Skip to main content

Adeiladu pedwerydd cam y llwybr i'r gymuned trwy Gwm Rhondda Fach

Rhondda Fach Active Travel phase one complete 2

Mae cam un wedi'i gwblhau'n flaenorol

Bydd gwaith adeiladu cam nesaf Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, sef y rhan sy'n mynd ar draws Glynrhedynog, yn dechrau yr wythnos yma. Ar y cyfan, does dim disgwyl i'r gwaith darfu llawer ar y gymuned.

Bydd Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach yn creu llwybr 10 cilomedr o hyd i gerddwyr a beicwyr rhwng Maerdy a Thylorstown, a fydd yn cael ei gyflawni dros bum cam. Cafodd cam un ei gwblhau ar ddiwedd 2023, o leoliad i'r gogledd o Ystad Ddiwydiannol Maerdy i bwynt ger Cofeb Porth Maerdy. Mae cam dau wedi cael ei gwblhau'n ddiweddar. Mae'n parhau â'r llwybr trwy ardal Maerdy, ac yn mynd i gyfeiriad y de am 1.5 cilomedr ar hyd yr hen reilffordd.

Cafodd caniatâd cynllunio camau tri a phedwar ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ar ddechrau mis Mehefin 2024.

Bydd cam tri'n gwella'r llwybr beicio presennol yn ardal Maerdy (Llwybr 881 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol) ac yn creu llwybr 1.5 cilomedr newydd sy'n arwain i Stryd Richard a Phwll Nofio Glynrhedynog. Mae'r cam yma'n parhau i gael ei ddatblygu a bydd gwaith i geisio cyllid yn parhau er mwyn cyflawni'r elfen yma o'r cynllun.

Mae'r Cyngor bellach wedi penodi Horan Construction Ltd i gyflawni cam pedwar, gyda gwaith adeiladu'n dechrau o ddydd Llun 15 Gorffennaf.

Mae disgwyl i'r cam yma gael ei gwblhau yn ystod misoedd cynnar y gwanwyn, 2025. Mae'r cam adeiladu'n cael ei ariannu trwy Gronfa Teithio Llesol 2024/25.

Bydd cam pedwar yn parhau â'r llwybr a gafodd ei adeiladu yng ngham dau, gan wella'r llwybr ar aliniad yr hen reilffordd. Bydd yn mynd ar draws Glynrhedynog o bwynt i'r gogledd o Deras Ffaldau (ger Maerdy) i bwynt sydd i ogledd-ddwyrain o Gartref Angladdau Dolycoed (Tylorstown), a heibio i Flaenllechau. Mae'r cam yma o waith hefyd yn cynnwys creu cyswllt newydd i Stryd yr Afon ym mhen gogleddol Glynrhedynog, ac adeiladu pont a thrwsio pont arall ym Mlaenllechau.

Ar y cyfan, does dim disgwyl i'r gwaith darfu llawer gan fod y llwybr, i raddau helaeth, wedi'i leoli i ffwrdd o eiddo preswyl. Serch hynny, mae'r rhan ym Mlaenllechau a safle'r hen orsaf yn eithriad, gyda chartrefi'n agos.

Bydd y llwybr a gafodd ei adeiladu yng ngham dau yn parhau i fod ar gau yn ystod camau cychwynnol gwaith adeiladu cam pedwar, gan ei fod yn darparu mynediad i'r bont 30 metr newydd sy'n cael ei hadeiladu (Pont Ogleddol Blaenllechau). Bydd rhywfaint o darfu ar y lôn gefn oddi ar Stryd y Taf, Blaenllechau. I raddau helaeth, bydd mynediad ar gael i gerddwyr – bydd y contractwr yn rhoi gwybod i drigolion pan na fydd mynediad.

Yn y cyfamser, mae'r Cyngor hefyd wedi derbyn cyllid i ddatblygu dyluniad cam pump Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, a hynny'n rhan o ddyraniad yng Nghronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gyflawni'r buddsoddiad sylweddol yma ar gyfer Cwm Rhondda Fach, gan greu llwybr a rennir 10 cilomedr o hyd i gerddwyr a beicwyr o ardal Maerdy i Dylorstown. Mae cynlluniau ar y gweill yn y dyfodol i'w gysylltu â safle wedi'i adfer Tirlithriad Tylorstown. Mae gwaith wedi mynd rhagddo'n dda yn ystod y misoedd diwethaf. Mae camau un a dau wedi cael eu hadeiladu a chafodd camau tri a phedwar ganiatâd cynllunio y mis diwethaf.

“Rydyn ni wedi derbyn cymorth cyllid pwysig gan Lywodraeth Cymru i gyflawni gwaith cam pedwar, a hynny trwy ei Chronfa Teithio Llesol 2024/25. Roedd y dyraniad wedi cynnwys buddsoddiad gwerth £4.26 miliwn i adeiladu'r llwybr yng Nglynrhedynog, wrth gwblhau gwaith dylunio ar gyfer pumed cam o'r llwybr ehangach yn y dyfodol.

“Cyfanswm y dyraniad i Rondda Cynon Taf o'r Gronfa eleni oedd £6.25 miliwn. Mae hyn wedi ein helpu ni i gyflawni nifer o gynlluniau gwella Teithio Llesol eraill yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith gwella Llwybr Taith Taf yn ardal Trallwn, gwaith gwella Llwybr Taith Cynon yng Nghwm-bach, gwaith gwella ar wahân ar gyfer canol trefi Aberdâr a Phontypridd, a gwaith gwella Pont Glan-yr-afon yn Llwydcoed – gyda gwaith y cynllun yma'n dechrau'n ddiweddar ar 8 Gorffennaf.

“Bydd y gwaith sydd ar y gweill ar gyfer Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach yng Nglynrhedynog yn dechrau ddydd Llun 15 Gorffennaf, a bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r contractwr y mae wedi'i benodi i sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo'n dda dros yr wythnosau nesaf. Does dim disgwyl i'r gwaith darfu llawer, ac eithrio rhywfaint o waith lleol ym Mlaenllechau, lle mae rhan o'r llwybr yn agos i ardaloedd preswyl. Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.”

Wedi ei bostio ar 16/07/2024