Skip to main content

Y diweddaraf mewn perthynas â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP)

School classroom generic 1

Bydd y Cyngor yn cychwyn ymgynghoriad lle gall preswylwyr ddweud eu dweud ar Gynllun Strategol Cymru mewn Addysg (WESP). Bydd yr adborth a dderbynnir yn ystod y broses yma yn helpu i lywio’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ymhellach cyn iddo gael ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf.

Bydd yr ymgynghoriad yn cychwyn ddydd Llun, 13  Medi, a bydd yn para am wyth wythnos tan 8 Tachwedd. Mae'n dilyn penderfyniad y Cabinet ym mis Gorffennaf y dylai’r Cyngor gynnal proses ymgysylltu er mwyn bwrw ymlaen â chyhoeddi'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg erbyn Medi 2022. Bydd y cynllun yn cwmpasu cyfnod o 10 mlynedd hyd at 2032. Cyhoeddwyd fersiwn ddrafft o'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ochr yn ochr ag adroddiad Cabinet ym mis Gorffennaf.

Rhaid i Awdurdodau Lleol yng Nghymru lunio Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae'n ofynnol o dan y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013. Rhaid i’r cynlluniau gynnwys cynigion a thargedau i wella gwaith cynllunio a safonau Addysg ac Addysgu Cyfrwng Cymraeg, ac adrodd ar y cynnydd a wnaed tuag at dargedau penodol yn y meysydd yma.

Targed y Cyngor yn ystod oes 10 mlynedd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg cyfredol, hyd at 2032, yw cynyddu canran disgyblion Blwyddyn 1 mewn Addysg Cyfrwng Cymraeg o 8% i 12% (o 506 i rhwng 720 a 825). Mae'r targed hwn yn seiliedig ar fethodoleg a weithredwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg hefyd yn cynnwys nifer o ddeilliannau penodol, sy'n amrywio o weld rhagor o ddisgyblion meithrin a derbyn, i well darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, rhagor o ddisgyblion yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi'u hasesu yn Gymraeg a chynyddu nifer y staff sy'n gallu dysgu'r Gymraeg fel pwnc.

Gall preswylwyr ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad sydd ar ddod mewn sawl ffordd. Bydd tudalen benodol ar adran Ymgynghoriadau Cyfredol y wefan, ar gael yma - lle bydd gwybodaeth bellach am yr ymgynghoriad a chopi o'r cynllun drafft.

Gall preswylwyr gymryd rhan trwy anfon e-bost (ymgynghori@rctcbc.gov.uk), ffonio (01443 425014), neu ysgrifennu at y Cyngor. Mae cyfeiriad Rhadbost wedi’i nodi ar ein gwefan. Bydd y Pwyllgor Craffu ar faterion Plant a Phobl Ifainc hefyd yn trafod y cynllun drafft, gan chwarae rhan bwysig wrth ei weithredu, paratoi ar ei gyfer a’i werthuso.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Mae'r Cyngor wrthi’n cwblhau ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, a fydd yn ffurfioli targedau i gynyddu nifer y disgyblion cyfrwng Cymraeg dros y 10 mlynedd nesaf. Yn gyffredinol, bydd yn anelu at gynyddu nifer Disgyblion Blwyddyn 1 mewn Addysg Gymraeg rhwng 8% a 12% - tra hefyd yn gosod nifer o nodau penodol eraill, er enghraifft, gwella'r ddarpariaeth ar gyfer dosbarthiadau meithrin a derbyn, a disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

“Mae sicrhau a darparu buddsoddiad cyfalaf ar gyfer ein hysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan allweddol o'r cynllun - ac rwy'n falch bod dau o'n prif gynlluniau gwaith, yn YGG Aberdâr ac Ysgol Rhydywaun, wedi cychwyn dros yr haf. Bydd y prosiectau yma, sydd werth £4.5 miliwn a £12.1 miliwn yn y drefn honno, yn darparu cyfleusterau newydd, gan gynyddu capasiti pob ysgol ar sail y galw lleol cyfredol.

“Cafodd y cynllun drafft ei drafod gan y Cabinet ym mis Gorffennaf, a chytunodd yr Aelodau i’r Cyngor gynnal proses ymgynghori i’w lywio ymhellach. Mae hyn yn cael ei wneud dros wyth wythnos o 13 Medi, wrth i ni weithio tuag at gyflwyno'r cynllun wedi'i ddiweddaru i Lywodraeth Cymru.

“Gall y cyhoedd gymryd rhan mewn sawl ffordd, gan gynnwys bwrw golwg dros y cynllun drafft ar-lein, a rhannu eu barn drwy’r post neu mewn e-bost. Rhan bwysig o'r broses fydd ystyried mewnbwn sefydliadau allanol sy'n chwarae rhan bwysig o ran rhoi’r cynllun ar waith, ynghyd â Phwyllgor Craffu ar faterion Plant a Phobl Ifainc y Cyngor.

“Bydd yr adborth o’r ymgynghoriad hwn yn cael ei goladu a’i adrodd yn ôl i Aelodau’r Cabinet er mwyn iddyn nhw ei drafod cyn i’r cynllun newydd gael ei anfon at Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo yn y Flwyddyn Newydd.”

Wedi ei bostio ar 10/09/21