Skip to main content

Helpu i gefnogi busnesau newydd

Blank 2 Panel Portraits Comic Strip

Yn 2019, roedd rhif 26 Stryd Hannah yn nhref Porth yn eiddo adfeiliedig, gwag.  Serch hynny, roedd Andrew Murrain yn gweld potensial yr eiddo yng nghanol y dref ac fe'i prynodd gyda'r nod o'i ddatblygu'n gaffi/bar i gyfoethogi'r arlwy nos yn nhref Porth.

Roedd costau cynyddol deunyddiau a llafur yn golygu bod angen cymorth ariannol i gwblhau'r prosiect, felly gwnaeth Andrew gais am Grant Gwella Eiddo Masnachol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf!

Roedd y cais yn llwyddiannus a hyd yma, mae’r Grant Gwella Eiddo Masnachol wedi cyfrannu at y canlynol:

  • Datblygiad blaen yr eiddo. Roedd cyflwr cyffredinol yr eiddo yn cael ei effeithio'n ddifrifol gan ddŵr yn dod i mewn drwy'r blaen, ond mae hwn bellach wedi'i adnewyddu ac yn dal dŵr.
  • Blaen siop gwydr dwbl a chaead rholio wedi'u gosod. Mae'r eiddo bellach yn ddiogel, mae ganddo sgôr llawer gwell o ran ynni ac mae'n edrych yn addas ar gyfer busnes modern.

 Mae gwaith i gwblhau'r caffi/bar newydd yn mynd rhagddo ac mae “Murrain's” ar y trywydd i agor yn ddiweddarach eleni, yn unol â'r amserlen.

 Dywedodd y Cynghorydd Mark Norris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu:


Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i ddatblygu’r economi leol ac yn rhan o’r ymrwymiad yma, mae amrywiaeth o raglenni buddsoddi ariannol ar gael, a gefnogir gan gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. 

Un o’r rhaglenni hyn ydy’r Grant Gwella Eiddo Masnachol, y mae Andrew Murrain wedi’i ddefnyddio. Mae'n wych gweld perchnogion busnesau lleol, gyda chefnogaeth carfan adfywio'r Cyngor, yn cwblhau gwaith adnewyddu, datblygu eu busnesau yng nghanol ein trefi, dod ag adeiladau sy'n dadfeilio yn ôl i ddefnydd buddiol a chyfrannu at yr economi leol gref rydyn ni i gyd yn gweithio tuag ato.

 Hoffwn ddymuno pob lwc i Andrew wrth i waith barhau ar ei fusnes newydd cyn iddo agor yn ddiweddarach eleni – rwy’n siŵr y bydd caffi/bar Murrain's yn ychwanegiad poblogaidd i ganol tref Porth a fydd yn cael ei groesawu.

I gael rhagor o wybodaeth am grantiau i fusnesnau a'r trydydd sector, cliciwch yma

 

Wedi ei bostio ar 17/07/2024