Skip to main content

DIRWY i Yrrwr Tacsi Twyllodrus!

Mae trigolion ac ymwelwyr yn cael eu hannog i beidio â neidio i mewn i Dacsis Twyllodrus – ac i wneud yn siŵr eu bod yn gwirio'u manylion cyn iddyn nhw deithio.  

Mae’r rhybudd yma wedi’i gyhoeddi yn dilyn erlyn dyn o Aberpennar yn ddiweddar. Cafwyd hyd i Mr Owen Jenkins o Aberpennar yn gweithredu fel gyrrwr tacsi heb drwydded yn Aberdâr.

Roedd Mr Jenkins yn ceisio cael ei hurio yn anghyfreithlon yn Aberdâr a'r cyffiniau ddydd Sadwrn 28 Hydref 2023 ac oriau mân y bore Sul gan swyddog trwyddedu’r Cyngor. Stopiodd Mr Jenkins ei gerbyd i roi taith i ddwy fenyw agored i niwed.  Roedd swyddog gorfodi materion trwyddedu gerllaw ac aeth at y cerbyd i ofyn a fyddai modd iddo rannu'r cerbyd hefyd. Cytunodd Mr Jenkins i fynd â nhw i fan gollwng am ffi.

Yn ystod y daith cyflwynodd y swyddog trwyddedu ei hun i Mr Jenkins gan adael y cerbyd gydag un o'r merched oherwydd pryderon diogelwch. Yna gyrrodd Mr Jenkins i ffwrdd. Cafodd Mr Jenkins ei weld gan swyddogion trwyddedu yn hwyrach yn gyrru drwy Stryd y Taf, Pontypridd.

Cafwyd Mr Jenkins yn euog o'r drosedd o geisio cael ei hurio yn anghyfreithlon yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mercher 3 Gorffennaf 2024 ac fe gafodd ddirwy a chostau gwerth £1,461.

Daw hyn ar ôl erlyniad diweddar arall ym mis Mai 2024, wrth i yrrwr tacsi twyllodrus arall feddwl y gallai ddianc rhag ceisio cael ei hurio yn anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r neges yn glir iawn; Does dim croeso i Dacsis Twyllodrus yn RhCT a byddan nhw'n cael eu dwyn i gyfrif a'u herlyn, fel y mae'r ddau yrrwr twyllodrus hyn wedi darganfod.

Meddai llefarydd ar ran yr adran drwyddedu yn Rhondda Cynon Taf:

“Mae diogelwch a hyder y cyhoedd wrth ddefnyddio tacsis rheoledig a thrwyddedig yn hollbwysig. Mae gyrwyr a cherbydau trwyddedig yn destun gwiriadau trwyadl i sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau sydd yn eu lle i amddiffyn anghenion a diogelwch y cyhoedd. Byddwn ni’n ymdrin yn gadarn â gyrwyr didrwydded sy’n tanseilio’r ymddiriedaeth yma er mwyn cynnal hyder y cyhoedd a sicrhau diogelwch y cyhoedd.”

“Mae’r tacsis Cerbyd Hacni sydd wedi'u trwyddedu yn Rhondda Cynon Taf yn ddu eu lliw ac mae gyda nhw blât sydd wedi'i ddarparu gan y Cyngor ar y cefn sy'n dangos uchafswm nifer y teithwyr, ac arwyddion drws ar bob ochr i'r drysau blaen. Caiff bathodyn ei roi i yrwyr sydd wedi'u trwyddedu gan y Cyngor hefyd, ac mae'n rhaid iddyn nhw ei ddangos i gwsmeriaid pan fydd gofyn gwneud hynny.

Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am yrwyr tacsi didrwydded neu gerbydau didrwydded sy’n gweithredu yn Rhondda Cynon Taf i gysylltu â Charfan Trwyddedu’r Cyngor.”

Os ydych chi'n defnyddio tacsi yn Rhondda Cynon Taf cofiwch y canlynol i'ch cadw'n ddiogel:

  • Mae tacsis RhCT yn ddu eu lliw,
  • Bydd gyda nhw blât wedi'i ddarparu gan y Cyngor ar y cefn,
  • Arwyddion drws bob ochr i'r drysau blaen,
  • Bathodyn – y mae'n RHAID ei ddangos pan fydd cwsmer yn gofyn i'w gweld.

Cowboy cabs

I roi gwybod am yrrwr tacsi didrwydded, cysylltwch â’r garfan trwyddedu drwy e-bost adran.trwyddedu@rctcbc.gov.ukneu drwy ffonio 01443 425001.

Wedi ei bostio ar 25/07/24