Skip to main content

Bag Newydd Sbon RhCT

Cyn bo hir, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwella ei gasgliadau gwastraff gwyrdd / o'r ardd cyfredol trwy gyflwyno sach NEWYDD y mae modd ei hailddefnyddio i gasglu'ch holl wastraff gwyrdd / o'r ardd.

O 1 Tachwedd 2021, bydd angen i drigolion gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd / o'r ardd gan y Cyngor a byddan nhw'n cael DWY sach werdd AM DDIM.

Bydd cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn sicrhau bydd y carfanau yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol a gwneud y gwasanaeth yn gwbl awtomataidd gan leihau ein hôl troed carbon trwy osgoi teithiau dibwrpas. 

Bydd cyflwyno'r sachau gwyrdd cynaliadwy ac ailddefnyddiadwy newydd yn golygu y bydd y Cyngor yn lleihau ei ddefnydd o blastig yn gyffredinol ac yn sicrhau bod y cynnyrch gwastraff gwyrdd terfynol mor bur â phosibl. Bydd hyn yn creu compost gradd uwch a fydd yn arwain at economi wirioneddol gylchol yn y dyfodol.

Bydd y sachau newydd yn cael eu cyflwyno pan fydd y casgliadau'n newid i drefn y gaeaf (bob pythefnos) a phan fydd y galw am y gwasanaeth yma'n llai. Mae hyn er mwyn sicrhau bod trigolion yn cael y cyfle i gofrestru a dod yn gyfarwydd â'r newidiadau cyn i'r casgliadau wythnosol ailddechrau ym misoedd prysurach y Gwanwyn a'r Haf (1 Mawrth 2022).

Mae cofrestru ar-lein yn hawdd ac yn cymryd ychydig o funudau: www.rctcbc.gov.uk/BagNewyddSbon. Os nad oes modd i chi ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, gallwch chi ffonio 01443 425001 rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd modd cofrestru o 8 Medi 2021. Bydd trigolion wedyn yn cael eu DWY sach AM DDIM er mwyn dechrau ailgylchu'u gwastraff gwyrdd.

Mae bagiau ychwanegol ar gael ond byddan nhw'n costio £3 yr un.

Os yw trigolyn yn methu â rhoi unrhyw wastraff gwyrdd allan i'w gasglu yn gyson, mae'n bosibl y bydd yn cael ei dynnu o'r rhestr gasglu a bydd angen ailgofrestru i barhau i ddefnyddio'r cynllun.

Bydd modd defnyddio'r sachau newydd ar gyfer gwastraff gwyrdd megis glaswellt, tocion, brigau bach wedi'u torri i faint addas a gwastraff anifeiliaid bach sy'n bwyta llysiau yn unig. FYDD y Cyngor DDIM yn casglu pridd, rwbel, tywarch (blociau mwd) neu bren yn rhan o'r casgliad yma. Dylai gwastraff anifeiliaid gynnwys blawd llif / gwair yn unig ac nid gwastraff anifeiliaid arall fel baw cŵn a chathod. RHAID PEIDIO â gorlenwi'r sachau.

Mae modd mynd â gwastraff gwyrdd / o'r ardd i un o'r nifer o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf, ond o 1 Tachwedd 2021, RHAID iddo BEIDIO â bod mewn bag ailgylchu clir. Bydd rhaid, yn hytrach, ei arllwys yn rhydd i mewn i'r cynhwysydd sydd ar gael.

Yn 2020 casglodd y Cyngor dros 8,200 tunnell o wastraff gwyrdd gan drigolion – mae hyn yn cyfateb i 2,739,000 o fagiau ailgylchu llawn. 

Meddai Steve Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Gofal y Strydoedd:

“Bydd y newidiadau i’r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd yn helpu i leihau ôl troed carbon y Cyngor ac yn dod â ni yn nes at ein nod o ailgylchu 80% o'r holl wastraff sy'n dod o'n cartrefi erbyn 2024/25. Bydd y newid bach yma'n gwella ansawdd y deunydd rydyn ni'n ei gynhyrchu ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr, gan ein harwain yn y pen draw at economi gwbl gylchol. Gobeithio y bydd trigolion yn ymuno â ni i wneud gwahaniaeth nid yn unig yn lleol, ond yn fyd-eang.

"Bydd y gwasanaeth gwell newydd yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf y tu mewn i gerbydau i wella llwybrau casglu a galluogi gwasanaeth awtomataidd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/BagNewyddSbon, e-bostio ailgylchu@rhondda-cynon-taf.gov.uk, ffonio 01443 425001 neu ddilyn cyfrifon y Cyngor ar Facebook/Twitter.  

Wedi ei bostio ar 13/09/2021