Skip to main content

Cynllun i osod man croesi diogel newydd ar Heol Tynant

Tynant Road, Beddau

Dyma roi gwybod i drigolion yn ardaloedd Beddau a Thŷ-nant y bydd goleuadau traffig dwyffordd yn cael eu defnyddio ar rannau o'r B4595 o'r wythnos nesaf ymlaen, a hynny er mwyn gosod croesfan sebra newydd a chynnal gwelliannau eraill i'r briffordd.

Bydd gwaith y cynllun yn cael ei gynnal mewn dau leoliad ar hyd y B4595, sef Heol y Plwyf (rhwng Stryd Mildred a Threm-deg) a Heol Tynant (rhwng Trem Garth a Brynhyfryd). Bydd y groesfan newydd yn cael ei gosod ar Heol Tynant, a bydd y groesfan bresennol ar Heol y Plwyf yn cael ei chodi. Bydd marciau ffordd yn cael eu gwella yn y maes parcio ger Trem Garth a bydd safle bws agos yn cael ei symud.

Mae'r Cyngor wedi penodi Calibre Contracting Ltd i gynnal y gwaith ar y safle, a bydd y gwaith yn dechrau o ddydd Llun 8 Gorffennaf ac yn para tua 11 wythnos.

Bydd angen goleuadau dwyffordd i gynnal agweddau amrywiol ar y gwaith, ond does dim disgwyl cau ffyrdd yn gyfan gwbl. Bydd pob ardal waith yn cael ei diogelu gan ddefnyddio rhwystrau a bydd llwybrau i gerddwyr yn cael eu nodi'n glir. Bydd mynediad ar gael i eiddo trigolion a bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “O ddydd Llun, bydd y gwaith lleol yma yn ardaloedd Beddau a Thŷ-nant yn cynnwys gosod man croesi diogel newydd ar Heol Tynant a chodi'r groesfan sebra bresennol ar Heol y Plwyf. Bydd y cynllun yn hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd yn y lleoliadau prysur yma yn y gymuned, gan annog rhagor o bobl i gerdded rhannau o'u teithiau lleol yn lle gyrru.

“Bydd trigolion sy'n byw'n lleol yn derbyn llythyr sy'n esbonio'r cynllun ymhellach yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 1 Gorffennaf. Bydd angen i'r contractwr rydyn ni wedi'i benodi ddefnyddio goleuadau traffig dwyffordd ar gyfer elfennau o'r cynllun. Bydd swyddogion yn gweithio'n agos gyda nhw i sicrhau bod cynnydd da yn cael ei wneud dros yr wythnosau nesaf.”

Wedi ei bostio ar 03/07/2024