Skip to main content

CYMERADWYO trefniadau safoni Gwasanaeth Casglu Gwastraff Rhondda Cynon Taf

Mae'r Cabinet wedi cytuno ar gynigion i safoni casgliadau gwastraff ledled Rhondda Cynon Taf.

Bydd y newidiadau yn golygu y bydd casgliadau Bagiau Du yn cael eu safoni ledled POB ardal yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae'r cynigion yn amodol ar weithdrefn 'Galw i Mewn' y Cyngor, sy'n caniatáu i Aelodau Etholedig 'alw i mewn' penderfyniad Cabinet sydd wedi'i wneud ond heb ei weithredu eto, er mwyn ei archwilio.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi roi eich gwastraff cyffredinol allan i'w gasglu mewn DIM MWY NA TRI bag du maint safonol (70L) (yn unol â'r lwfans cyfredol), BOB TAIR WYTHNOS o DDYDD LLUN 30 MEDI 2024.

Mae'r dull casglu yma wedi bod ar waith ledled un rhan o dair o'r Fwrdeistref Sirol (Cwm Rhondda) ers dros 30 mlynedd.

Bydd yna...

  • DIM NEWID i ba mor aml y caiff gwastraff ei gasglu; bydd yn parhau i fod bob 3 wythnos,
  • DIM NEWID i'r uchafswm o 3 bag du ar gyfer pob aelwyd,
  • DIM NEWID i gasgliadau ailgylchu,
  • DIM NEWID i'r diwrnod na'r amser casglu.

CAIFF preswylwyr gadw eu bin ar olwynion er mwyn storio'r bagiau hyd nes y cânt eu casglu, ond bydd angen tynnu'r bagiau du o'r biniau a'u rhoi allan i'w casglu ar y diwrnod a'r amser casglu arferol, ac wrth y lleoliad casglu arferol sydd fel arfer wrth ymyl y ffordd.

Bydd safoni casgliadau gwastraff yn sicrhau:

  • Cyfraddau ailgylchu gwell fel ein bod ni'n cyrraedd Targed Llywodraeth Cymru o 70%.
  • Bydd modd i'r Cyngor ddefnyddio ei fflyd casglu gwastraff yn fwy effeithlon trwy gael cerbydau safonol ar draws y sir, gan gynnwys defnyddio cerbydau llai eraill i gasglu bagiau du os nad yw lorïau casglu mwy yn gallu mynd i'r stryd oherwydd ceir wedi parcio.
  • Bydd preswylwyr ac ymwelwyr yn elwa ar strydlun gwell, trwy gael gwared ar y biniau sy'n achosi rhwystrau ar bafinau rhwng casgliadau.
  • Fyddai dim angen i drigolion lusgo neu gario'u biniau ar olwynion drwy eu cartrefi neu i fyny / i lawr grisiau gardd.

Meddai Cyfarwyddwr y Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth::

“Bydd y dull casglu gwastraff safonol ar gyfer holl breswylwyr Rhondda Cynon Taf, sef rhywbeth y gofynnodd nifer o drigolion amdano yn ystod y newidiadau y llynedd, yn sicrhau bod gan BOB preswylydd yr un terfynau gwastraff, ac felly'n sicrhau tegwch.

“Ers dros 30 mlynedd, mae gwastraff yn ardal Cwm Rhondda wedi’i gasglu mewn bagiau du, ac mae llawer o breswylwyr yng Nghwm Cynon a Thaf-elái gyda biniau 120L ar hyn o bryd yn rhoi bag du allan wrth ochr eu bin ar olwynion. Yr unig beth sy’n newid i breswylwyr yw bod angen rhoi’r holl wastraff wrth ymyl y ffordd mewn bagiau du.

"Mae dadansoddiad data o gyflwyno casgliadau bagiau du ar gyfer PAWB yn cynnig ystod o fuddion posibl, gan gynnwys strydoedd mwy taclus gyda llai o rwystrau, cyfraddau ailgylchu uwch a gwasanaeth casglu gwastraff mwy effeithlon. Hefyd byddai’r cerbydau casglu gwastraff yn cael eu defnyddio’n well a byddai llai o effaith ar breswylwyr nad oes gyda nhw ddewis arall ar hyn o bryd heblaw am lusgo'u biniau drwy eu heiddo neu i fyny / i lawr grisiau gardd a.y.b., gan na ddylid cadw biniau ar lwybrau troed 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

“Amcangyfrifir bod preswylwyr Cwm Rhondda yn ailgylchu dros 20% yn fwy* ac yn rhoi tua 30% yn llai* o wastraff bagiau du allan i'w gasglu. Bydd safoni casgliadau gwastraff nawr yn ein helpu i gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25 ac yn ein helpu i osgoi derbyn dirwyon sylweddol.”

Mae adolygiad o'r data ers rhoi newidiadau ar waith yn 2023 yn dangos bod angen gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth a gwella cyfraddau ailgylchu, a bod gwahaniaeth sylweddol amlwg rhwng yr ardaloedd lle mae biniau ar olwynion yn cael eu casglu (Cwm Cynon a Thaf-elái) a'r ardaloedd lle mae bagiau du yn cael eu casglu yn uniongyrchol o ymyl y ffordd (Cwm Rhondda); yn benodol, gwastraff mae modd ei ailgylchu (gan gynnwys gwastraff bwyd). Mae data yn nodi bod ardal Cwm Rhondda yn ailgylchu tua 30% yn fwy* ac yn rhoi tua 50% yn llai* o wastraff mewn bagiau du allan, o'i chymharu ag ardaloedd cyfagos.

Mae preswylwyr Cwm Rhondda wedi bod yn rhoi bagiau du allan i'w casglu heb finiau ar olwynion ers 30 mlynedd a byddai safoni'r trefniadau yn sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol gyfan yn cynnal yr un dull casglu gwastraff, gan ddefnyddio cerbydau’r Cyngor yn well a chael gwared ar rwystrau sy'n cael eu hachosi gan finiau ar olwynion oddi ar lwybrau troed, ac i eraill byddai’n golygu nad oes angen iddyn nhw lusgo eu biniau drwy eu cartrefi. 

Mae rhagor o wybodaeth am Safoni Casgliadau Gwastraff – Bagiau Nid Biniau, ar gael yma: www.rctcbc.gov.uk/CasgluBagiauNidBiniau ac mae dolen i adroddiad llawn y cabinet ar gael yma: https://rctcbc.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=132&MId=50005056&Ver=4&LLL=0

DIWEDD

Nodiadau i'r Golygydd

Noder: Fydd y penderfyniad hwn ddim yn dod i rym nac yn cael ei weithredu’n llawn nes cyn pen 3 diwrnod gwaith ar ôl ei gyhoeddi. Nod hyn yw ei alluogi i gael ei 'Alw i Mewn' yn unol â Rheol 17.1, Rheolau Gweithdrefn Trosolwg a Chraffu. Y dyddiad cau ar gyfer 'Galw i Mewn' yw 5pm ar 22 Gorffennaf 2024. 

Wedi ei bostio ar 18/07/2024