Skip to main content

Ailagor y Bont Wen i'r gymuned yn dilyn cynllun atgyweirio

White Bridge open 2 - July 2024

Mae Pont Heol Berw (y Bont Wen), Pontypridd, wedi ailagor i draffig o'r ddau gyfeiriad, yn ogystal â cherddwyr. Mae hyn yn dilyn cynllun sylweddol i atgyweirio'r strwythur rhestredig yma.

Yn ei ddatganiad diweddaraf ar 12 Gorffennaf, cadarnhaodd y Cyngor fod y cynllun wedi cyrraedd ei gamau olaf. Mae rhagor o fanylion am y prosiect ehangach i'w gweld yma.

Dros y dyddiau diwethaf, mae'r gwaith terfynol o osod wyneb a leinin gwyn newydd ar y bont wedi'i gwblhau. Mae canllaw wedi'i oleuo hefyd wedi'i osod i ddarparu golau ar y ffordd.

Mae gwaith gosod wyneb newydd ar ffordd gyfagos Y Rhodfa bron wedi’i gwblhau hefyd, a llwyddodd y Cyngor i gydlynu dyddiadau cwblhau'r ddau gynllun er mwyn osgoi tarfu ymhellach ar drigolion yn y dyfodol.

Heddiw (25 Gorffennaf) mae’r Bont Wen wedi ailagor i draffig o'r ddau gyfeiriad, yn ogystal â cherddwyr, gan ailsefydlu'r cyswllt hollbwysig yma er budd y gymuned.

Cofiwch, er bod y rhan helaeth o'r gwaith wedi'i gwblhau, bydd angen gosod mesurau rheoli traffig yn ddiweddarach eleni er mwyn atygweirio'r rheiliau ar ochr ddeheuol y bont.

Hoffai'r Cyngor ddiolch unwaith eto i drigolion a chymunedau lleol am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i ni gwblhau'r cynllun cymhleth i atgyweirio difrod sylweddol i'r strwythur hanesyddol yma.

Wedi ei bostio ar 25/07/24