Skip to main content

Ystyried Safoni Gwasanaeth Casglu Gwastraff Rhondda Cynon Taf

Bydd y Cabinet yn ystyried cynigion i safoni casgliadau gwastraff ledled Rhondda Cynon Taf.

Os caiff y cynigion eu cymeradwyo, byddai casgliadau bagiau du yn cael eu safoni ledled POB ardal yn y Fwrdeistref Sirol.

Byddai hyn yn golygu bydd angen i drigolion, gan gynnwys y rheiny yng Nghwm Cynon a Thaf-elái, roi eu gwastraff allan i'w gasglu mewn uchafswm o 3 bag du (70L) maint safonol (yn unol â'r trefniadau presennol) o ddiwedd mis Medi 2024 ymlaen.

Yn unol â'r cynigion, byddai casgliadau gwastraff yn parhau yn unol â'r trefniadau presennol, sef 3 bag gwastraff bob 3 wythnos. Byddai modd cadw biniau ar olwynion a'u defnyddio i storio'r bagiau gwastraff tan y diwrnod casglu. Yr unig newid fyddai'r angen i roi'r bagiau du wrth ymyl y ffordd er mwyn eu casglu ar ddiwrnod ac amser casglu gwastraff arferol y trigolyn.

Byddai'r cynigion yn sicrhau’r canlynol:

  • Byddai trigolion ac ymwelwyr yn elwa ar strydoedd mwy taclus, drwy gael gwared ar y biniau fel rhwystrau rhwng y casgliadau oddi ar ymyl y ffordd; mae'r Cyngor yn derbyn llawer o gwynion am finiau ar lwybrau troed, yn enwedig ar strydoedd teras cul.
  • Byddai modd i'r Cyngor ddefnyddio ei gerbydau casglu gwastraff yn fwy effeithlon drwy safoni’r cerbydau ledled Rhondda Cynon Taf.
  • Fyddai dim angen i drigolion lusgo neu gario'u biniau ar olwynion drwy eu cartrefi neu i fyny / i lawr grisiau gardd.
  • Byddai modd i'r Cyngor ddefnyddio cerbydau llai er mwyn casglu bagiau du os nad oes modd i gerbydau casglu mwy gael mynediad i stryd o ganlyniad i geir sydd wedi’u parcio.

Meddai Cyfarwyddwr y Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth:

"Byddai'r newidiadau arfaethedig yn safoni’r dull casglu gwastraff ar gyfer holl drigolion Rhondda Cynon Taf - dyma rywbeth y gofynnodd nifer o drigolion amdano yn ystod y newidiadau'r llynedd.

"Mae dadansoddiad data o’r cynnig i gyflwyno casgliadau bagiau du ar gyfer PAWB yn cynnig ystod o fuddion posibl, gan gynnwys strydoedd mwy taclus gyda llai o rwystrau, cyfraddau ailgylchu uwch a gwasanaeth casglu gwastraff mwy effeithlon. Hefyd byddai’r cerbydau casglu gwastraff yn cael eu defnyddio’n well a byddai llai o effaith ar drigolion nad oes gyda nhw ddewis arall ar hyn o bryd heblaw am lusgo'u biniau drwy eu heiddo neu i fyny / i lawr grisiau gardd a.y.b., gan nad oes hawl cadw biniau ar lwybrau troed 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.   

Yn unol â'r cynigion, fyddai:

  • DIM NEWID i ba mor aml mae gwastraff trigolion yn cael ei gasglu. Byddai'n parhau'r un fath, sef bob 3 wythnos.
  • DIM NEWID i'r uchafswm o 3 bag du fesul aelwyd, felly byddai modd rhoi’r un nifer o fagiau allan yr un mor aml.
  • DIM NEWID i'w diwrnod neu amser casglu gwastraff.
  • Yn ogystal â'r buddion posibl yma, mae angen i'r Cyngor hefyd gyrraedd targed ailgylchu'r Llywodraeth o 70% ar gyfer 2024/25 er mwyn osgoi dirwyon mawr. Mae data ailgylchu 2023/24 yn dangos bod cyfradd ailgylchu'r Cyngor wedi gwella o 64.97% yn 2022/23 i 67.23%, diolch i ymdrechion trigolion ers symud i gasgliadau bob tair wythnos yn 2023. Fodd bynnag, gyda llai na blwyddyn i fynd er mwyn cyrraedd targed statudol Llywodraeth Cymru o 70%, mae angen gwella ein cyflawniad o ran ailgylchu ymhellach na'r mesurau sydd wedi'u cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae adolygiad o'r data ers rhoi newidiadau ar waith yn 2023 yn dangos bod angen gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth a gwella cyfraddau ailgylchu, a bod gwahaniaeth sylweddol amlwg rhwng yr ardaloedd lle mae biniau ar olwynion yn cael eu casglu (Cwm Cynon a Thaf-elái) a'r ardaloedd lle mae bagiau du yn cael eu casglu yn uniongyrchol o ymyl y ffordd (Cwm Rhondda); yn benodol, bagiau ailgylchu (gan gynnwys gwastraff bwyd). Mae data yn nodi bod ardal Cwm Rhondda yn ailgylchu tua 30% yn fwy* ac yn rhoi tua 50% yn llai* o wastraff mewn bagiau du allan, o'i chymharu ag ardaloedd cyfagos.

Mae trigolion Cwm Rhondda wedi bod yn rhoi bagiau du allan i'w casglu heb finiau ar olwynion ers sawl blwyddyn a byddai'r cynnig yma'n sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol gyfan yn cynnal yr un dull casglu gwastraff, gan ddefnyddio cerbydau’r Cyngor yn well a chael gwared ar rwystrau sy'n cael eu hachosi gan finiau ar olwynion oddi ar lwybrau troed, ac i eraill byddai’n golygu nad oes angen iddyn nhw lusgo eu biniau drwy eu cartrefi.

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r cynigion yma ar - www.rctcbc.gov.uk/CynnigiGasgluBagiaunidBiniau a dyma ddolen i adroddiad llawn y Cabinet yma - Hafan (moderngov.co.uk)

Wedi ei bostio ar 10/07/24