Skip to main content

Dymchwel adeiladau gwag cartref gofal Dan y Mynydd yn nhref Porth

Artist Impression - Dan y Mynydd complex

Cydnabyddiaeth am y llun: Quattro Design Architects

Mae gwaith bellach ar y gweill i ddymchwel hen adeiladau cartref gofal Dan y Mynydd yn nhref Porth. Byddai hyn yn galluogi Linc Cymru a'r Cyngor i ailddatblygu'r safle yn y dyfodol i fod yn gyfleuster Gofal Ychwanegol.

Does neb wedi byw yn hen adeiladau'r cartref gofal, sydd wedi'u lleoli oddi ar Goedlan Bronwydd, ers cryn amser ac, ym mis Rhagfyr 2020 cytunodd y Cabinet y byddai tai â Gofal Ychwanegol newydd yn cael eu hadeiladu ar y safle. Mae hyn yn unol â strategaeth y Cyngor i foderneiddio opsiynau gofal preswyl i bobl hŷn.

Mae cyfleusterau Gofal Ychwanegol yn darparu llety modern â chymorth 24 awr ar gyfer anghenion wedi’u hasesu pobl hŷn, gan roi'r modd iddyn nhw fyw mor annibynnol â phosibl. Ar y cyd â Linc Cymru, bydd y Cyngor yn darparu 300 o leoedd Gofal Ychwanegol mewn pum datblygiad newydd, gan gynnwys Maesyffynnon yn Aberaman a agorodd y llynedd, a Chwrt yr Orsaf yn y Graig sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

Ym mis Awst 2021, rhoddodd Linc Cymru gyfle i'r gymuned ddweud eu dweud ar gynlluniau cychwynnol ar gyfer ei gyfleuster Gofal Ychwanegol 60 gwely arfaethedig ar safle Dan y Mynydd, sef y trydydd o'r pum datblygiad newydd. Bydd yr adborth yn llywio cais cynllunio Linc Cymru wrth ei osod ger bron y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu i’w ystyried yn y dyfodol.

Yn y cyfamser, ym mis Mai 2021, cafodd Linc Cymru ganiatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau presennol y cartref gofal, gan gyhoeddi hysbysiadau safle yn ystod yr wythnosau diwethaf. Dechreuodd y gwaith ddydd Llun, 6 Medi ac mae disgwyl i'r adeiladau gael eu dymchwel yn ddiweddarach yr wythnos yma. Ymhlith y gwaith cychwynnol i alluogi dymchwel yr adeiladau mae arolwg ystlumod, ynysu gwasanaethau a gosod y safle.

Mae Linc Cymru wedi penodi cwmni Bond Demolition Ltd yn gontractwr i gyflawni'r gwaith ac mae disgwyl iddo bara tua 10 wythnos. Bydd y contractwr yn anfon llythyron at drigolion sy'n byw'n agos i'r safle i amlinellu natur y gwaith. Y prif beth fydd yn tarfu ar drigolion lleol yw'r lorïau sy'n cludo deunyddiau i'r safle ac oddi yno. Mae'r gwaith yma'n angenrheidiol a bydd yn cael ei gynnal y tu allan i'r oriau brig.

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau i Oedolion: “Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i'r gymuned am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyn ymgeisio ym mis Awst. Rhoddodd hyn adborth pwysig i Linc Cymru cyn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y cyfleuster Gofal Ychwanegol arfaethedig. Bydd cyfle arall i'r cyhoedd ddweud eu dweud maes o law, unwaith y bydd y cynlluniau wedi'u gosod ger bron y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn ffurfiol.

“Mae'r cynllun Gofal Ychwanegol wrth wraidd ymrwymiad y Cyngor i foderneiddio gwasanaethau gofal preswyl lleol a chynyddu opsiynau i bobl hŷn. Yn debyg i ddatblygiad Maesyffynnon yng Nghwm Cynon, mae'r cyfleusterau yma o'r radd flaenaf, gan gynnig cymorth 24 awr ar gyfer anghenion wedi'u hasesu. Maen nhw hefyd yn cynnig ystod o gyfleusterau ehangach gyda chyfleoedd i ymgysylltu â'r gymuned mewn  modd ystyrlon.

“Mae contractwr penodedig Linc Cymru bellach wedi dechrau gweithio tuag at ddymchwel hen adeiladau cartref gofal Dan y Mynydd, ar ôl sicrhau caniatâd cynllunio ym mis Mai. Bydd y Cyngor, Linc Cymru a'r contractwr yn gweithio'n agos i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl, heb fawr o darfu ar drigolion lleol.

“Bydd y gwaith dymchwel sydd ar y gweill yn galluogi ailddatblygiad posib o’r safle yn y dyfodol er mwyn ei ddefnyddio eto. Wrth i Linc Cymru, ar y cyd â'r Cyngor, geisio caniatâd llawn ar gyfer ei gynlluniau Gofal Ychwanegol, byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf â thrigolion."

Ychwanegodd Rheolwr Datblygu Linc, Richard Hallett: “Wrth i’r gwaith ddechrau ar ddymchwel cartref gofal Dan y Mynydd sy'n wag bellach, rydyn ni'n falch o fod yn dechrau gweithio ar gynllun Gofal Ychwanegol newydd yn nhref Porth. Bydd cam cyntaf y gwaith dymchwel yn digwydd y tu mewn i'r adeilad wrth i ni dynnu'r gwaith saer mewnol oddi yno. Rydyn ni'n amcangyfrif y bydd y broses ddymchwel lawn yn cymryd 10 wythnos a byddwn ni'n gweithio'n agos gyda'n contractwr i darfu cyn lleied â phosib ar drigolion lleol.

“Byddai'r cynllun 60 fflat arfaethedig yma, ar y cyd â Chyngor Rhondda Cynon Taf, yn ychwanegiad gwych i dref Porth. Wrth ddefnyddio'r safle yma, byddai modd i ni ddarparu cartrefi o ansawdd uchel sy'n galluogi pobl i fyw bywyd annibynnol, gyda mynediad at unrhyw ofal a chymorth sydd eu hangen arnyn nhw."

Wedi ei bostio ar 10/09/21