Skip to main content

Traffig a Theithio ym Mhontypridd yn ystod yr Eisteddfod

IG Generic

Mae'r Eisteddfod yn dod i Barc Coffa Ynysangharad rhwng 3 a 10 Awst, ac mae disgwyl i hyd at 160,000 o bobl ymweld â gŵyl ddiwylliannol deithiol fwyaf Ewrop! Yn ystod y cyfnod yma, bydd yr ardal ym Mhontypridd a'r cyffiniau yn brysurach nag arfer. Er mwyn sicrhau eich bod chi'n cael taith esmwyth i’r Eisteddfod a’r dref yn ystod yr ŵyl, rydyn ni wedi gweithio gyda phartneriaid i ddarparu ystod eang o opsiynau trafnidiaeth i chi fanteisio arnyn nhw.

Newidiadau i ffyrdd a meysydd parcio yng nghanol y dref

Er mwyn cynnal achlysur mor enfawr, bydd angen rhoi trefniadau traffig dros dro ar waith. Rydyn ni'n annog y rheiny sy'n ymweld â’r Eisteddfod i beidio â defnyddio meysydd parcio yng nghanol y dref, oni bai am barcio hygyrch, gan y byddan nhw'n brysur iawn ac yn angenrheidiol ar gyfer pobl sy’n gweithio neu’n ymweld â chanol y dref ar gyfer apwyntiadau.

Rhwng 1 a 11 Awst, bydd maes parcio Heol y Weithfa Nwy (Gas Road) yn cael ei gyfyngu i ddeiliaid trwyddedau yn unig. Cysylltwyd â busnesau yr effeithir arnyn nhw yng nghanol y dref a bydd trwyddedau'n cael eu darparu lle bo angen busnes.

Rhwng 3 a 10 Awst, dim ond cerbydau a ganiateir fydd yn cael mynediad at Stryd y Taf o'r gyffordd â Stryd y Bont, a hynny rhwng 9am-1am. Bydd y Safle Tacsis yn ystod y dydd wedi'i leoli ar ben uchaf Stryd y Taf y tu allan i Lys Cadwyn (hen safle Canolfan Siopa Dyffryn Taf). O 1am, bydd y safle tacsis gyda'r nos wedi'i leoli y tu allan i B&M ar Stryd y Taf.

Rhwng 3 ac 11 Awst, bydd Maes Parcio Stryd y Santes Catrin ar gyfer deiliaid Bathodynnau Glas sy’n ymweld â’r Eisteddfod yn unig.

Mae disgwyl i ffyrdd, trenau a bysiau fod yn brysurach nag arfer tra bod yr achlysur yn cael ei gynnal, yn enwedig rhwng 8-11am, 4-7pm a 10-11pm. Ystyriwch deithio i Bontypridd a thrwy Bontypridd ar adegau tawelach, os yw’n bosibl.

Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth ar dudalennau Teithio’r Eisteddfod

Cyngor teithio ar gyfer cyrraedd yr achlysur

Os ydych chi'n ffodus i fyw'n agos at yr achlysur, yna cerdded neu feicio yw'r opsiwn gorau i chi fynychu ac ymweld â Phontypridd. Sylwch na fydd modd i chi gael mynediad at Barc Coffa Ynysangharad ar hyd Lwybr Taith Taf rhwng 2 a 12 Awst.

Os ydych chi'n byw ymhellach i ffwrdd, trafnidiaeth gyhoeddus yw'r ffordd orau o deithio i mewn, o gwmpas, a thrwy tref Pontypridd tra bydd yr achlysur yn cael ei gynnal. Mae’n hawdd cyrraedd Pontypridd ar drên a bws. Mae'r Maes o fewn pellter cerdded byr o Orsaf Drenau Pontypridd a Gorsaf Fysiau Pontypridd.

Er mwyn eich helpu chi i deithio, bydd Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd yn cael ei ailgyflwyno ledled Rhondda Cynon Taf rhwng 22 Gorffennaf a 1 Medi! Mae modd bwrw golwg ar yr holl fanylion a thelerau teithio, yma.

Yn ystod yr Eisteddfod, bydd cwmnïau bysiau lleol yn cynnig gwasanaethau bysiau amlach a hwyrach (bydd gwasanaethau ar ddydd Sul yn aros yr un fath). Ewch i wefan Traveline Cymru i fwrw golwg ar amserlenni bysiau a chynllunio eich taith.

Mae teithio ar y trên yn opsiwn gwych. Gyda'i gilydd, mae hyd at 12 trên yr awr yn rhedeg drwy Bontypridd. Bellach, mae gwasanaethau rheilffordd amlach ar Fetro De Cymru, gydag 8 trên yr awr rhwng Caerdydd a Phontypridd, a gwasanaethau amlach i Aberdâr, Treherbert a Merthyr Tudful.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu gwasanaethau min nos yn ystod yr achlysur, gyda chyfanswm o 11 trên ar ôl i’r Eisteddfod gau ei drysau bob nos (22:15), 7 yn fwy na’r arfer, a bydd gwasanaethau ychwanegol ddydd Sul 4 Awst. Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth a phrynu eich tocyn trên drwy fynd i wefan Trafnidiaeth Cymru.

Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth ar dudalennau ‘Cyrraedd yr Eisteddfod'

Dylai pobl sy’n mynychu’r Eisteddfod ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu'r cyfleusterau parcio a theithio RHAD AC AM DDIM. Peidiwch â gyrru i ganol y dref:

Bydd gwasanaethau parcio a theithio RHAD AC AM DDIM i'r gogledd ac i'r de o Bontypridd er mwyn caniatáu i ymwelwyr gael mynediad at yr achlysur. Rhagor am y gwasanaeth parcio a theithio RHAD AC AM DDIM.

Bydd gwasanaethau parcio a theithio yn cael eu cynnal yn aml o bob safle ac yn mynd â chi yn syth i ganol y dref. Byddan nhw'n rhedeg rhwng 3 a 10 Awst rhwng 7am a hanner nos. Os ydych chi'n bwriadu gyrru i'r achlysur, dylech chi ddefnyddio'r cyfleuster parcio a theithio RHAD AC AM DDIM, peidiwch â cheisio parcio yng nghanol y dref.

Mae modd iymwelwyr sy'n teithio o'r gogledd o Bontypridd ddefnyddio cyfleusterau Parcio a Theithio’r Gogledd 1 a 2 (Abercynon) (cod post CF45 4UQ a CF45 4SN) sydd oddi ar yr A470. Bydd y lleoliad codi/gollwng ar Stryd y Bont, Pontypridd.

Mae modd iymwelwyr sy'n teithio o'r de o Bontypridd ddefnyddio cyfleuster Parcio a Theithio’r De (Y Ddraenen Wen) (CF37 5AL), sydd wedi’i sefydlu dros dro ar gyfer yr achlysur. Caiff cyfleuster parcio a theithio'r Ddraenen Wen ei leoli yn Ysgol y Ddraenen Wen. Bydd y lleoliad codi/gollwng gyferbyn â gorsaf drenau Pontypridd.

Bydd arwyddion ar gyfer y cyfleuster parcio a theithio wrth adael yr A470, er budd ymwelwyr.

Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf

Mae modd i chi gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am deithio i'r Eisteddfod ar y cyfryngau cymdeithasol:

X Gwybodaeth Deithio'r Eisteddfod – @GDEisteddfod

Facebook: Gwybodaeth Deithio'r Eisteddfod

Neu ewch i: www.rctcbc.gov.uk/cyrraeddyreisteddfod

Newidiadau i Barc Coffa Ynysangharad

Bydd Parc Coffa Ynysangharad yn cael ei gau fesul cam ac yn cael ei ailagor fesul cam er mwyn caniatáu i isadeiledd enfawr yr Eisteddfod gael ei sefydlu, a'i dynnu i lawr eto o 10 Awst, fel bod modd gwneud hyn mewn modd diogel ac effeithlon.

Byddwch yn effro i'r ffaith bod Parc Coffa Ynysangharad yn cau'n gyfan gwbl i'r cyhoedd ar 30 Gorffennaf, gan gynnwys mynediad at lwybrau eraill. Dim ond deiliaid tocynnau'r Eisteddfod fydd yn gallu cael mynediad at y parc rhwng 3 a 10 Awst. Bydd yr holl wasanaethau yn ailagor mor fuan â phosib yn dilyn yr Eisteddfod.

Y dyddiadau cau allweddol sydd wedi'u cadarnhau yw:

Lleoliad

Lleoliad

Dyddiad cau

Cae pêl-droed

Parc Coffa Ynysangharad

24 Mehefin

Pafiliwn pêl-droed

Parc Coffa Ynysangharad

24 Mehefin

Maes criced

Parc Coffa Ynysangharad

24 Mehefin

Pafiliwn criced

Parc Coffa Ynysangharad

24 Mehefin

Ardal y Safle Seindorf

Parc Coffa Ynysangharad

8 Gorffennaf

Y Pafiliwn Bowls 

Parc Coffa Ynysangharad

8 Gorffennaf

Cwrt aml-chwaraeon

Parc Coffa Ynysangharad

8 Gorffennaf

Cae cŵn

Parc Coffa Ynysangharad

8 Gorffennaf

Gardd y Rhosynnau

Parc Coffa Ynysangharad

8 Gorffennaf

Ardal o amgylch ardal Chwarae'r Lido (heb gynnwys Chwarae'r Lido na Lido Ponty ar yr adeg yma)

Parc Coffa Ynysangharad

22 Gorffennaf

Gofod achlysuron newydd

Parc Coffa Ynysangharad

22 Gorffennaf

Chwarae'r Lido

Parc Coffa Ynysangharad

30 Gorffennaf

Lido Ponty

Parc Coffa Ynysangharad

30 Gorffennaf

Wedi ei bostio ar 10/07/24