd, byddwn ni’n gofyn ichi drefnu apwyntiad rhyw 6 wythnos cyn y seremoni i drafod trefn a chynnwys eich seremoni ynghyd â thalu’n ffioedd presenoldeb.

Ar y diwrnod, fe ddylai gwesteion gyrraedd tua 30 munud cyn dechrau’r seremoni. Gofynnwn i chithau fod yn brydlon, gan fod gofyn yn aml iawn i’r gweinyddion gynnal seremonïau eraill ar amserlen eithaf tynn.

Gellir cynnal seremonïau ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos heblaw am ddydd Gwener y Groglith, Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan, gan ddibynnu ar leoedd.

Cymerwch gip olwg ar ein Lleoliadau Cymeradwy o fewn Rhondda Cynon Taf isod:

Rhybudd o Dywydd Garw

Mewn rhai ardaloedd o Rondda Cynon Taf, gall y tywydd droi’n arw yn sydyn iawn. Fe wnawn ni bob ymdrech i gyrraedd eich seremoni. Serch hynny, cofiwch y gallai tywydd eithafol ei gwneud hi’n amhosibl weithiau i Weinydd fod yn bresennol mewn seremoni. Dim ond mewn amgylchiadau difrifol iawn y bydd y sefyllfa hon yn codi.   Er hynny, fe ddylech chi ystyried o ddifrif y byddai raid canslo taith Gweinyddion i’r lleoliad. Fydd y Cyngor ddim yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb yn y fath amgylchiadau.

Does dim gwahaniaeth p’un fo’n well gyda chi, boed yn seremoni fer anffurfiol, neu’n seremoni ffurfiol fwy cyfoethog. Bydd ein carfan o Weinyddion ymroddedig wrth eu bodd yn eich cynorthwyo i gynllunio’r seremoni berffaith i chi.

Byddwn ni’n barod iawn i gynnig awgrymiadau i chi am sut i greu seremoni gofiadwy sy’n benodol ar eich cyfer chi sy’n diwallu’ch anghenion. Ar y llaw arall, hwyrach byddai’n well gyda chi i gynllunio’ch seremoni’ch hun, gan lunio’r ch geiriau ystyrlon arbennig eich hun. P’un bynnag ddewiswch chi, bydd ein carfan brofiadol a chyfeillgar ni yn eich cynorthwyo i gynllunio’r seremoni berffaith i chi.

Weithiau, bydd rhieni am wella a chyfoethogi’u seremoni â cherddi neu ddarlleniadau, neu drwy gyflwyno anrhegion i’r plentyn/plant. Mae dewis gyda ni o ddarlleniadau a geiriau ar gael i chi ddewis o’u plith. Mae croeso i chi gyflenwi’ch rhai’ch hun, wrth gwrs. Os penderfynwch gyfansoddi cerdd i’w defnyddio, cofiwch ofalu’ch bod chi’n rhoi copi i’r Gweinydd cyn eich seremoni.

Bydd eisiau ichi siarad â’r person cyfrifol yn eich dewis leoliad ynghylch cyfleusterau ar gyfer chwarae cerddoriaeth. Gan amlaf bydd angen o leiaf 4 darn o gerddoriaeth i’w chwarae yn ystod y seremoni:-

  • Wrth i’ch gwesteion gyrraedd
  • Wrth i chi gyrraedd
  • Yn ystod arwyddo’r record ddinesig
  • Wrth i chi adael

Nodwch: Os dewiswch chi gyfoethogi’r seremoni, gan gynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth, neu ddarlleniadau, rhaid i’r cyfan fod o natur sydd ddim yn grefyddol. .

Trefnu/’Archebu’ dyddiad ymlaen llaw (dros dro)

Mae hi’n syniad da i drefnu seremoni cyn gynted ag y bo modd. Mae hyn yn berthnasol p’un ai ydych chi am gynnal eich seremoni yn y Swyddfa Gofrestru, neu mewn lleoliad cymeradwy.

Mae’r rhan fwyaf o leoliadau cymeradwy yn yr ardal yn rhedeg system trefnu/archebu dros dro. Bydd hyn yn fodd i chi wneud eich trefniadau ar gyfer eich seremoni lawer ynghynt. O wneud hyn, mae modd ichi wneud eich holl drefniadau angenrheidiol mewn da bryd.

Fe ddylech chi wneud trefniant dros dro yn ysgrifenedig at y Cofrestrydd Arolygol yr ardal lle rydych chi’n bwriadu cynnal eich seremoni.  

Sut mae trefnu seremoni ail-ddatgan addunedau priodas?

Os hoffech chi drefnu seremoni, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Cofrestrydd Arolygu Y Swyddfa Gofrestru

Swyddfeydd Dinesig,
Gelliwastad Road
Pontypridd
CF37 2DP

Ffôn: 01443 494024