Skip to main content

Diweddariad ar gynigion ar gyfer safle strategol yng nghanol Pontypridd

M&S site 1 - Copy

Mae Cabinet wedi derbyn adroddiad cynnydd ar ailddatblygiad safle hen siop Marks and Spencer yng nghanol tref Pontypridd, yn dilyn y gwaith dymchwel diweddar. Ystyriodd aelodau'r cynnydd diweddaraf o ran datblygu cynllun cyffredinol y safle, gan gymeradwyo camau nesaf y cynllun.

Yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd Canol Tref Pontypridd gafodd ei gytuno yn 2022, mae safle Marks and Spencer/Dorothy Perkins ar 97-102 Stryd y Taf wedi'i nodi ar gyfer ei ddatblygu - yn rhan o Borth Deheuol newydd i Bontypridd. Mae 'plaza glan yr afon' wedi'i gynnig yn ffurfiol ar gyfer y safle er mwyn gwella'r parth cyhoeddus ac agor y dreflun tuag at yr afon - gan ganiatáu cyfle ar gyfer creu lleoliadau arwerthu ar y safle.

Derbyniodd Cabinet adroddiad ddydd Mercher, 17 Gorffennaf, yn nodi bod gwaith dymchwel yr hen adeiladau wedi'i gwblhau yn llwyddiannus ym mis Ebrill 2024, a bod palis wedi'i godi o amgylch y perimedr i ddiogelu'r safle. Cafodd byrddau gwybodaeth eu hychwanegu er mwyn darlunio esblygiad y safle. Mae'r palis wedi'i gorchuddio â nodau brand er mwyn sicrhau fod yr ardal yn parhau i edrych yn ddeniadol.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud er mwyn datblygu'r cynigion cyffredinol gan garfan brofiadol aml-ddisgyblaeth wedi'i benodi gan y Cyngor - sydd wedi'i ddarlunio yn nelwedd argraff arlunydd diweddaraf y safle. Mae'r cynllun yn ceisio creu amgylchedd agored sy'n swyddogaethol a deniadol, sy'n ail-gyfeirio'r Stryd Fawr tuag at yr afon a'r dirwedd o'i chwmpas.  Mae'r dyluniad diweddaraf yn ceisio:

  • Gwneud y mwyaf o botensial y safle yn 'amgylchedd trosiannol' allweddol yn rhan o lwybr newydd i ymwelwyr sy'n cysylltu'r orsaf drenau trwy safle'r hen Neuadd Bingo.
  • Cadw golygfeydd sydd newydd eu datguddio tuag at yr afon a'r parc cyfagos.
  • Integreiddio nodweddion allweddol megis ardaloedd gwyrdd, cynefinoedd bioamrywiol newydd a datrysiadau draenio cynaliadwy.
  • Darparu amgylchedd agored newydd sy'n ddigon hyblyg i ymateb i gyfleoedd newydd ar gyfer canol y dref.
  • Creu 'plaza newydd ar lan yr afon' sy'n cynnwys ciosgau bach ysgafn (unedau masnachol) sy'n gwerthu bwyd a diod.

Mae'r cynigion cyfredol yn ymateb hefyd i heriau sy'n benodol i'r safle. Mae'r dyluniad yn ymgorffori cyfres o lwyfannau ar sawl lefel, sydd am gael eu cynnal gan strwythur ffrâm ddur - o ganlyniad i'r pedwar metr o wahaniaeth mewn uchder rhwng mynedfa Stryd y Taf i'r safle a mynedfa'r parc. Bydd y rhan fwyaf o'r safle yn cael ei godi'n uwch na'r parth llifogydd, yn seiliedig ar fodelu llifogydd.

Mae'r gosodion, ffitiadau a gorffeniadau arfaethedig ar gyfer yr ailddatblygiad yr un fath â'r rheiny sydd wedi'u nodi ar gyfer y parth cyhoeddus newydd sy'n cael ei chreu ar gyfer safle cyfagos yr hen Neuadd Bingo - gan sicrhau dyluniad unffurf ledled Porth y De. Yn ogystal â hyn, mae gwaith ailwynebu a goleuadau stryd gwell ar y lôn gerllaw sy'n arwain i'r parc hefyd yn rhan o'r prosiect.

Mae'r adroddiad yn nodi byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu cyflwyno cais i'w Cronfa Trawsnewid Trefi er mwyn cynorthwyo'r prosiect. Mae cyfraniad cyllid wedi'i sicrhau yn barod yn rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae'r rhaglen gyfredol, mae modd ei newid, yn nodi y byddai modd penodi prif gontractwr y prosiect erbyn mis Tachwedd 2024, gyda gwaith dylunio yn cael ei gwblhau erbyn dechrau 2025 a'r gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau erbyn dechrau 2026.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Mae Aelodau o'r Cabinet wedi ystyried y cynnydd cadarnhaol iawn yma mewn perthynas â chynigion ailddatblygu safle hen siopau Marks and Spencer a Dorothy Perkins yng nghanol tref Pontypridd. Cafodd y gwaith dymchwel ei gwblhau yn llwyddiannus yn gynharach eleni, mae gwaith pwysig i ddatblygu'r cynigion ymhellach wedi bod yn parhau dan arweiniad carfan aml-ddisgyblaeth sydd wedi'i phenodi gan y Cyngor.

"Y weledigaeth wreiddiol oedd defnyddio'r safle ar gyfer 'plaza glan yr afon'. Roedd y weledigaeth yma wedi ennyn cefnogaeth gref mewn ymgynghoriad cyhoeddus blaenorol mewn perthynas â'n cynigion ar gyfer Porth Ddeheuol ehangach. Mae'r delweddau argraff arlunydd cyffrous newydd sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad Cabinet yn dangos sut byddai modd agor y Stryd Fawr tuag at yr afon - yn ogystal â sut mae modd ymgorffori manylion allweddol megis ardaloedd gwyrdd a chynefinoedd bioamrywiol newydd a chiosgau bwyd a diod yn rhan o'r dyluniadau gweledol diweddaraf.

"Mae'n bwysig nodi fod y cynlluniau diweddaraf yn ffrwyth llafur gwaith ymchwilio a dichonadwyedd sylweddol, gan gynnwys asesiadau strwythurol, modelu llawr, archwiliadau hygyrchedd ar gyfer pobl ag anableddau ac arolygiadau topograffigol a chyfleustodau. Bydd y rhain yn helpu i ddatrys sawl her sy'n ein hwynebu ar y safle yma - megis y gwahaniaeth mawr mewn uchder rhwng ei man uchaf a'i man isaf, ystyriaethau perygl llifogydd a phresenoldeb yr afon gerllaw.

"Yn ystod cyfarfod ddydd Mercher, roedd aelodau o'r Cabinet wedi cefnogi'r cynigion ailddatblygu diweddaraf ac wedi cymeradwyo'r strategaethau cyllid, caffael ac ymgysylltu cysylltiedig sydd am gael eu defnyddio gan swyddogion. Cytunwyd y byddai'r cynlluniau cyfredol ar gyfer y safle yn cyfrannu'n dda at sefydlu Porth Ddeheuol i ganol tref Pontypridd - ar y cyd â safle'r hen Neuadd Bingo sy'n nesáu at ei gwblhau."

Wedi ei bostio ar 25/07/2024