Skip to main content

Cynnal ymgynghoriad ar ragor o fesurau i fynd i'r afael ag eiddo gwag

view 2

Mae Cabinet wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad mewn perthynas â chynigion i gynyddu lefel premiwm treth y cyngor ar gyfer eiddo sy'n wag yn hirdymor,  gan ddefnyddio pwerau ymyrryd ychwanegol er mwyn mynd i'r afael ag eiddo sydd wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn, er budd ein cymunedau.

Roedd adroddiad swyddog i'r Cabinet ddydd Mercher, 17 Gorffennaf, yn cynnig y mesurau yn rhan o strategaeth ehangach i droi cartrefi gwag hirdymor yn gartrefi diogel a fforddiadwy unwaith eto. Byddai hyn hefyd yn cynyddu'r cyflenwad tai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol. Mae hi hefyd yn bwysig mynd i'r afael â thai gwag am eu bod nhw'n gostus, mae modd iddyn nhw edrych yn flêr ac mae modd iddyn nhw atynnu ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Ers mis Ebrill 2017, mae Cynghorau yng Nghymru wedi gallu codi premiymau o hyd at 100% ar sail ddisgresiynol ar ben cyfradd safonol treth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Cafodd y rheoliadau yma eu diweddaru ym mis Ebrill 2023, gan gynyddu'r gyfradd premiwm posibl i 300%.

Ym mis Ebrill 2023, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cyflwynodd y Cyngor bremiwm o 50% ar gyfer eiddo sy'n wag yn hirdymor sydd wedi bod yn wag rhwng blwyddyn a dwy flynedd, a 100% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na dwy flynedd. Cafodd premiwm o 100% ei gyflwyno ar gyfer ail gartrefi hefyd.

Ddydd Mercher, cyflwynodd swyddogion gynigion i gynyddu premiymau lleol treth y cyngor i 100% ar gyfer eiddo sy'n wag rhwng blwyddyn a thair blynedd, yn ogystal â phremiwm arfaethedig o 200% ar gyfer eiddo sy'n wag am fwy na thair blynedd. Byddai'r rhain yn cael eu cyflwyno ar 1 Ebrill 2025.

Byddai eithriadau cyfredol premiymau treth y cyngor yn parhau - er enghraifft, lle mae eiddo yn cael ei farchnata i'w rentu neu i’w werthu mewn modd rhesymol, yna ni fyddai'r premiwm yn cael ei ychwanegu at fil treth y cyngor am hyd at flwyddyn. Yn ogystal â hynny, ni fyddai unrhyw bremiymau yn cael eu codi ar gyfer eiddo sydd wedi'i eithrio rhag talu treth y cyngor - eiddo sy'n cael ei atgyweirio neu'n cael ei addasu yn strwythurol, eiddo sydd ym mherchnogaeth elusen, neu achosion lle mae perchennog yr eiddo wedi huno yn ddiweddar.

Mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd da er mwyn mynd i'r afael ag eiddo gwag yn rhan o'i Strategaeth Cartrefi Gwag (2022-2025), a hynny yn  dilyn strategaeth flaenorol a oedd ar waith ers 2017. Mae'n cydnabod nifer y cartrefi gwag ac yn ymrwymo'r Cyngor i fynd i'r afael â'r broblem gydag ymyriadau wedi'u targedu. Ers rhoi'r strategaethau ar waith, mae nifer y cartrefi gwag wedi gostwng 922.

Ddydd Mercher, cytunodd Cabinet ag argymhellion y swyddog i gynnal ymgynghoriad mewn perthynas â'r cynigion i gynyddu lefel premiymau treth y cyngor. Yn rhan o'r ymgynghoriad, bydd adborth hefyd yn cael ei dderbyn mewn perthynas â chyflwyno mesurau ymyrryd pellach mewn achosion lle nad yw perchennog yn debygol o weithredu er mwyn dod ag eiddo yn ôl i ddefnydd. Byddai modd gwneud hyn drwy ddefnyddio Gorchymyn Prynu Gorfodol, lle byddai'r Cyngor yn meddu ar yr eiddo ac yn gweithio gyda'r sector dai leol er mwyn sicrhau ei fod yn ddefnyddiadwy.

Bydd ymgynghoriad chwe wythnos o hyd yn cael ei gynnal yn ystod haf 2024 a bydd y Cyngor yn ysgrifennu yn uniongyrchol ar berchnogion eiddo gwag i ofyn am eu hadborth. Bydd swyddogion yn cyflwyno adroddiad yn amlinellu'r adborth yma mewn cyfarfod Cabinet yn y dyfodol, er mwyn i aelodau ddod i benderfyniad terfynol mewn perthynas â chyflwyno'r cynigion i'r Cyngor cyfan.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd da gan ddod â 922 o eiddo oedd yn wag yn hirdymor yn ôl i ddefnydd ers 2017. Cafodd hyn ei gyflawni drwy strategaeth glir a chytunedig sy'n cynnwys ymyriadau wedi'u targedu er mwyn annog perchnogion eiddo i weithredu. Rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i'r cynllun gweithredu yma er mwyn cynorthwyo ein hangen am dai lleol, ac i atal y malltod yma rhag amharu ar ein cymunedau ehangach - gan gynnwys yr amgylchedd lleol ac eiddo cyfagos.

"Er bod ein hymdrechion hyd yn hyn wedi gwneud gwahaniaeth amlwg, rydyn ni'n deall bod angen gwneud rhagor eto, o gofio bod mwy na 1,500 o eiddo gwag hirdymor yn Rhondda Cynon Taf o hyd. Dyma pam mae swyddogion wedi cyflwyno cynigion pellach fyddai'n dyblu lefel treth y cyngor arferol ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag rhwng blwyddyn a dwy flynedd, ac yn treblu'r lefel ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na thair blynedd.

"Mae Cabinet wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad mewn perthynas â'r newidiadau yma, fydd yn cael ei gynnal dros yr haf eleni. Bydd hefyd yn gofyn i drigolion a pherchnogion tai am ddefnydd ymyriadau pellach posibl mewn achosion lle nad oes cydweithrediad ac mae'r posibilrwydd o ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd yn annhebygol. Er enghraifft, mae 230 eiddo wedi parhau yn wag am fwy na 10 mlynedd, sydd yn annerbyniol.

"Mae cymorth sylweddol ar gael i berchnogion eiddo gwag ddod â nhw yn ôl i ddefnydd drwy Strategaeth Cartrefi Gwag Rhondda Cynon Taf. Mae'r Cyngor hefyd wedi arddangos ei ymrwymiad i leihau nifer yr eiddo gwag dros y blynyddoedd diwethaf ar raddfa ranbarthol drwy arwain Cynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd. Rydyn ni hefyd wedi cynorthwyo â chynlluniau Troi Tai'n Gartrefi a Homestep Plus, wedi cynnal Fforwm Landlordiaid Rhondda Cynon Taf ac wedi gweithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol nad ydyn nhw wedi'u Cofrestru er mwyn dod â lleoliadau masnachu canol tref yn ôl i ddefnydd."

Wedi ei bostio ar 24/07/24