Skip to main content

Hyd at £16 miliwn o hwb i'r economi leol i'w disgwyl o'r Eisteddfod

Eisteddfod 2 - FO

Ar ôl bron i dair blynedd o waith paratoi a chynllunio, mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru bron ar fin agor ei giatiau i Rondda Cynon Taf a Chymru gyfan.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf i gyflwyno'r hyn sy'n addo bod yn Eisteddfod arbennig iawn yng nghanol Pontypridd. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, disgwylir y bydd 160,000 o ymwelwyr yn dod i Rondda Cynon Taf a Phontypridd, gan gefnogi busnesau lleol. Mae disgwyl i'r hwb i'r economi leol yn ystod yr wythnos yma fod hyd at £16 miliwn.

Dros nifer o flynyddoedd, mae'r Eisteddfod wedi bod yn ymgysylltu â chymunedau ac ysgolion lleol yn Rhondda Cynon Taf, drwy feithrin cysylltiadau â thrigolion, adrodd stori'r Eisteddfod a thynnu sylw at y rhaglen amrywiol a chyffrous a fydd yn rhedeg drwy gydol wythnos yr Eisteddfod.

Mae Rhondda Cynon Taf yn falch o fod yn bartner allweddol i'r Eisteddfod, gan gefnogi i gyflwyno'r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop.

Er mwyn gwneud yr Eisteddfod yn bosibl, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi darparu cyfanswm o £275,000 sy'n cynnwys tocynnau ar gyfer Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog, cyfleusterau Parcio a Theithio, rheoli traffig, a chostau staffio fel y Garfan Cymunedau Diogel.

Am bob £1 a wariwyd gan y Cyngor, mae disgwyl y bydd bron i £60 yn cael ei roi yn ôl i'r economi leol yn ystod wythnos yr Eisteddfod, sy'n ychwanegol at broffil cynyddol y Fwrdeistref Sirol o ganlyniad i gynnal digwyddiad diwylliannol mwyaf Ewrop.

Bydd y cymorth sydd wedi'i ddarparu i'r Cyngor yn helpu i gynnal digwyddiad llwyddiannus a fydd yn gwneud yr hwb o £16 miliwn i'r economi leol yn bosibl. Dyma arian a fydd yn cael ei wario mewn busnesau lleol, gan gefnogi cyfleoedd cyflogaeth lleol.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Gyda'r economi leol yn disgwyl hwb o hyd at £16 miliwn, mae'n bwysig bod y Cyngor, ynghyd â phartneriaid yn helpu i gefnogi'r Eisteddfod yn logistaidd ac yn ariannol. Am bob £1 a wariwyd gan y Cyngor ar gefnogi'r Eisteddfod, mae'n debyg y bydd bron i £60 yn cael ei roi yn ôl i'r economi leol.

"Un o'n nodau fel Cyngor yw cefnogi'r economi leol a busnesau lleol, ac mae'r elw ar fuddsoddiad yn gwneud synnwyr. Bydd yr Eisteddfod yn rhoi hwb enfawr i fusnesau lleol, ac rydyn ni'n gobeithio, unwaith y bydd ymwelwyr yn gweld yr hyn sydd gyda ni i'w gynnig yn Rhondda Cynon Taf, y byddan nhw'n parhau i ymweld yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae'r Eisteddfod yn ddigwyddiad o bwysigrwydd cenedlaethol, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Cymru gyfan i Rondda Cynon Taf.

"Mae'r Eisteddfod i bawb. Mae'n ddigwyddiad hyfryd a chroesawgar i deuluoedd sy'n hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru trwy ystod eang o weithgareddau.

"Waeth beth yw eich gallu yn y Gymraeg, mae rhywbeth at ddant pawb, a gobeithiwn y bydd trigolion lleol yn manteisio ar Eisteddfod ar eu stepen drws!"

Wedi ei bostio ar 26/07/24