Skip to main content

Trefniadau traffig yn ystod wythnosau olaf prosiect safle Neuadd Bingo Pontypridd

Ponty Bingo Hall 2 - Copy

Bydd angen cau Heol Sardis ym Mhontypridd i draffig sy'n teithio tua'r de dros dair noson yr wythnos nesaf (15-17 Gorffennaf). Mae hyn yn golygu y bydd modd cynnal gwaith ar y briffordd yn rhan o gynllun ailddatblygu safle'r neuadd bingo sydd ar fin cael ei gwblhau.

Ers mis Chwefror 2024, mae gwaith wedi mynd rhagddo i ailddatblygu'r hen neuadd bingo a chlwb nos Angharad yn fan cyhoeddus bywiog, ac mae cilfachau bysiau newydd yn cael eu gosod ar gyfer ardal ddeheuol canol tref Pontypridd. Mae trefniadau traffig dros dro wedi bod ar waith ar y rhan o Heol Sardis tua'r de, ger y safle, er mwyn sicrhau bod modd cynnal gwaith mewn ffordd ddiogel.

Mae'r diweddariad yma'n cadarnhau bod dwy elfen y cynllun, y man cyhoeddus a'r cilfachau bysiau newydd, ar y trywydd iawn i agor ar ddechrau mis Awst 2024 – a hynny cyn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd.

Dyma roi gwybod i drigolion Pontypridd ac ymwelwyr am y trefniadau traffig fydd ar waith dros yr wythnosau nesaf, a hynny er mwyn cynnal gwaith terfynol y prosiect:

  • Dydd Gwener 12 Gorffennaf – cael gwared â mesurau rheoli traffig presennol ac agor lonydd ar Heol Sardis (gan gynnwys agor y troad i'r dde i ardal Graig). Bydd hyn yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y dydd.
  • Dydd Llun 15 Gorffennaf tan ddydd Mercher 17 Gorffennaf (gwaith dros nos, 9.30pm tan 6am) – cau Heol Sardis tua'r de ar gyfer gwaith ar y briffordd (gosod wyneb newydd, llinellau gwyn a seilwaith croesi i gerddwyr). Bydd y ffordd ar gau o System Gylchu Heol Sardis i safle'r neuadd bingo, a bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Stryd y Santes Catrin, cylchfan Stryd y Bont a chylchfan Sainsbury's – fel sydd i'w weld ar y map canlynol: LINK. Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r llwybr i gerddwyr.
  • Dydd Iau 18 Gorffennaf, (o 7.30am) – cau'r lôn agosaf at safle'r neuadd bingo hyd nes y bydd y cynllun cyfan yn cael ei gwblhau ar ddechrau mis Awst 2024. Yna bydd yr holl fesurau rheoli traffig yn cael eu symud o'r safle.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: “Yn dilyn cynnydd da dros y misoedd diwethaf, mae'r prosiect cyffrous yma yng nghanol Pontypridd ar fin cael ei gwblhau – gan ddefnyddio safle pwysig yng nghanol y dref unwaith eto a chreu man cyrraedd amlwg ym mhen deheuol y dref. Bydd yn darparu amgylchedd agored o safon gyda mannau eistedd, ardaloedd gwyrdd a gwybodaeth i ymwelwyr, a hynny wrth gynnig golygfeydd newydd o'r stryd fawr a oedd i'w gweld ar ôl dymchwel yr hen adeiladau.

“Bydd y cilfachau bysiau newydd yn Heol Sardis hefyd yn sicrhau bod modd i wasanaethau lleol stopio ym mhen deheuol canol y dref sy'n lleoliad da i gysylltu â theithiau trafnidiaeth gyhoeddus ehangach, megis Gorsaf Drenau Pontypridd sy'n agos. Cafodd y man cyhoeddus a'r cilfachau bysiau newydd eu croesawu gan drigolion yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus blaenorol ar sut i ddefnyddio'r safle gwag orau.

“Dim ond ychydig o wythnosau sydd i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd ac rwy'n falch bod dwy elfen y cynllun ar y trywydd iawn i gael eu cwblhau i raddau helaeth cyn yr achlysur mawr yma. Mae trigolion Pontypridd ac ymwelwyr yn cael gwybod am y trefniadau traffig terfynol sydd eu hangen ar Heol Sardis rhwng nawr a diwedd y cynllun ar ddechrau mis Awst – gan gynnwys cau ffordd dros nos er mwyn cynnal gwaith ar y briffordd rhwng 15 a 17 Gorffennaf. Hoffwn i ddiolch i bawb am eu hamynedd yn ystod y gwaith.

“Mae ailddatblygiad y neuadd bingo yn rhan allweddol o'n Cynllun Creu Lleoedd Pontypridd a gafodd ei gymeradwyo y llynedd er mwyn parhau â chynnydd ardderchog sawl prosiect adfywio lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys darparu Llys Cadwyn, Cwrt yr Orsaf ac YMa, gyda chynnydd yn parhau ym Mharc Coffa Ynysangharad a hen safle M&S, a gwaith yn dod i ben yng Nghanolfan y Muni.”

Mae'r Cyngor yn elwa ar gyllid allanol ar gyfer dwy elfen cynllun y neuadd bingo. Mae'r man cyhoeddus yn cael ei ddarparu trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a derbyniwyd cyllid o'r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol ar gyfer y cilfachau bysiau.

Wedi ei bostio ar 11/07/2024