Skip to main content

Wythnos y Cynhalwyr 2024: Rhoi Cynhalwyr ar y Map

(WELSH) Carers Week Logo

Mae Wythnos y Cynhalwyr (Gofalwyr) yn ymgyrch genedlaethol flynyddol sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o rôl cynhalwyr, yn ogystal â thynnu sylw at yr heriau y mae llawer o gynhalwyr di-dâl yn eu hwynebu yn goystal â chydnabod y gwaith caled a’r ymroddiad sy’n cyfrannu at deuluoedd a chymunedau ledled y DU.

Thema Wythnos y Cynhalwyr 2024 yw Rhoi Cynhalwyr ar y Map, sy’n golygu sicrhau ein bod ni'n tynnu sylw at y cyfraniadau amhrisiadwy y mae cynhalwyr ledled y DU yn eu gwneud i'r gymdeithas a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn uchel ac yn glir.

I ddathlu, bydd Cynllun Cynnal y Cynhalwyr y Cyngor yn cynnal amrywiaeth o achlysuron trwy gydol yr wythnos i ddangos gwerthfawrogiad am eu gwaith caled a'u hymrwymiad.

Meddai Neil Elliott, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Wrth i ni gychwyn ar Wythnos y Cynhalwyr eleni, mae’n bwysig ein bod ni’n dangos ein gwerthfawrogiad i gynhalwyr di-dâl ac yn eu cydnabod.

“Mae Cynllun Cynnal y Cynhalwyr RhCT wedi trefnu cyfres o achlysuron drwy gydol yr wythnos. Mae’r achlysuron yma wedi’u teilwra’n ofalus ar gyfer ein gynhalwyr di-dâl lleol, gan gynnwys ein cynhalwyr ifainc rhyfeddol rhwng 18 a 25 oed.

“Mae’n hollbwysig ein bod ni'n cydnabod cyfraniadau amhrisiadwy cynhalwyr yn ein cymuned, ac mae Wythnos y Cynhalwyr yn rhoi cyfle inni dynnu sylw at eu hymroddiad diwyro, eu cydnerthedd, a’r heriau unigryw maen nhw'n eu hwynebu'n ddyddiol.”

Achlysuron Cynllun Cynnal y Cynhalwyr:

Dydd Llun 10 Mehefin

Ein hachlysur '5k i'r soffa'. Mwynhewch fynd am dro o amgylch y parc a dod o hyd i gliwiau i ennill ym Mharc Pontypridd rhwng 11am ac 1pm. Mae gwobrau i'w hennill!

Dydd Mawrth 11 Mehefin

Achlysuron Arbennig Wythnos y Cynhalwyr

  • Cysylltiadau Cynhalwyr ar 11 Mehefin rhwng 10.30am a 12pm (canol dydd) yn Cynon Linc, Stryd Seymour, Aberdâr, CF44 7BD
  • Carers Cwtch' yn cael ei gynnal ar 11 Mehefin rhwng 6.30pm a 8.30pm yng Nghanolfan Cynllun Cynnal y Cynhalwyr, Pontypridd

Dydd Mercher 12 Mehefin

Byddwn ni'n cynnal ein diwrnod gwybodaeth yng Nghanolfan Cynllun Cynnal y Cynhalwyr ym Mhontypridd. Rhagor o wybodaeth isod.

  • 10am – 11am, Adnabod Cynhalwyr
  • 11am – 12am, Cefnogi Cynhalwyr
  • 12.30pm – 1.30pm, Cymorth Ariannol i Gynhalwyr
  • 1.30pm – 2.30pm, Cyngor Cyfreithiol i Gynhalwyr

Dydd Iau 13 Mehefin

Bydd sefydliadau eraill yng Nghanolfan Chwaraeon Ystrad yn ymuno â Chynllun Cynnal y Cynhalwyr i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.

Dydd Gwener 14 Mehefin

Diolch! Dewch ar eich pen eich hun i ganolfan YMa, Pontypridd i siarad â phobl eraill a chwarae bingo rhwng 10am a 1.30pm.

Achlysuron i Gynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc (18-25)

Rydyn ni'n cynnal achlysuron penodol ar gyfer cynhalwyr sy'n oedolion ifainc rhwng 18 a 25 oed.

Dydd Llun 10 Mehefin

Bydd ein hachlysur i gynhalwyr rhwng 18 a 25 oed yn cael ei gynnal gyda'r nos rhwng 4pm a 7pm. Mae'r achlysur pwrpasol yma'n gyfle i'n cynhalwyr sy’n oedolion ifainc wneud crochenwaith a chael llawer o hwyl.

Dydd Sadwrn 15 Mehefin

Bydd ein hachlysur i gynhalwyr 18i 25 oed yn cael ei gynnal yn y prynhawn rhwng 1pm a 4 pm yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen Wen a bydd yn llawn gweithgareddau a hwyl.

Dyddiadau Achlysuron Rheolaidd

  • Chatterbox – 4 Mehefin, 2 Gorffennaf, 6 Awst, 10am – 11.30am
  • Cysylltiadau Cynhalwyr - 9 Gorffennaf, 13 Awst, 10am – 11.30am
  • Carers Cwtch - 9 Gorffennaf, 13 Awst, 6.30pm – 8pm

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn mynychu unrhyw un o weithgareddau ac achlysuron Wythnos y Cynhalwyr yn Rhondda Cynon Taf, e-bostiwch CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk i gadw eich lle. 

------------------------------------------------------

Mae Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i gynhalwyr sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf. Mae gwasanaethau yn cynnwys grwpiau cymorth i gyfoedion, sesiynau hyfforddi, achlysuron, gwasanaeth cerdyn argyfwng i gynhalwyr, a mynediad rhatach i wasanaethau hamdden a gaiff eu cynnal gan yr awdurdod lleol. 

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf, e-bostiwch CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 281463. Hefyd, dilynwch Gynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf ar Facebook a Twitter.

Mae'r Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i staff sy'n gynhalwyr di-dâl drwy ddod yn aelod o Employers for Carers. Ac yntau wedi'i gefnogi gan wybodaeth arbenigol Carers UK a Gofalwyr Cymru, mae Employers for Carers yn darparu cyngor ymarferol i gyflogwyr ar sut i gefnogi cynhalwyr, neu'r rheiny a fydd yn dod yn gynhalwyr. Amcangyfrifir bod y nifer yma yn un o bob pedwar aelod o staff. 

Mae'r Cyngor hefyd yn darparu cymorth arbenigol i gynhalwyr yn Rhondda Cynon Taf yn ogystal â mynediad rhatach at wasanaethau hamdden.

Wedi ei bostio ar 10/06/2024