Skip to main content

Cynllun atgyweirio y Bont Wen yn symud ymlaen tuag at gael ei gwblhau yn fuan

White Bridge - Copy

Mae'r cynllun sylweddol i atgyweirio pont Heol Berw ym Mhontypridd wedi cyrraedd ei gamau olaf. Bydd modd ailagor y bont yn llawn ar ôl y gwaith sydd ar y gweill i osod arwyddion, rheiliau a goleuadau stryd, yn ogystal â gwaith gosod wyneb newydd ar ffordd gerllaw.

Cafodd y strwythur rhestredig, sy'n cael ei adnabod fel y Bont Wen, ei ddifrodi'n sylweddol gan Storm Dennis, ac mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos iawn gyda Cadw i ddatblygu a chyflawni cynllun adfer cymhleth. Mae wedi cynnwys cannoedd o atgyweiriadau gwaith dur a choncrit strwythurol unigol, gosod wyneb sy’n dal dŵr ar ddec y bont, a gosod system ddraenio'r briffordd newydd.

Mae'r diweddariad newydd yma'n cadarnhau bod y bont ar y trywydd iawn i ailagor i draffig dwyffordd a cherddwyr erbyn diwedd Gorffennaf 2024.

Gan fod yr holl atgyweiriadau strwythurol wedi cael eu cwblhau ar ran olaf y bont yn y Flwyddyn Newydd, mae ffocws y gwaith wedi newid i atgyweiriadau concrit, gosod wyneb sy’n dal dŵr ar ddec y bont, ac adeiladu system ddraenio newydd ar y briffordd. Mae'r cynllun wedi cyrraedd ei gamau olaf o ganlyniad i gynnydd da gyda'r elfennau yma.

Yr wythnos diwethaf (1-7 Gorffennaf), cafodd gwaeth paentio canllawiau ei gwblhau, yn ogystal â gosod y platiau ar gyfer rheiliau llaw sydd wedi'u goleuo. Mae contractwr y Cyngor hefyd wedi dechrau symud ei gyfleusterau o'r safle, gan gynnwys cabanau mawr.

Yr wythnos yma (8-14 Gorffennaf), bydd y contractwr yn dechrau gosod goleuadau stryd, yn cwblhau'r gwaith gosod wyneb newydd a bydd y contractwr yn gadael y safle.

Yn ystod y pythefnos nesaf (tan ddiwedd mis Gorffennaf 2024), bydd y gwaith terfynol yn cynnwys cwblhau'r goleuadau stryd, gosod arwyddion, ac atgyweirio rheiliau ar ochr Heol Berw o'r bont. Bydd gwaith gosod wyneb newydd ar y Rhodfa hefyd yn cael ei wneud - ac ar ôl ei gwblhau gall y Bont Wen ailagor i draffig dwyffordd a cherddwyr.

Er y bydd hyn yn cynrychioli ailagor y bont yn barhaol, mae'r Cyngor yn rhoi rhybudd y bydd angen rhagor o fesurau rheoli traffig yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn hanfodol i atgyweirio'r rheiliau addurnol sydd wedi'u lleoli ar y bont.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'n newyddion gwych y bydd cynllun atgyweirio parhaus, sylweddol y Bont Wen yn dod i ben cyn bo hir. Mae adroddiad cynnydd heddiw wedi cadarnhau bod ffocws y contractwr yn newid i elfennau terfynol y cynllun, a fydd yn golygu y bydd modd ailagor y bont i draffig a cherddwyr erbyn diwedd Gorffennaf 2024.

"Mae'r gwaith gosod wyneb newydd ar y bont ac ailagor y llwybrau troed bron ar ben. Bydd y gwaith sydd ar y gweill hefyd ynghlwm â chynllun gosod wyneb newydd cyfagos ar y Rhodfa, sy'n cael ei gwblhau i gyd-fynd ag elfen olaf cynllun y Bont Wen er mwyn osgoi tarfu pellach yn y dyfodol.

"Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod am y trefniadau penodol o ran ailagor y Bont Wen yn yr wythnosau nesaf, unwaith iddyn nhw gael eu cadarnhau. Mae'n braf bod disgwyl i'r cynllun gael ei gwblhau cyn daw'r Eisteddfod Genedlaethol i Bontypridd rhwng 3 a 10 Awst, a bydd yn helpu gyda threfniadau traffig lleol.

"Gan fod y cynllun yn dod i ben cyn hir, hoffwn i ddiolch i drigolion lleol am eu cydweithrediad sylweddol parhaus. Mae wedi bod yn gynllun adfer cymhleth sydd wedi achosi tarfu anochel dros gyfnod estynedig - ac rydyn ni'n gwerthfawrogol amynedd y gymuned yn fawr."

Wedi ei bostio ar 12/07/2024