Skip to main content

Manylion allweddol ar gyfer cynllun gwella ffordd lleol yn Efailisaf

Heol Dowlais

Nodwch y bydd angen cau ffordd a rhoi trefniadau bws dros dro ar waith ar gyfer cynllun gosod wyneb newydd yn #Efailisaf.

Mae'r gwaith gwella yn Heol Dowlais yn cael ei gynnal yn rhan o raglen buddsoddi cyfalaf y Cyngor gwerth £5.98m a gyflawnir yn 2024/25.

Bydd y rhan o'r ffordd o 34 Heol Dowlais i'r gyffordd â Heol Creigiau ar gau rhwng 8am a 4.30pm ddydd Llun 15 Gorffennaf a dydd Mawrth 16 Gorffennaf.

Mae'r Cyngor wedi penodi Peter Simmonds Contracting i gynnal y gwaith gosod wyneb newydd.

Bydd arwyddion llwybr amgen i'w gweld, sef Cylchfan Nant Dowlais, Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys (yr A473), Cylchfan Nant Celyn, Heol yr Orsaf, Heol-Y-Parc, Ffordd-Y-Capel, Heol-Y-Ffynnon ac Heol Dowlais.

Bydd mynediad ar gael i gerddwyr ac i gerbydau'r gwasanaethau brys – a bydd mynediad hefyd ar gael i eiddo. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r llwybr i gerddwyr.

Yn ystod y cyfnod y bydd y ffordd ar gau (15-16 Gorffennaf), fydd dim modd i Wasanaeth 90 Edwards Coaches (Gwaunmeisgyn-Pontypridd) deithio ar hyd y brif ffordd trwy Efailisaf.

Bydd y bws yn teithio ar hyd yr A473 i'r ddau gyfeiriad o Gylchfan Heol yr Orsaf, gan ailymuno â'i lwybr arferol wrth Gylchfan Bryn y Goron.

Bydd gwasanaeth bws gwennol AM DDIM ar gael er mwyn cynnig teithiau lleol nad oes modd eu darparu o ganlyniad i gau'r ffordd. Dyma amserlen y bws gwennol.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 10/07/24