Skip to main content

Mae'n amser i RCT fynd 'Gam Ymhellach' wrth Ailgylchu

Efallai mai gwlad fechan yw Cymru, ond mae'n un o'r goreuon yn y byd ailgylchu. Cymru yw'r wlad sy drydedd orau yn y byd o ran ailgylchu, ac rydyn ni'n galw ar holl drigolion y genedl i ymuno â ni er mwyn sicrhau mai ein gwlad ni yw'r un orau!

Mae hi'n wythnos ailgylchu yr wythnos yma (20-26 Medi) ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymuno â'r ymgyrch ailgylchu dros Gymru ac yn annog ei thrigolion i 'Fod yn Wych' ac i fynd 'Gam Ymhellach' wrth ailgylchu ac i ymladd y newid yn yr hinsawdd!

Mae ailgylchu'n allweddol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd ac mae'n ffordd hawdd iawn i bawb wneud gwahaniaeth. Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd iawn i aelwydydd RhCT ac mae ein trigolion wedi bod yn sicrhau eu bod yn ailgylchu ar bob achlysur, sy'n newyddion da i'r Fwrdeistref Sirol, i Gymru ac wrth gwrs, i'r amgylchedd.

Mae mwy na 34,400 tunnell o ddeunydd ailgylchu wedi'u casglu o ymyl y pafin yn RhCT ers mis Ionawr 2021, sy'n cynnwys mwy na 7,600 tunnell o wastraff bwyd - mae hynny'n ddigon o ddeunydd ailgylchu i lenwi 8,600 o loriau ailgylchu 4 tunnell!

Mae ailgylchu'n weithred arferol yng Nghymru erbyn hyn, ac mae 92% ohonon ni'n ailgylchu yn rhan o'n trefn feunyddiol. Rydyn ni'n ailgylchu ffrwythau a chroen llysiau, plisg wyau, bagiau te a'r gwastraff sydd ar ôl ar ein platiau yn ein biniau bwyd; gan ailgylchu eitemau o bob ystafell, gan gynnwys yr ystafell ymolchi a'r ystafell wely, yn ogystal ag eitemau anodd eu hailgylchu fel poteli 'aerosol'.

Er hyn, dydy dros hanner ohonon ni ddim yn ailgylchu pob eitem bosibl, felly pe hoffen ni i Gymru fod y wlad orau'n y byd, rhaid i ni wneud rhagor o ymdrech.

Mae'r Cyngor, yn rhan o'i ymrwymiad parhaus i ymladd y newid yn yr hinsawdd ac i gynyddu cyfraddau ailgylchu, wedi cyhoeddi newid i'r ffordd y mae'n casglu gwastraff gwyrdd i'w ailgylchu yn ddiweddar. Bydd yn cyflwyno sachau gwyrdd mae modd eu hailgylchu a thrwy hynny'n lleihau ei ddefnydd o blastig o tua 3 miliwn o fagiau ailgylchu clir bob blwyddyn. Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion gofrestru ar gyfer y gwasanaeth fel bod modd i'r criwiau osgoi teithiau diangen a lleihau ôl troed carbon cyffredinol y Cyngor.

Mae modd i drigolion gofrestru ar gyfer y gwasanaeth AM DDIM yn gyflym ac yn ddi-drafferth ar-lein trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/BagNewyddSbon. . Os nad oes modd i chi ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, mae modd ichi ffonio 01443 425001 rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd trigolion wedyn yn cael eu DWY sach AM DDIM er mwyn dechrau ailgylchu'u gwastraff gwyrdd o 1 Tachwedd.

Mae sachau ychwanegol ar gael ond byddan nhw'n costio £3 yr un. Mae'r tâl yma am y sach yn unig.

Yn 2020 casglodd y Cyngor dros 8,200 tunnell o wastraff gwyrdd gan drigolion!

Dros yr wythnos nesaf bydd trelar hyrwyddo'r Cyngor yn mynd i'r lleoliadau canlynol o 10am:

Dyddiad/Amser

Ble?

Dydd Mercher 22 Medi

Asda, Tonypandy

Dydd Iau 23 Medi

Asda, Aberdâr

Dydd Gwener 24 Medi

Tesco, Glan-bad, Pontypridd

Bydd y garfan ar gael i gynnig cyngor ailgylchu cyffredinol ac i roi cyfle i drigolion weld y sach gwastraff gwyrdd newydd y mae modd ei ailddefnyddio. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth: “Hoffwn i ddiolch i drigolion RhCT am barhau i ailgylchu yn ystod y cyfnod yma. Mae eu hymdrech wedi bod yn arbennig. Os ydyn ni'n parhau yn yr un modd, byddwn ni'n cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% ymhell cyn 2024/25 - da iawn RhCT!

“Rydw i'n gwybod bod y 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd iawn i aelwydydd ar draws y Fwrdeistref Sirol, wrth iddyn nhw addasu i 'ffordd newydd o fyw' ac rydw i'n hynod falch o'n trigolion arbennig am barhau i ailgylchu er gwaetha'r heriau digynsail presennol.

“Fel Cyngor, rydyn ni'n ceisio gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y broses ailgylchu mor hawdd a hygyrch â phosibl i bawb. Rydyn ni'n cynnig system archebu bagiau ailgylchu ar-lein, gwasanaeth dosbarthu, a system bagiau clir hawdd ar gyfer eitemau sych. Mae pob un o'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned wedi ail-agor i'r cyhoedd erbyn hyn a hoffwn ddiolch i holl weithwyr y gwasanaethau ailgylchu a gwastraff am eu hymdrechion parhaus drwy gydol y cyfnod. Daliwch ati.

“Rhaid i ni barhau i fod yn falch o'n hymdrechion ailgylchu ni, ond mae cymaint yn rhagor mae modd inni ei wneud. Rydyn ni'n gwybod bod ein trigolion yn poeni am y newid yn yr hinsawdd a hoffen nhw wneud Cymru a Rhondda Cynon Taf yn llefydd glanach a gwyrddach. Gyda'n gilydd mae modd i ni sicrhau bod Cymru'n cipio'r fedal aur am ailgylchu ac ein bod ni'n amddiffyn ein planed gan ailgylchu'r pethau cywir, bob tro.”

Mae modd cael bagiau ailgylchu mewn nifer o fannau dosbarthu penodol neu mae modd archebu rhai i gyrraedd eich cartref ar www.rctcbc.gov.uk/bagiau.

Mae angen eich help chi ar y Cyngor er mwyn sicrhau ein bod yn cadw at yr un safonau o ran ailgylchu ac er mwyn i ni arddangos ein sgiliau ailgylchu gwych hefyd! Mae nifer o drigolion wrthi'n clirio'u cartrefi ac efallai eu bod wedi dod ar draws nifer o eitemau hoffen nhw gael gwared arnyn nhw. OND os does dim modd ailgylchu'r eitemau yma, cymerwch nhw i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned leol.

Mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar agor bob dydd, o 8am tan 7.30pm a nawr mae pobl yn cael gyrru fan neu drelar i'r canolfannau er mwyn cael gwared ar eitemau. Mae nifer o ganllawiau llym ar waith i bobl sy'n ymweld â'r safleoedd ac mae'n debygol y bydd y rhain yn parhau i fod ar waith am gyfnod arall. Mae rhagor o fanylion ar https://www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu.

Dylech roi unrhyw hancesi papur, clytiau glanhau neu bersonol, mygydau wyneb, menig neu unrhyw Gyfarpar Diogelu Personol eraill yn rhan o'ch gwastraff bin du - os oes gan unrhyw un yn eich aelwyd symptomau'r Coronafeirws, dylech chi roi'r eitemau yma mewn bagiau dwbl a'u rhoi allan ar ôl 72 awr.

Rhaid i ni atgoffa trigolion bod modd iddyn nhw roi nifer diderfyn o fagiau ailgylchu clir i'w casglu ond dim ond 2 fag du neu un bin olwynion (rhaid i'r caead fod ar gau) y mae modd i ni eu casglu. 

Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn RhCT, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter.

Er mwyn dysgu rhagor am frwydr ailgylchu Cymru, ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk, cadwch lygad am yr hysbysebion ar y teledu, ar fysiau, ar arwyddion a'r cyfryngau cymdeithasol neu ymunwch â'r sgwrs gan ddefnyddio'r hashnod #AilgylchwyrGwych.

Cyngor gwych er mwyn i Gymru fod y gorau

  • Mae ailgylchu ein gwastraff bwyd yn un o'r ffyrdd gorau o roi hwb i gyfradd ailgylchu ein gwlad. Rhowch unrhyw wastraff bwyd - faint bynnag sydd gyda chi - yn eich bin gwastraff bwyd er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gasglu bob wythnos.
  • Cofiwch ailgylchu eitemau o bob ystafell yn eich cartref - nid yn y gegin yn unig! Efallai y byddech chi'n synnu i wybod bod modd ailgylchu cymaint o wastraff o'ch ystafell ymolchi hefyd. Mae modd i chi ailgylchu poteli gwag siampŵ neu sebon hylif y gawod a sebon llaw hefyd.
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod modd ailgylchu poteli dŵr, caniau, papur a charden, ond cofiwch fod modd i chi ailgylchu eitemau anarferol fel poteli 'aerosol'. Os dydych chi ddim yn gwybod pa eitemau mae modd i chi eu hailgylchu neu beidio, edrychwch ar adran Lleoliadau Ailgylchu ar wefan Cymru yn Ailgylchu.
  • Cywasgwch unrhyw ganiau, potiau neu eitemau eraill er mwyn arbed lle yn eich bag, bin neu focs ailgychu. Golchwch eich eitemau cyn eu hailgylchu - o dan y tap neu yn y bowlen golchi llestri
  • Rhaid i ni wneud ein gorau os hoffen ni i Gymru fod y gorau yn y byd. Er mwyn i Gymru lwyddo, rhaid i bob un ohonon ni ledaenu'r neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan rannu ein lluniau a'n cynghorion ailgylchu a defnyddio'r hashnod #AilgylchwyrGwych
Wedi ei bostio ar 20/09/21