Skip to main content

Busnes Amdani yn RhCT!

Cymrwch ran yn y drafodaeth yn RhCT y mis yma, wrth i fusnesau gael eu gwahodd i ddod at ei gilydd i drafod byd busnes.

Mae achlysur cyntaf Trafod Byd Busnes yn RhCT yn achlysur ecsgliwsif, a'r bwriad yw dod â busnesau lleol, arweinwyr yn y gymuned a phartneriaid academig ynghyd i drafod yr anghenion o ran cymorth sydd gyda busnesau yn ardal Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â'r heriau maen nhw'n eu hwynebu.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Prifysgol De Cymru a Choleg y Cymoedd sy'n cynnal yr achlysur. Mae'n gyfle i gydweithio a'r nod yw ysgogi trafodaethau ystyrlon a chreu partneriaethau llawn effaith.

Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal Ddydd Mercher 10 Gorffennaf am 11.30am – 2pm ar Gampws Prifysgol De Cymru, Trefforest. 

Bydd yn gyfle nid yn unig i rannu gwybodaeth; ond i feithrin partneriaethau gwirioneddol hefyd. Y nod yw adlewyrchu safbwyntiau pawb sy'n bresennol, gan roi platfform lle bydd eu cyfraniadau yn gymorth o ran siapio mentrau yn y dyfodol.

Gyda'n gilydd, fe allwn ni greu rhwydwaith cymorth fydd yn para ac yn fawr ei effaith ar gyfer busnesau yn ardal RhCT.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gadw lle yn yr achlysur ewch i – RCT Business Conversation Tickets, Wed, Jul 10, 2024 at 11:30 AM | Eventbrite.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael i fusnesau yn Rhondda Cynon Taf yma https://www.rctcbc.gov.uk/Busnesau

Wedi ei bostio ar 04/07/24